Ar drothwy’r ŵyl, dyma lythyr Nadolig gan y Parchedig Nan Powell Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru.


Wrth i ni deithio drwy’r Adfent, fe edrychwn ymlaen at rai o ddyddiadau gorau’r flwyddyn. Cyn bo hir byddwn yn dathlu Gŵyl Nadolig arall, gan ryfeddu gyda’n gilydd at ras Duw yn disgleirio yn y baban mewn preseb. Wythnos yn ddiweddarach byddwn yn ffarwelio â 2023 ac yn croesawu 2024. Mae’n amser cyffrous ac yn gyfle i ni fyfyrio ar yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn a aeth heibio.

Dwi newydd orffen pererindod heddwch, lle bûm yn cerdded llwybr y Pererinion ar draws Gogledd Cymru yng nghwmni ffrindiau o Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ffrindiau o Gymorth Cristnogol ac enwadau eraill hefyd. Yn ystod ein taith cynhaliwyd 11 cyfarfod, yn syml iawn i ddymuno Nadolig llawen ac ewyllys da i bawb o ewyllys da a oedd wedi dod i addoli gyda ni yn y llefydd hynny o addoliad. Rhannwyd ein hiraeth am weld heddwch a chyfiawnder yn llifo ymhlith cenhedloedd y ddaear. Geiriau pennill olaf ‘I orwedd mewn preseb’ fydd yn aros yn fwyaf byw yn fy nghof a hynny ar ôl ei chanu droeon yn ystod y bererindod. Rhoddwyd cyfle i bawb gofnodi enw un o’r miloedd o blant Gaza ac Israel sydd wedi eu lladd yn y gyflafan ers Hydref y 7fed.

Tyrd Iesu, i’m hymyl, ac aros o hyd 

I’m caru a’m gwylio tra bwyf yn y byd; 

Bendithia blant bychain pob gwlad a phob iaith,  

A dwg ni i’th gwmni ar derfyn ein taith.  

Yn wyneb yr angen am heddwch a chyfiawnder, buom yn codi llais eleni gydag eraill, gan alw am fyd tecach. Ynghyd â’n partneriaid yn y Cyngor Cenhadaeth Fyd-eang (CWM), fe wnaethom dynnu sylw at y sefyllfa anghredadwy sy’n wynebu’r miliynau o bobl sydd wedi eu dal yn gaeth yn Gaza. Fe wnaethon ni alw ar Israel i roi’r gorau i’w bomio a rhoi sylw i’r argyfwng dyngarol sy’n traflyncu’r rhanbarth. Fe wnaethom hefyd dynnu sylw at y sefyllfa sy’n wynebu miloedd o Gristnogion ym Manipur, talaith yng Ngogledd Ddwyrain India lle mae gennym gymaint o gysylltiadau oherwydd ein gwaith cenhadol. Bu tonnau o drais a braw yn yr ardal honno ers mis Mai, gan orfodi llawer o Gristnogion i ffoi am eu bywydau i’r taleithiau cyfagos. Lansiwyd Apêl gweddi ym mis Hydref, ac rydym wedi parhau i gyfarfod i weddïo yn bob bore Gwener dros zoom yng nghwmni pobl sydd â Manipur a’r ardal ar eu calonnau. Rydym yn parhau hefyd i godi llais yn erbyn yr anghyfiawnderau sy’n wynebu Cristnogion, ac eraill, ym Myanmar, lle gall siarad gwirionedd wrth rym ddod â chosb ffyrnig gan gynnwys marwolaeth.

Diolchwn am bob diwydrwydd yn ein plith fel enwad, a’r awydd sydd i blesio’r Arglwydd ym mhopeth a wnawn. Tra bo llawer o leisiau yn sôn am ddirywiad eglwysig, rydym yn weddigar a thrwy ras Duw, wedi mentro creu nifer o brosiectau arloesol, gan alluogi mynegiant newydd o gyflwyno’r Efengyl ar draws y wlad. Mae’r heriau mawr yn ein hwynebu, ond gyda chymorth yr Arglwydd edrychwn i’r dyfodol gyda ffydd. Ac mae hyn hefyd yn wir am y cynlluniau newydd sydd ar y gweill yng Ngholeg Trefeca. Dyma un o drysorau mwyaf ein cenedl, heb sôn am drysor i ni fel enwad, lle sy’n adlewyrchu canrifoedd o ddisgyblaeth, cenhadaeth a dysg. Ond yn awr, dan arweiniad y Parch Wayne Adams a’i dîm, mae pennod newydd yn agor i’r lle hynod hwn. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i’ch croesawu yn 2024 yn Nhrefeca.

I lawer, mae’r Adfent yn gyfnod o gofio poenus am anwyliaid nad ydyn nhw gyda ni mwyach. Yr ydym fel teulu’r eglwys yn galaru am farwolaeth amryw o’n gweinidogion, gan gynnwys dau gyn-lywydd. Cofiwn hwy yn annwyl a diolchwn i Dduw am eu gwasanaeth ffyddlon. Gweddïwn gysur yr Arglwydd ar eu teuluoedd a phawb sy’n galaru.

Yn olaf, chwiorydd a brodyr, boed i ni i gyd yn awr bresenoldeb parhaol Duw pob cysur y Nadolig hwn. Wrth inni ymdrechu tuag at fyd mwy heddychlon a chyfiawn, bydded i Dywysog Tangnefedd deyrnasu yn ein calonnau, ein cartrefi a’n heglwysi.

Gyda llawer o gariad a bendith,

Nan