Am beth ddylen i sgrifennu?
Nod Safbwynt yw sbarduno trafodaeth am Gymru a thrafodaeth am y byd yn Gymraeg – felly gallwch chi ysgrifennu am unrhywbeth hoffech chi! Tai, diwylliant, yr iaith, celfyddydau, teledu, radio, yr amgylchedd, twristiaeth, iechyd, gwleidyddiaeth, hanes, addysg, yr economi… unrhyw beth, ewch amdani.
Dyma ambell bwynt i’ch helpu chi gyfrannu darn barn da.
Byddwch yn amserol
Os yn bosib, ceisiwch ddod o hyd i gysylltiad rhwng y darn barn rydych chi am ei ysgrifennu a rhywbeth sy’n digwydd ar hyn o bryd – does dim rhaid, ond gall fod yn help!
Beirniadwch y bobl briodol
Mae croeso i chi feirniadu llywodraethau, sefydliadau neu awdurdodau. Ond peidiwch byth â beio problemau cymdeithas ar grwpiau lleiafrifol – ni fyddwn fyth yn cyhoeddi erthyglau anoddefgar.
Byddwch yn gryno
Erthyglau rhwng 500 ac 800 gair sy’n ddelfrydol i bobl eu darllen ar sgrin.
I osgoi mynd yn rhy hir, rhowch wybod i’r darllenydd ar y cychwyn cyntaf beth yw pwrpas eich darn barn a beth yw’ch dadl.
Yna, gwnewch y ddadl honno heb ailadrodd, gyda chefnogaeth tystiolaeth.
Ystyriwch is-benawdau ar ôl bob tri neu bedwar paragraff – ac os oes gennych restr, neu lwyth o wybodaeth angenrheidiol ond anhygyrch, defnyddiwch bwyntiau bwled neu dabl.
Teitl a chyflwyniad
Rhowch deitl bachog o bump neu chwe gair sy’n rhoi syniad i’r darllenydd o fyrdwn y darn.
Rhowch frawddeg gryno sy’n dal y llygad ac sy’n crynhoi byrdwn y darn barn.
Lleisiau ymylol
Ry’n ni’n arbennig o awyddus i glywed gan bobl sy’n perthyn i grwpiau nad yw eu llais yn cael ei glywed mor aml yn y cyfryngau Cymraeg. Mae croeso i bawb, ond ry’n ni’n gwybod bod rhai grwpiau’n cael eu tangynrychioli ac yn awyddus i gyfrannu at newid hynny.
Cyflwyno’ch darn
Sicrhewch mai eich gwaith eich hun yw pob dim rydych chi’n ei gyflwyno. Mae hyn yn cynnwys unrhyw luniau, fideos neu glipiau sain rydych chi’n eu llwytho – peidiwch â chymryd rhain oddi ar wefannau eraill. Mae’n iawn i gynnwys dyfyniadau rhesymol o ffynonellau eraill os yn berthnasol i’ch pwynt, ond peidiwch ailgyhoeddi darnau sylweddol – gallwch osod dolen i’r gwreiddiol yn lle.
Ar ôl cyflwyno’ch erthygl, bydd golygyddion Golwg yn cael cyfle i’w golygu, ei chymeradwyo, a’i chyhoeddi – bydd eich erthygl wedyn yn ymddangos ar adran Safbwynt ar Golwg360.
Cadwn yr hawl i beidio â chyhoeddi unrhyw erthygl am unrhyw reswm.
Rhannwch eich darn barn
Byddwn yn cyhoeddi eich gwaith i’n dilynwyr ar Twitter a Facebook, felly gallwch dynnu sylw at eich erthygl ar-lein a’i hanfon at eich ffrindiau ac unrhyw un arall a allai fod â diddordeb.
Sylwadau
Dyma’r rheolau ar gyfer cyfrannu sylwadau ar Safbwynt. Byddwn yn gweithredu’r rheolau’n llym ac ni fyddwn yn mynd i drafodaeth am y penderfyniadau a wneir gan y cymedrolwyr.
- Peidiwch â bod yn annymunol – peidiwch â cham-drin unrhyw un fyth. Peidiwch ag ymosod ar grwpiau lleiafrifol – ni fyddwn yn goddef unrhyw beth sy’n sarhaus nac yn anoddefgar tuag at grwpiau penodol o bobl yn seiliedig ar ethnigrwydd, iaith, crefydd, rhyw neu rywioldeb.
- Darllenwch erthygl cyn ymateb iddi – efallai na fyddwch yn hoffi’r pennawd na’r paragraff cyntaf, ond gall gweddill yr erthygl egluro safbwynt yr awdur yn ei gyfanrwydd
- Cyfrannwch bethau perthnasol – bydd unrhyw un sy’n postio cynnwys amherthnasol i’r erthygl dan sylw yn cael eu gwahardd. Peidiwch â sbamio – bydd negeseuon ailadroddus yn cael eu dileu a’r cyfeiriad IP yn cael ei rwystro.
- Peidiwch â phostio unrhyw beth sy’n gyfreithiol amheus – byddwn yn dileu unrhyw negeseuon o’r fath
- Mae barn y cymedrolwyr yn derfynol ac nid oes rhaid iddynt ei chyfiawnhau.