Mae dyn o Lundain sydd heb gysylltiad o gwbl â Chymru yn anelu i fod yn un o’r miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Cafodd Simon Gregory ei ysbrydoli gan darged Llywodraeth Cymru i fynd ati i ddysgu’r Gymraeg, gan deimlo awydd i gefnogi iaith a diwylliant lleiafrifol unigryw yng ngwledydd Prydain.
Bellach, mae’n dweud mai dysgu Cymraeg yw ei ddiddordeb pennaf.
Taith iaith
Dechreuodd Simon Gregory ddysgu Cymraeg mewn dosbarth ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
“Dw i’n gweld yr iaith yn ddiddorol iawn, a dw i wedi dysgu llawer am ddiwylliant a hanes Cymru,” meddai.
“Gan fy mod i’n byw yn Llundain, dw i ddim yn gweld na chlywed yr iaith yn aml, ond dw i’n gwneud ymdrech i ddod o hyd i gyfleoedd i siarad yr iaith.
“Dw i’n aelod o grŵp sy’n sefydlu cell o Gymdeithas yr Iaith yn Llundain, a dw i hefyd yn gwirfoddoli ar brosiect Deiseb Heddwch, yn trawsgrifio enwau a chyfeiriadau y rhai wnaeth lofnodi’r ddeiseb yn 1923-24.
“Dw i’n cael sgwrs wythnosol drwy gynllun Siarad y Ganolfan Dysgu Cymraeg gydag un person ym Mhorthcawl (dros WhatsApp), a dysgwr sy’n byw yn fy ardal i (mewn caffi).
“Dw i’n aelod o Gôr Gwalia, côr meibion yn Llundain, ac yn mwynhau darllen llyfrau Cymraeg a gwylio S4C, yn enwedig Pobol y Cwm!
“Dw i hefyd yn ymweld â Chymru mor aml â phosib.”
‘Edmygu’
Mae Tracey Eccott, sy’n diwtor Dysgu Cymraeg, wedi bod yn dysgu’r iaith i Simon Gregory ers nifer o flynyddoedd.
Mae’n dweud ei bod yn bleser ei gael yn y dosbarth, gyda’i frwdfrydedd heintus, a’i fod yn dod â hiwmor a phositifrwydd i’r ystafell ddosbarth rithiol.
“Dw i’n edmygu’r ffordd mae Simon wedi mynd ati’n rhagweithiol i geisio cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol,” meddai.
“Mae ei barodrwydd i fanteisio ar gyfleoedd i ymarfer ei Gymraeg, mewn sefyllfaoedd wyneb yn wyneb yn Llundain, yn ystod amryw gyrsiau preswyl yng Nghymru a thrwy gymryd rhan mewn gweithgareddau ar-lein, yn allweddol i’w lwyddiant fel siaradwr newydd.”