Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y cogydd o Gaernarfon Chris ‘Flamebaster’ Roberts sy’n rhannu ei atgofion bwyd yr wythnos hon. Mae ei gyfres newydd Siwrna Scandi Chris i’w weld ar S4C Clic. Mae Chris yn byw yng Nghaernarfon gyda’i bartner Amy a’u tri o blant…
Dwi’n cofio pan o’n i’n fach iawn – ro’n i dal yn cropian – a gweld llwyth o gwningod a ffesantod yn hongian yn y garej. Oedd Dad yn licio hela. Pan oeddan ni’n blant, oedd Dad bob tro yn gorfod deud ‘na chicken neu rwbath arall oeddan ni’n gael i fwyta! Dw i’n lwcus bod fy mhlant i yn bwyta’n arbennig o dda ac yn reit anturus efo bwyd.
Dw i wedi bod yn lwcus iawn – mae Mam a Dad fi, a’r ddwy Nain yn chefs amazing. Oedd Dad yn mynd i Batagonia lot, am ryw fis ar y tro, i bysgota fel hobi a dw i’n cofio fo’n deud storis am goginio dros dân a hynna wnaeth ysbrydoli fi i gychwyn coginio efo tân.
Y bwyd sy’n rhoi cysur i fi ydy tatws yn popty. A dw i’n gwybod bod tatws yn popty yn golygu gwahanol bethau i bobl mewn gwahanol ardaloedd o Gymru, ond, i fi, mae’n ysgwydd o lamb wedi’i gwcio’n ara’ deg ar ben tatws, moron a rwdan. Mae’n one-pan dish amazing. Mae’n grêt yn y gaeaf. Dw i wedi gwneud un gaea’ yma’n barod a dw i’n siŵr o wneud lot mwy.
Mae fy mhryd delfrydol yn dibynnu be ‘di’r mŵd, ond mae bwyta bwyd môr lleol, efo teulu, mêts neu efo’r sgotwyr, yn reit cŵl. Ac mae dal draenog y môr a’i gwcio reit wrth y Fenai yn sbeshal hefyd.
Be sy’n amazing am fwyd ydy bod o’n gallu transportio chdi nol mewn amser, fatha mae ogla’ tatws yn popty yn gwneud i fi feddwl am gegin Nain, a chinio Dydd Sul efo’r teulu pan o’n i’n ifanc. Mae cinio Dolig wastad yn dod ag atgofion nôl o pan o’n i’n fach.
Os dw i’n cwcio i lwyth o bobl, na’i wneud lamb – ŵyn mynydd Eryri cyfan – ar y tân. Hwnna ydi’r request dw i’n gael fwya’ aml.
Mae holl benodau Siwrna Scandi Chris ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Gallwch ddarllen cyfweliad gyda Chris yn rhifyn Nadolig Golwg (Rhagfyr 21).