Wedi blwyddyn fyrlymus drwyddi draw, dyma ddadansoddiad ein Gohebydd Materion Cyfoes o rai o brif benawdau 2023…


Ymddeoliadau, TikTok ac addysg Gymraeg

Gareth Bale yn cymeradwyo'r Wal Goch
Gareth Bale yn ffarwelio’n swyddogol

Cychwynnodd y flwyddyn ar nodyn trist i ffans pêl-droed Cymru, wrth i Gareth Bale gyhoeddi ei fod yn ymddeol o’r gamp.

Dyma’r torcalon cyntaf o nifer, wrth i Joe Allen a Chris Gunter hefyd gyhoeddi eu hymddeoliad yn ystod chwarter cynta’r flwyddyn.

Bu’r streic gyntaf o lawer yn y penawdau, sef streiciau’r Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol ac yr undebau athrawon NAHT a NEU dros dal ond gohirwyd streiciau pellach wedi i’r undeb NEU dderbyn cynnig tal yn y pen draw.

Darllenwch ragor am y streiciau.

Yn ystod fis Ionawr bu i 250 o ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith ymgynnull yng Nghaerfyrddin er mwyn galw am addysg Gymraeg i bawb a bu cam cadarnhaol ymlaen yn y frwydr ddiwedd mis Mawrth wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cyfres o gynigion ar gyfer y bil.

Cafodd £208m ei ddyrannu i gynghorau lleol Cymru trwy gyllideb Codi’r Gwastad Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond bu cryn dipyn o feirniadaeth gan Lywodraeth Cymru gan fod y genedl yn disgyn £1.1bn yn brin yn dilyn Brexit.

Wrth symud i fis Chwefror, daeth cyhoeddiad y byddai prosiectau adeiladu ffyrdd mawr yn cael eu gohirio ynghyd â’r cynlluniau i adeiladu trydedd bont dros y Fenai, a hynny oherwydd pryderon amgylcheddol.

Bu penawdau pryderus wrth i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fethu eu targedau amseroedd aros.

Fis Mawrth, digwyddodd y prif ddigwyddiad i rai ar y calendr Cymreig, Cân i Gymru, gydag Alistair James a Dylan Morris yn cipio’r fuddugoliaeth gyda chân go wahanol – Patagonia.

A chafodd yr ap TikTok hefyd ei wahardd oddi ar ddyfeisiau swyddogol Llywodraeth Cymru dros bryderon diogelwch.

Bu cychwyn ton newydd o ddiddordeb ym mhêl-droed menywod, a gosododd menywod Wrecsam record newydd ar gyfer presenoldeb gyda 9,511 yn gwylio eu gem yn erbyn menywod Y Fenni.

Bwlio, cloddio a’r Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

Wrth groesawu mis Ebrill, penderfynodd Bannau Brycheiniog ddweud hwyl fawr wrth eu henw Saesneg unwaith ac am byth.

Yna, daeth y newyddion bod yn rhaid i bwll glo brig Ffos-y-Fran ger Merthyr Tudful gau wedi i’r cais i ymestyn ei weithrediad gael ei wrthod.

Newyddion da fu i glwb pêl-droed Wrecsam wrth iddyn nhw ennill dyrchafiad yn ôl i Gynghrair Bêl-droed Lloegr am y tro cyntaf ers 15 mlynedd.

I gloi’r mis, dywedodd Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, nad yw’n credu dylid datganoli mwy o bwerau i Gymru.

Roedd mis Mai yn gychwyn cyfnod cythryblus i S4C, pan ddaeth yr honiadau cyntaf o fwlio ac o amgylchedd tocsig, ddiwrnod cyn i’r adroddiad Prosiect Pawb gydnabod bod diwylliant o gwreig gasnieb a bwlio o fewn Plaid Cymru hefyd.

Rhun ap Iorwerth ym Mae Caerdydd

Arweiniodd hyn at Adam Price, arweinydd y Blaid ar y pryd, yn camu o’r neilltu a’n cael ei ddisodli gan yr arweinydd dros dro, Llŷr Gruffydd.

