Mae cannoedd o bobol, gan gynnwys rhai o enwogion diwylliannol Cymru, wedi llofnodi llythyr agored newydd sy’n datgan eu bod nhw wedi “colli hyder ac ymddiriedaeth yn nhegwch a didueddrwydd y gyfundrefn Eisteddfodol”.

Mae’r llythyr, gafodd ei gyhoeddi ddoe (dydd Mercher, Ionawr 8) yn beirniadu ymateb Llys yr Eisteddfod a’r Orsedd i ffrae’r Fedal Ddrama, ac yn gofyn am ddiswyddo Llywydd y Llys a Phrif Weithredwr yr Eisteddfod.

Dyma’r datblygiad diweddaraf yn hanes y ffrae, ddechreuodd yn wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf fis Awst diwethaf.

Bryd hynny, fe wnaeth golwg360 dorri’r newyddion fod seremoni’r Fedal Ddrama wedi cael ei hatal gan fod y darn buddugol wedi’i ysgrifennu gan berson gwyn o safbwynt person o gefndir ethnig lleiafrifol.

Doedd dim sylwadau nac eglurhad pellach gan yr Eisteddfod ar ôl cyhoeddi na fyddai’r seremoni yn cael ei chynnal.

Ond yn dilyn llu o gwynion, gan gynnwys gan y cyn-Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, fod atal y seremoni’n tanseilio egwyddor hynafol cystadlu’n ddienw, daeth ymateb gan Ashok Ahir, Lywydd Llys yr Eisteddfod.

Roedd ei lythyr fis Rhagfyr yn mynnu mai rheidrwydd oedd peidio â chynnal y seremoni “er mwyn cydymffurfio â deddf gwlad”.

Enwogion

Ond mae nifer yn rhwystredig o hyd.

Mae cannoedd bellach wedi llofnodi’r ail lythyr agored, sy’n galw am ragor o fanylion gan yr Orsedd a Llys yr Eisteddfod am yr union benderfyniadau a wnaed ganddyn nhw.

Ymhlith yr enwogion sydd wedi llofnodi’r llythyr hwn mae sawl aelod o’r Orsedd a’r Llys, yn ogystal â nifer o’r rheiny sydd wedi datgan iddyn nhw gystadlu am y Fedal Ddrama y llynedd.

Mae’r Athro Menna Elfyn, y Prifardd Geraint Lloyd Owen a’r Prifardd Aled Jones Williams ymhlith y llenorion sydd â’u henwau ar waelod y llythyr.

Law yn llaw â’r beirdd a dramodwyr mae’r digrifwr Mici Plwm, yr actor John Ogwen, a’r gwleidyddion Alun Ffred Jones a Helen Mary Jones.

‘Cwbl ddilys’

Mae’r llythyr yn datgan bod y rheiny sydd wedi ei lofnodi yn “parhau i fod yn gwbl anhapus gyda’r sefyllfa a’r diffyg esboniad digonol, ac yn anghytuno’n chwyrn â [gosodiad Llys yr Eisteddfod] eich bod “wedi rhoi rheswm dros y penderfyniad”.”

“Allwch chi ddim fel Sefydliad nac Elusen Gyhoeddus ddisgwyl i ddarpar gystadleuwyr y dyfodol na’r beirniaid, na holl garedigion yr Eisteddfod, dderbyn eich “esboniad” am “cydymffurfiaeth â deddfwriaeth gwlad” heb roi gwybod inni, pa ‘ddeddfwriaeth gwlad’ sydd wedi’i thorri, neu oedd bygwth ei thorri, eleni?” meddai.

“Mae’r cwestiynau a ofynnwyd yn yr e-byst gan Paul Griffiths ar y 12 a’r 17 Rhagfyr 2024 yn gwbl ddilys, teg a chyfreithlon, ac mae dyletswydd arnoch i’w hateb.

“Nid yw ‘gofynion cyfrinachedd’ yn rheswm dilys dros beidio ag ateb, gan y byddai modd gwneud hynny heb rannu unrhyw fanylion personol unrhyw unigolion.

“Rhaid gwneud hyn er mwyn diogelu a “gwarchod” yr holl gystadlaethau llenyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, at y dyfodol, ac yn rhan gwbl ganolog o’ch Amodau a Rheolau, ynglŷn â chyfrinachedd a chystadlu yn ddienw ac anhysbys.”

Cwestiynau

Mae’r llythyr wedyn yn ailadrodd y cwestiynau canlynol, gafodd eu holi i Lys yr Eisteddfod gan Paul Griffiths ym mis Rhagfyr:

