Mae Aelod o’r Senedd wedi beirniadu penderfyniad “hollol dwp, tu ôl i ddrysau caeëedig” ei gydweithwyr i ethol eu hunain am rolau ar gorff rhyng-seneddol.
Fe wnaeth Alun Davies o’r Blaid Lafur feirniadu’r broses o enwebu cynrychiolwyr y Senedd ar gynulliad partneriaeth seneddol y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, gafodd ei sefydlu yn dilyn Brexit.
Fe wnaeth Alun Davies, sy’n cynrychioli Blaenau Gwent, feirniadu’r penderfyniad gafodd ei ddatgelu mewn llythyr at Aelodau’r Senedd gan Elin Jones, y Llywydd.
Penderfynodd fforwm y cadeiryddion, sy’n gyfuniad o gadeiryddion pwyllgorau’r Senedd, enwebu dau o’u haelodau eu hunain yn dilyn “trafodaeth tu allan i’r fforwm”.
Wrth gyfeirio at y llythyr yn ystod cyfarfod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth ddoe (dydd Llun, Ionawr 13), dywedodd Alun Davies ei fod yn “anghytuno”.
“Dw i’n credu ei fod yn benderfyniad twp, â bod yn onest, penderfyniad hollol dwp.”
‘Gwarthus’
“Nawr, does dim syndod fod fforwm y cadeiryddion yn penderfynu y dylai cadeiryddion gynrychioli’r Senedd,” meddai Alun Davies wedyn.
“Does fawr o syndod yn y fan honno, ond mae’r ffaith nad oes gennym ni gynrychiolydd o’r pwyllgor hwn ar gynulliad partneriaeth seneddol y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn warthus, o ystyried taw’r pwyllgor hwn sydd wedi gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith ar hynny.”
“Ar y cyfan, dw i’n credu y dylai’r Senedd wneud pob un penodiad yn hytrach na phwyllgorau’n cyflwyno enwau,” meddai Mike Hedges, sy’n cadeirio’r pwyllgor.
Yn ei llythyr, cadarnhaodd Elin Jones y bydd cadeiryddion pwyllgorau’r economi a’r diwylliant yn cynrychioli’r Senedd yn y cynulliad partneriaeth seneddol.
Ysgrifennodd hi fod aelodau wedi cytuno i “benderfynu ar ddyrannu rolau ar y cyd â chadeiryddion y pwyllgorau hynny tu allan i gyfarfod fforwm y cadeiryddion”.
‘Anghywir’
Ond doedd Alun Davies, cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru fu’n aelod o’r meinciau cefn ers cael ei ddiswyddo gan Mark Drakeford yn 2018, ddim yn fodlon.
“Does gen i ddim hysbysiad o fforwm y cadeiryddion, yn amlwg dw i ddim yn rhan ohono fe,” meddai.
“Does gen i ddim mewnbwn iddo fe… a dim adroddiad heblaw’r nodyn hwn yn dweud bod y cyfan wedi cael ei benderfynu.
“Dw i’n credu mai’r penderfyniad anghywir yw hwn.
“Dw i ddim yn credu mai dyma’r ffordd i wneud penderfyniadau mewn democratiaeth – y tu ôl i ddrysau caeëdig – dw i’n credu mai dyna’r penderfyniad hollol anghywir i’w wneud.”
“Efallai y gallwn ni fynd i fwy o fanylder yn y sesiwn breifat,” meddai Mike Hedges.
Cytunodd y pwyllgor i gau’r cyhoedd a’r wasg allan o weddill y cyfarfod, heb roi rheswm dros wneud hynny fel sy’n ofynnol yn ôl rheolau’r Senedd.