Wrth i Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, alw am sefydlu ysgol ddeintyddiaeth newydd ym Mangor, mae hi’n dweud bod rhaid cael “atebion tymor hir yn ogystal ag atebion tymor byr”.

Daeth ei chynnig gerbron y Senedd ddoe (dydd Mercher, Ionawr 8), a doedd dim gwrthwynebiad.

‘Argyfwng’

Mae’r ystadegau ynglŷn â deintyddiaeth a deintyddion, yn enwedig yng ngogledd Cymru, yn destun pryder ar hyn o bryd.

Mae Llŷr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros y gogledd, wedi disgrifio’r sefyllfa fel un “ofnadwy”, gan grybwyll cyn lleied o bobol o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â mynediad i driniaeth dannedd trwy’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae’n debyg y bydd y nifer yn lleihau eto yn y dyfodol agos, wrth i bedwar lleoliad deintyddol yn Llandudno, Bwcle, Wrecsam ac Ynys Môn ddod â’u cytundebau efo’r Gwasanaeth Iechyd i ben.

Fydd y deintyddion hyn ddim ond yn cynnig triniaeth breifat ar ôl i’w cytundebau ddod i ben ar Fawrth 31.

“Mae o’n argyfwng,” meddai Siân Gwenllian wrth golwg360.

“Mae’n rhaid meddwl beth sydd angen ei ddatblygu ar gyfer y dyfodol o ran gwella deintyddiaeth, ac yn sicr mae’r sefyllfa yn argyfwng ar hyn o bryd.

“Ac mae o’n arwydd clir pan mae’r deintyddion yn rhoi eu cytundebau yn ôl a bod mwy a mwy o ddeintyddion yn troi tuag at weithredu’n breifat.

“Mae’n amlwg fod y cytundebau eu hunain ddim yn annog deintyddion i aros yn y Gwasanaeth Iechyd, ac mae eisiau gofyn cwestiynau ynglŷn â hynny.”

Yn etholaeth Siân Gwenllian yn Arfon, tua 36.6% o’r boblogaeth sydd â mynediad at ofal deintyddol drwy’r Gwasanaeth Iechyd, o gymharu â 44% o’r boblogaeth yng Nghymru ar gyfartaledd.

“Dw i wedi cael pobol yn dod ata’ i yn methu cael apwyntiad, methu cael eu plentyn nhw yn gweld deintydd a chychwyn nhw ar y llwybr o ymweliadau cyson efo deintydd,” meddai.

“Felly, dyna sydd wedi fy symbylu i symud ymlaen efo’r angen ar gyfer sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor.”

“Llenwi’r bwlch” efo ysgol ddeintyddol

Er mwyn ceisio adeiladu’r cais am ysgol ddeintyddol newydd, cafodd adroddiad annibynnol Llenwi’r Bwlch ei gomisiynu gan Siân Gwenllian i edrych ar y maes iechyd dannedd yn Arfon.

Mae’r adroddiad yn dweud bod y cais ar gyfer ysgol ddeintyddiaeth newydd yn un sy’n “argyhoeddi”, a bod “cefnogaeth eang” gan gyfranddalwyr, arbenigwyr a myfyrwyr ym Mangor.

Ar hyn o bryd, dim ond un ysgol ddeintyddol sydd yng Nghymru, a honno’n rhan o Brifysgol Caerdydd.

Mae 74 o ddarpar ddeintyddion yn graddio ar gyfartaledd bob blwyddyn o’r ysgol hon.

Dywed Siân Gwenllian fod yna gynsail rhwng doctoriaid a deintyddion yn yr ystyr bod yna “dystiolaeth glir fod pobol yn aros yn yr ardal lle maen nhw’n cael eu hyfforddi”.

Agorodd Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mangor fis Medi diwethaf.

“Y cam naturiol nesaf ydy agor ysgol ddeintyddol oherwydd mae’r galw yma’n glir o ran y boblogaeth leol,” meddai.

“Dw i’n dadlau bod yr ail gyfleuster (ysgol ddeintyddol) yn gorfod bod ym Mangor oherwydd yr angen sydd yma yn y gogledd”.

Ychwanega Siân Gwenllian ei bod yn hapus fod yr ymateb i’r ddadl yn y Senedd yn “bositif iawn”, gyda Jeremy Miles, yr Ysgrifennydd Iechyd, yn cadarnhau bod trafodaethau wedi cychwyn rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor ar gais busnes i sefydlu’r ysgol.

Yn ôl Siân Gwenllian, y bwriad fydd cael y pencadlys ym Mangor gyda Phrifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at gwaith.

Er bod Jeremy Miles wedi cefnogi’r bwriad i greu cais busnes, dydy hyn ddim yn golygu bod ysgol ddeintyddiaeth yn sicr o gael ei sefydlu.

“Fel y gwyddom ni i gyd, gyda’r byrddau iechyd mae’r gyllideb a’r cyfrifoldeb uniongyrchol am ddarparu gwasanaethau o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac mae deintyddion, o fewn y system sydd gennym ni, yn gontractwyr annibynnol gyda’r pŵer i ddewis a ydyn nhw am dderbyn gwaith o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac, os felly, faint,” meddai wrth ymateb yn y Senedd.

“Os bydd practis yn penderfynu lleihau neu ddychwelyd eu contract gyda’r Gwasanaeth Iechyd, mae hyn bob amser yn siomedig iawn ond, wrth gwrs, mae’n benderfyniad sy’n agored i bractis ei gymryd.

“Y pwynt mwyaf sylfaenol, efallai, fel cyd-destun i’r ddadl hon, yw dyw’r cyllid ar gyfer darpariaeth o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ddim yn cael ei golli.

“Mae modd aildendro contractau newydd ar gyfer deintyddiaeth i greu capasiti newydd o fewn y Gwasanaeth Iechyd.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Prifysgolion Aberystwyth a Bangor.

Hawl i dai digonol a sefydlu ysgol ddeintyddol yn gysylltiedig

Yn y cyfamser, dywed Siân Gwenllian fod yna gysylltiad rhwng yr ysgol ddeintyddol a’r galw am sicrhau hawl i dai digonol, gafodd sylw yn y Senedd yr wythnos hon.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar Bapur Gwyn ar dai digonol a rhenti teg yng Nghymru.

Daw’r Papur Gwyn o ganlyniad i’r Cytundeb Cydweithio gynt rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, ddaeth i ben y llynedd.

Ar y pryd, dywedodd Plaid Cymru fod yr hyn sydd yn cael ei gynnig yn y Papur Gwyn yn “siomedig” ac yn “anuchelgeisiol”.

Dywed Siân Gwenllian fod yr hawl i dai digonol ac ysgol ddeintyddol ynghlwm wrth ei gilydd.

“Mae’r ddau yn fater yn ymwneud efo atebion sydd eisiau cael eu rhoi ar waith yn syth er mwyn gwella iechyd a bywydau’n trigolion ni i’r dyfodol,” meddai.

“Yn enwedig y bobol sydd yn wynebu’r anghydraddoldebau mwyaf.”

Ychwanega fod y fath bolisïau yn rhai “ataliol” sy’n medru dod â manteision iechyd ac economaidd yn y dyfodol.