Wedi ras un dyn, cafodd Rhun ap Iorwerth ei enwi yn arweinydd Plaid Cymru fis Mehefin, wrth iddyn nhw wynebu’r her o ymateb i 82 o argymhellion Prosiect Pawb.

Bu farw dau ddyn ifanc yn dilyn gwrthdrawiad yn Nhrelái gan sbarduno terfysg arweiniodd, yn y pen draw, at ddegau o arestiadau.

Roedd buddugoliaeth fach i’r iaith wrth i Ryan Reynolds lofnodi cytundeb gyda S4C a fyddai’n golygu bod rhaglenni Cymraeg yn cael eu dangos yn yr Unol Daleithiau ar ei sianel, Fubo.

I gloi hanner cynta’r flwyddyn, daeth apêl funud olaf gan Ffos-y-Fran yn erbyn y gorchymyn i roi’r gorau i gloddio yno.

Eisteddfota, penblwyddi a therfynau cyflymder

Mae lle i gredu bod oddeutu 10,000 o bobol wedi ymuno â’r orymdaith dros annibyniaeth ym Mangor fis Gorffennaf, un o’r nifer o orymdeithiau a fu eleni.

Bu Alfie Boe yn perfformio yn Eisteddfod Llangollen, ac er gwaetha’r edrych ymlaen roedd cysgod du dros y Sioe Frenhinol gyda dyfodol cyllidebau ffermio yn y fantol.

Enillodd Gerwyn Price a Johnny Clayton Gwpan Dartiau’r Byd, tra bod Cheryl Foster yn ddyfarnwr Cymreig cyntaf mewn gem Cwpan y Byd ers 1978.

Bu galwadau am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru, tra bod Mark Drakeford wedi amddiffyn y cyn-Weinidog Iechyd Vaughan Gethnig am iddo beidio â darllen gwaith papur ynglŷn â’r pandemig nes yr ymholiad.

Cafodd pryderon newydd eu codi am raddfa tlodi plant yng Nghymru, wrth i ginio ysgol am ddim i blant gael ei ohirio dros yr haf o ganlyniad i straen ar y gyllideb.

Yn ystod yr un mis, daeth honiadau cyn cadarnhau mai’r darlledwr Huw Edwards oedd yr unigolyn oedd wedi anfon negeseuon amhriodol, gan ddod â’i gyfnod yn y BBC i ben.

Wedi blwyddyn o aros yn amyneddgar, dychwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol fis Awst, y tro hwn yn Llŷn ac Eifionydd.

Yn ystod wythnos fyrlymus, cipiodd Alan Llwyd y gadair; Rhys Iorwerth y Goron ac Alison Cairns oedd dysgwr y flwyddyn yn ystod Eisteddfod olaf Myrddin ap Dafydd yn Archdderwydd.

Myrddin ap Dafydd, yn croesawu’r aelodau newydd i’r Orsedd ar ei flwyddyn fel Archdderwydd, a hynny’n agos i’w gynefin.

Denodd Bwncath dorf o dros 10,000 ar nos Sul agoriadol yr ŵyl, ac yn hwyrach yn yr wythnos cadarnhaodd Mark Drakeford ei fwriad i gamu o’i rôl.

Wrth agosáu at ddiwedd y mis, daeth Abi Tierney yn Brif Weithredwr benywaidd cyntaf Undeb Rygbi Cymru, wedi cyfnod cythryblus o honiadau o ymddygiad amhriodol o fewn yr Undeb.

Ac i gloi fis Awst, bu un o’r sêr mwyaf y byd Cymreig yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 – Penblwydd Hapus Dafydd Iwan!

Fis Medi, bu ymateb chwyrn ar ôl cyhoeddi buddsoddiad o £500m yn safle gwaith dur Tata ym Mhort Talbot, gan godi pryderon y byddai oddeutu 3,000 o swyddi’n cael eu colli.

Ond prif stori’r mis oedd un o bolisïau mwyaf dadleuol y flwyddyn – y terfyn cyflymder 20 m.y.a.

Arwyddodd record o dros 450,000 ddeiseb y Senedd yn gwrthwynebu’r polisi, tra wynebodd Aelodau fygythiadau gan y cyhoedd.