  1. “Pa reolau o’r gystadleuaeth neu gyfraith (os torrwyd rhai) a dorrwyd gan gynnwys y ddrama fuddugol?
  2. “Pa reol o’r gystadleuaeth neu ddeddfwriaeth gwlad fyddai wedi ei dorri pe bai’r darpar-enillydd wedi ei wobrwyo?
  3. “A rannwyd unrhyw fanylion personol am yr darpar-enillydd gyda’r beirniaid neu eraill cyn y seremoni wobrwyo, yn groes i’r drefn o gystadlu’n gyfrinachol? Os felly, pam?
  4. “Soniwyd o’r blaen bod yr enillydd wedi “honni eu bod yn cynrychioli” grŵp penodol. Allwch chi esbonio beth yn union a wnaethpwyd ganddynt a sut bod hwn yn groes i reol o’r gystadleuaeth neu gyfraith, nac, yn wir, sut y gallai’r cystadleuydd fod wedi honni unrhywbeth felly heb i hynny dynnu’n groes i reol o gystadlu’n gyfrinachol a di-enw?
  5. “Allwch chi gadarnhau os cyrchwyd unrhyw gyngor cyfreithiol gan yr Eisteddfod cyn gwneud y penderfyniad hwn “er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth gwlad”? Os do, gan bwy, a beth oedd y cyngor? Os naddo, pam lai?
  6. “Os nad cynnwys y ddrama dan sylw oedd y broblem ond yn hytrach hunaniaeth y sawl a’i hysgrifennodd, allwch chi gadarnhau na weithredodd yr Eisteddfod – wrth atal y gystadleuaeth – yn groes i Ddeddf Gydraddoldeb 2010 drwy wahaniaethu ar sail Nodwedd Warchodedig?
  7. “Ydych chi’n derbyn bod eich gweithredoedd ynghlwm â’r mater hwn wedi tanseilio ymddiriedaeth yn nhegwch a didueddrwydd y gyfundrefn Eisteddfodol? Os felly beth ydych chi’n bwriadu ei wneud i leddfu’r gofidion hyn yn y dyfodol?”

‘Dinistriol’

Mae’r llythyr yn mynd yn ei flaen i fynnu “nad oes dim byd ‘amhriodol’ dros ofyn i Gorff / Sefydliad / Elusen sy’n derbyn arian cyhoeddus, i fod yn gwbl atebol a thryloyw, yn enwedig o gofio eich bod yn gwbl ddibynnol ar gyfraniad unigolion gwirfoddol, yn feirniaid, cystadleuwyr a chefnogwyr”.

Mae’n cyfeirio hefyd at ystod yr enwogion sydd wedi cyfrannu eu henwau.

“Cofiwch fod aelodau o’ch paneli canolog, ac aelod cyfredol o Lys yr Eisteddfod a’r Orsedd [yn gyn-Archdderwydd a Llywydd y Llys] wedi arwyddo’r llythyr cyntaf [ym mis Rhagfyr],” meddai.

“Mae nifer o feirniaid sydd wedi gwasanaethu’r Eisteddfod Genedlaethol yn y gorffennol ar y rhestr ac mae rhai wedi mynegi pryder na allant dderbyn gwahoddiad i feirniadu yn y dyfodol oni bai bod y materion hyn yn cael eu clirio.

“Bydd hynny yn hynod o ddinistriol i ddymuniadau aelodau pwyllgorau lleol y dyfodol sy’n garedigion gwirfoddol ac am weld y gorau yn Eisteddfod eu dalgylch eu hunain.”

‘Dyfodol a pharhad yr Eisteddfod’

Daw’r llythyr i ben drwy awgrymu fod y llofnodwyr “wedi colli hyder ac ymddiriedaeth yn nhegwch a didueddrwydd y gyfundrefn Eisteddfodol, yn dilyn eich gweithredoedd ynghlwm â’r mater hwn”.

“Ac felly, os na chawn atebion i’r cwestiynau uchod neu esboniad clir ym mhob achos pam na ellir ateb y cwestiynau unigol, nid oes dewis gennym ond gofyn am ddiswyddiadau y ddau ganlynol, fel man cychwyn, a chynnal arolwg pellach wedi hynny: Ashok Ahir – Llywydd y Llys; a Betsan Moses – Prif Weithredwr.

“Dyfodol a pharhad yr Eisteddfod a’n cystadlaethau llenyddol sydd wrth wraidd hyn, a phwysigrwydd atebolrwydd a thryloywder y Sefydliad.”

‘Dyletswydd’

Yn ogystal â’r llythyr at Lys yr Eisteddfod, mae Paul Griffiths hefyd wedi gofyn am wybodaeth ynghylch y ffrae gan y Theatr Genedlaethol.

Mae’n dadlau bod y Theatr Genedlaethol yn annatod gysylltiedig â chystadleuaeth y Fedal Ddrama, a’u bod wedi bod yn rhan o drafodaethau’n ymwneud â chystadleuaeth 2024 ers dechrau’r flwyddyn honno.

Am fod y Theatr Genedlaethol yn derbyn arian cyhoeddus gan y Senedd a Chyngor Celfyddydau Cymru, mae Paul Griffiths hefyd yn mynnu bod “dyletswydd” arnyn nhw “i gyflwyno gwybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth”.

Awgrymodd y Theatr Genedlaethol mewn negeseuon blaenorol nad oedd unrhyw ddyletswydd o’r fath arnyn nhw.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan yr Eisteddfod.

Y Fedal Ddrama: Cyn-Archdderwydd a beirniad Eisteddfod Wrecsam yn pwyso am eglurhad pellach

Mae Myrddin ap Dafydd ymhlith y rhai sydd wedi llofnodi llythyr agored