Mae troi adeilad yng Ngwynedd yn uned wyliau heb ganiatâd wedi ennyn dicter o ganlyniad i “amharch” at y broses gynllunio.
Daw’r sylwadau ar ôl i bwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd wrthod cais am ganiatâd cynllunio ôl-weithredol ar gyfer datblygiad ym Mhenisarwaun ger Caernarfon.
Roedd yr adeilad, oedd yn cynnwys ffenest oedd yn cael ei disgrifio fel un “enfawr” ac “erchyll”, wedi arwain at lu o wrthwynebiadau.
Ond roedd swyddogion cynllunio wedi argymell cymeradwyo’i ddefnydd fel llety gwyliau.
Rhwystredigaeth ynghylch “y neges anghywir”
Roedd rhai cynghorwyr wedi mynegi rhwystredigaeth, gan ddweud eu bod nhw’n teimlo y byddai ei gymeradwyo’n anfon y “neges anghywir”.
Roedd y cais wedi ennyn gwrthwynebiadau gan y cyngor cymuned lleol ynghylch “effaith niweidiol ar ardal fach dawel yng nghefn gwlad Cymru”.
Roedd “nifer fawr” o lythyrau gan bobol leol wedi codi materion megis honiadau bod y datblygiad am gael effaith negyddol ar yr ardal breswyl, ei fod yn amharu ar gymdogion, yn arwain at golli preifatrwydd, ac yn dinistrio cymeriad yr ardal.
Roedd pryderon hefyd am fynediad, traffig, sbwriel a sŵn.
Roedd swyddogion cynllunio wedi dadlau eu bod nhw’n credu nad oedd y datblygiad yn “llety gwyliau eithriadol o fawr”, ac nad oedd yn arwain at golli stoc dai’n barhaol.
Dywedodd y swyddog cynllunio Keira Sweenie ei fod yn cael ei dderbyn ei fod yn “bodloni gofynion polisi”, gan nodi nad oedd cwblhau’r gwaith datblygu cyn derbyn caniatâd cynllunio’n “rheswm dilys dros wrthod”.
Daeth y mater gerbron cynllunwyr ym mis Ionawr, pan oedd yr ymgeisydd “wedi cael cyfle” i leihau faint roedd y datblygiad yn edrych dros bethau eraill.
Roedden nhw hefyd wedi derbyn cais “sawl gwaith” am ddogfennau’n manylu ar reolau gweithredu’r uned wyliau – er mwyn lleihau pryderon cymdogion – “ond doedd gwybodaeth ddim wedi cael ei chyflwyno”.
Wrth gydnabod pryderon lleol na fu unrhyw newidiadau i’r cais, cafodd ei argymell i’w gymeradwyo, meddai.
Dywedodd yr aelod lleol Elwyn Jones fod y datblygiad wedi digwydd “heb unrhyw fath o gais cynllunio, ac roedd wedi cael effaith ar sawl eiddo cyfagos”.
“Y neges yma ydi, os ydych chi’n ansicr, gwnewch o’r un fath, peidiwch ateb, a bydd popeth yn mynd drwodd yn y pen draw,” meddai.
“Dyna dw i’n ei weld yn hyn.
“Mi welais i’r adeilad gwreiddiol, ac nid dyma’r uchder gwreiddiol – does dim ffordd o brofi hynny rŵan, oherwydd mae’r datblygiad wedi cael ei gwblhau.
“Fedra i ddim dychmygu, pe bai cais arferol wedi dod i mewn efo hyn, o ganlyniad i’w leoliad a’r adeilad, dw i bron yn sicr y byddai o wedi cael ei wrthod.”
“Pan ddaeth o i fyny y tro diwethaf, wnaethon ni ddim gofyn am bâr o lenni, fe wnaethon ni ofyn iddyn nhw flocio ffenestri er mwyn osgoi edrych dros bethau eraill – does gan y datblygwr ddim ots am ein penderfyniadau,” meddai’r Cynghorydd Gruff Williams, wrth gynnig bod y cais yn cael ei wrthod.
Dywedodd y Cynghorydd Louise Hughes nad oedd hi’n “hapus o gwbl”, gan ychwanegu bod y datblygwr “jyst wedi bwrw ymlaen, gan ddiystyru’r broses gynllunio”.
“Mi wnaeth o hefyd anwybyddu pryderon pobol leol sy’n byw drws nesaf.
“Reoddwn i ar ymweliad â’r safle, ac a bod yn blwmp ac yn blaen, mae’r ffenest honno’n enfawr ac allan o gymeriad.
“Pa fath o neges ydy hynny’n ei hanfon?
“Peidiwch â phoeni, oherwydd bydd y pwyllgor cynllunio’n ei basio beth bynnag.”
“Ie, iawn, am wn i mae o o fewn y polisi cynllunio, ond gonestrwydd y penderfyniad ydy hyn, a dydy o ddim wedi symud i ddatrys y problemau.
“Dw i ddim yn hapus, mae’n dangos diffyg parch at y broses gynllunio a’r pwyllgor cynllunio.”
‘Erchyll’
“Fe wnes i ymweld â’r safle, ac mae’r ffenest honno’n erchyll,” meddai’r Cynghorydd Gareth Jones.
“Wn i ddim sut fedr o gael ei gymeradwyo.
“Mae’n enfawr.
“Mae’n cael effaith sylweddol ar gyfleusterau, mae’n ymwthiol.”
Roed y Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths yn teimlo bod y ffordd yn “gul” ac nad oedd y ffenest fawr yn “gweddu” a’i bod yn edrych dros bethau.
“Efallai ei fod o o fewn y rheolau, ond ydi o’n foesol gyfiawn?” ychwanegodd y Cynghorydd Louise Hughes.
“Mae o wedi dangos diffyg parch i bob agwedd ar y cais cynllunio.
“Mae’n anfon neges, ‘gwnewch beth fynnoch chi, gwnewch eich cais, adeiladwch yr hyn fynnoch chi, gadewch i ni gael McDonald’s gyrru-heibio tra ein bod ni wrthi’.”
Fe wnaeth y Cynghorydd Gruff Williams gynnig gwrthod o ganlyniad i edrych dros bethau eraill a’r effaith ar gyfleusterau trigolion, ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Louise Hughes.
Pleidleisiodd pump o blaid gwrthod, a phedwar yn erbyn.