Wedi gwledda’r Nadolig, rwy’ o hyd yn ysu am sbeis a gweadau gwahanol i’m prydau bwyd. Mae Ionawr yn amser gwych i arbrofi â blasau newydd a chyfuniadau diddorol ac anghyffredin.

Weithiau, mae’r cyfuniadau yn gweithio (a dro arall efallai nad ydyn nhw). Ond dyma, yn fy marn i, gyfuniad blasus ac anghyffredin i gyd-fynd â chig eidion; rhywbeth bur wahanol i’r horseradish a’r mwstard sydd mor gyfarwydd i ni gyd.

Mwynhewch y darn gorau (y bwyta, wrth gwrs!), a pheidiwch â bod ofn arbrofi gyda chynhwysion rydych chi’n eu mwynhau!


Bydd angen:

  • Darn o gig eidion Silverside
  • Menyn
  • Garlleg (4 gewin)
  • 2 nionyn
  • Sinsir (wedi’i gratio) – 2 fodfedd
  • Saws Soy
  • 4 tsili
  • 2 lwy de o ciwmin
  • Caws (o’ch dewis)
  • Pupur a halen
  • 4 bagét

Coginio

Cynheswch y popty i 180 gradd (nwy 4)

Gwasgarwch bupur, halen ac unrhyw berlysiau neu sbeisys o’ch dewis, a’i rwbio i mewn i’r cig.

Gosodwch y cig ar dun rhostio addas, gyda’r ochr brasterog i fyny.

Rhostiwch y cig gan ganiatáu oddeutu 20 munud i bob 500g am gig eidion canolig-lled amrwd (medium rare)

Defnyddiwch thermomedr i wirio’r tymheredd. Dylai canolig-lled amrwd fod tua 57-60 gradd.

Tynnwch y cig o’r popty a’i adael i sefyll am 10-15 munud cyn ei dorri.

Torrwch y cig yn sleisus tenau i’w weini.

Mewn padell, toddwch y menyn dros wres canolig. Ychwanegwch y garlleg, nionyn, sinsir, a’r tsili a’u coginio nes bod y nionod yn dryloyw.

Ychwanegwch y saws soy a’r ciwmin, gyda halen a phupur (fel y mynnoch), gan droi’r cymysgedd.

Rhannwch y cymysgedd nionod, tsili, garlleg a sinsir yn gydradd ar y bagetiau, gan ychwanegu cig eidion ar bob un.

Gosodwch y caws (o’ch dewis) ar ben y cig eidion.

Cynheswch y brechdanau nes bod y bara’n cael ei dostio a’r caws yn cael ei doddi.

Gweiniwch y brechdanau yn boeth, a mwynhewch!

Blwyddyn Newydd Dda!