Daeth y mis i ben drwy ddathlu eicon arall oedd yn troi’n 80 oed, gyda cherflun i Max Boyce yn cael ei ddadorchuddio ger ei gartref yng Nglyn-nedd.

Rygbi, rhyfela a ras arweinyddol

Bu’r chwarter olaf yr un mor gythryblus gyda phrotestio yn erbyn cartrefu ceiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli, a chafodd y cynlluniau eu gohirio yn y pen draw.

Cafodd cynlluniau ar gyfer rheilffordd HS2 eu gohirio hefyd, gyda Rishi Sunak yn addo £1bn i drydaneiddio prif reilffordd y gogledd.

Rogue Jones oedd enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig gyda’u halbwm Dos Bebés, ac fe wnaeth Cymru orffen ar frig eu grŵp yn ystod rownd gyntaf Cwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc, ond dyna ddiwedd eu llwyddiant yn y gystadleuaeth honno.

Cafodd Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C, ei diswyddo wedi iddi gamymddwyn wrth weithio ar y gystadleuaeth yn Ffrainc, a bu mwy o newyddion drwg i S4C tua diwedd y flwyddyn wrth i Siân Doyle gael ei diswyddo ac i adroddiad damniol gael ei ryddhau ynglŷn â diwylliant y sefydliad.

Bu cwmwl du arall dros gyllid, wrth i doriadau gael eu gwneud ar draws y mwyafrif o sectorau er mwyn blaenoriaethu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a thrafnidiaeth.

Cafodd y sianel newyddion dadleuol GB News ei gwahardd o sgriniau’r Senedd, wedi i Elin Jones godi pryderon ei bod yn “fwriadol sarhaus”, gan arwain at ddadlau rhyngddi hi ac Andrew RT Davies ar gyfryngau cymdeithasol.

Jeremy Miles a Vaughan Gething

Ddiwedd mis Hydref, dechreuodd y rhyfel trychinebus rhwng Israel a Gaza a bu galwadau am gadoediad gan sawl gwleidydd a mudiad ar draws Cymru, cefnogodd y Senedd gadoediad yn dilyn pleidlais.

Cafodd swyddfa Jo Stevens, llefarydd Cymreig y Blaid Lafur, ei fandaleiddio wedi iddi atal rhag pleidleisio am gadoediad yn San Steffan.

Daeth gwaharddiad ar blastig untro, ymgynghoriad ar newidiadau i strwythur y flwyddyn ysgol, a mwy fyth o benawdau am amseroedd aros hir yn y maes iechyd.

Daeth ymchwiliad annibynnol i Undeb Rygbi Cymru i’r casgliad bod diwylliant o gam-drin a gwahaniaethu yno, a daeth Dawn Bowden, y Gweinidog Chwaraeon, o dan y lach yn sgil honiadau ei bod wedi torri’r cod gweinidogol wrth ymdrin â’r sgandal.

Wrth i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri bleidleisio o blaid defnyddio’r enw uniaith Gymraeg sbardunwyd trafodaethau a ddylid dilyn eu hesiampl.

Heidiodd miloedd o gefnogwyr pêl droed i Armenia, lle bu pryderon ynghylch y ffordd y cafodd cefnogwyr eu trin gan yr heddlu. Mae Cymru bellach yn wynebu’r gemau ail gyfle yn 2024.

I gloi’r flwyddyn, cyhoeddodd Mark Drakeford ei fod yn camu o’r neilltu’n swyddogol y flwyddyn nesaf, a Jeremy Miles a Vaughan Gething yw’r unig ymgeiswyr yn y ras i’w olynu, gyda phryderon ynglŷn â’r heriau sy’n dal menywod yn ôl rhag sefyll.

Ychydig ddyddiau cyn y Nadolig, daeth y newyddion bod YesCymru wedi diswyddo eu Prif Weithredwr, Gwern Gwynfil, dros bryderon ariannol. Ond wrth siarad â golwg360, mae Gwern Gwynfil wedi amddiffyn y rôl fel un sy’n allweddol ar gyfer y mudiad.

Tybed beth ddaw yn 2024? Cawn weld!