Mae ymgyrchwyr yn galw am roi’r hawl i aelodau seneddol ofyn mwy o gwestiynau am y teulu brenhinol yn San Steffan.
Mae’r ymgyrchwyr yn awyddus i weld aelodau seneddol yn cael holi am aelodau’r teulu heb gyfyngiadau arnyn nhw.
Ar hyn o bryd, hyn a hyn o gwestiynau all aelodau seneddol eu gofyn, ac mae hynny’n ei gwneud hi’n fwy anodd craffu arnyn nhw a sicrhau eu bod nhw’n atebol, medd y mudiad Republic.
Daw’r alwad yn dilyn honiadau am gysylltiadau’r Tywysog Andrew ac ysbïwr o Tsieina.
‘Annioddefol’
“Mae’n annioddefol nad oes gan aelodau seneddol ryddid llwyr i drafod aelodau unigol o’r teulu brenhinol,” meddai Graham Smith o Republic.
“Rhaid bod ein senedd yn rhydd i drafod unrhyw beth, heb ofn na ffafriaeth.
“Mae’r teulu brenhinol i fod i osod safonau uchel o ran ymddygiad, ond eto maen nhw’n cael eu cyhuddo o dwyll, cyfrinachedd a pherthnasau â nifer o bobol mae modd cwestiynu eu cymeriad.
“Andrew yw’r targed mwyaf amlwg o ran craffu yn y senedd.
“Ond mae gan Charles a William gwestiynau i’w hateb am eu dewis amheus o ffrindiau, eu cyfrinachedd a’u camddefnydd o arian cyhoeddus.
“Mae’n warthus nad yw aelodau seneddol yn rhydd i drafod y teulu brenhinol pryd bynnag maen nhw’n dewis gwneud hynny, ond yn cael gwybod fod yna gwestiynau nad oes modd iddyn nhw eu gofyn, a materion nad oes modd iddyn nhw eu codi.
“Mae’r frenhiniaeth wedi’i gwarchod gan gyfrinachedd a gwrogaeth swyddogol.
“Rhaid i hynny ddod i ben, a rhaid bod ein cynrychiolwyr etholedig yn rhydd i herio’r twyll mae’r teulu brenhinol yn ei guddio’n agored.”