Mae prif lefarydd Reform UK yng Nghymru’n awgrymu na fyddai lle i Andrew RT Davies yn y blaid pe bai’n dewis symud o’r Ceidwadwyr Cymreig.
Ers i Andrew RT Davies ymddiswyddo o fod yn arweinydd y Grŵp Ceidwadol yn y Senedd ddechrau mis Rhagfyr, mae sylwebyddion wedi bod yn dyfalu y gallai ddewis ymuno â Reform cyn etholiad 2026.
Mae Andrew RT Davies wedi gwrthod yr awgrym yma mewn sawl cyfweliad ers iddo ymddiswyddo.
Cwestiynu gwerth Andrew RT Davies i Reform
Wrth siarad â golwg360, dywed Oliver Lewis ei fod yn cwestiynu a fyddai unrhyw fudd i’r blaid o dderbyn Andrew RT Davies i’w plith.
“Peidied byth â dweud ‘byth’, oherwydd mae pobol yn newid ac mae gweledigaeth pobol yn esblygu,” meddai.
“Ond gydag Andrew RT Davies, wnaeth o ddim wir llwyddo yn ei arweinyddiaeth o’r Ceidwadwyr [Cymreig].
“Felly, dw i’n cwestiynu faint o werth fydd o’n gallu dod ag o i Reform.”
Pe bai Andrew RT Davies wedi ceisio ymuno “tua thri neu bedwar mis yn ôl” tra bod Reform UK ar ei hôl hi yn yr arolygon barn, meddai, “efallai” y byddai lle iddo fo.
“Ond rŵan, rydan ni 1% ar ei hôl hi yng Nghymru, ac 1% tu ôl i’r Ceidwadwyr ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Felly, dw i’n meddwl fwyfwy am reswm pam fydden ni eisiau neu angen y bobol yma”.
Wfftio
Wrth ymateb i golwg360, cyfeiriodd Andrew RT Davies at ei ymateb blaenorol mewn cyfweliadau ym mis Rhagfyr.
“Dw i ddim yn gwybod pwy yw’r boi [Oliver Lewis],” meddai.
Er ei fod yn gwadu ei fod am ymuno â Reform, mae ei safle o fewn y Ceidwadwyr Cymreig wedi cael ei wanhau’n sylweddol ers iddo ymddiswyddo.
Dywedodd ar y pryd ei fod mewn lle “anghynaladwy” fel arweinydd.
Ers hynny, does dim lle iddo chwaith yn y Cabinet cysgodol o dan yr arweinydd newydd Darren Millar.
‘Ddim yn colli cwsg dros y Ceidwadwyr’
Dywed Oliver Lewis nad yw cyflwr y Ceidwadwyr ar lefel Brydeinig a Chymreig yn brif ffocws i Reform.
“Dydi beth bynnag mae’r Ceidwadwyr yn dewis ei wneud ddim am ein cadw ni yn Reform yn effro drwy’r nos,” meddai.
Wrth drafod newid arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, dywed Oliver Lewis fod y blaid wedi disodli “un dyn sydd ddim o bwys gyda dyn arall sydd ddim o bwys”.
Ychwanega ei fod yn credu nad oes gan y Ceidwadwyr “set o egwyddorion a gwerthoedd” pendant rhagor fyddai’n eu galluogi nhw i “ddatblygu syniadau”.
“Maen nhw’n ddibynnol iawn ar bobol sy’n pleidleisio ar sail genedigaeth; hynny yw, oherwydd bod eu rhieni neu neiniau a theidiau wedi pleidleisio drostyn nhw,” meddai.
Ychwanega fod Reform yn bwriadu datblygu polisïau sy’n “cyffroi” pobol mewn ffordd “newydd ac anarferol”.
“Yn wahanol i Reform, dydyn ni ddim yn symudiad protest, rydym yn blaid sy’n barod ar gyfer llywodraeth,” meddai Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wrth ymateb.
Ddim arweinydd Reform yng Nghymru tan ar ôl etholiad 2026
Mae disgwyl i Reform gychwyn cyhoeddi polisïau eleni, a hynny’n rhan o’u hymgyrch yn arwain at etholiadau’r Senedd yn 2026.
“Mae siawns y byddwn ni’n cynnal cynhadledd yn y gwanwyn er mwyn cyhoeddi un o’n polisïau datganoledig,” meddai Oliver Lewis.
“Rydym yn cychwyn cyfarfod ag ambell randdeiliad a grwpiau lobïo, yn enwedig o ran iechyd, i wrando ar eu syniadau ynglŷn â newid i ofal iechyd.
“Felly mae yna lot sy’n mynd ymlaen.”
O ran arweinydd penodol i Gymru, awgryma Oliver Lewis mai Nigel Farage fydd wyneb ymgyrch Reform yn etholiadau’r Senedd yn 2026, a hynny oherwydd “ei boblogrwydd” yng Nghymru.
Mae e wedi cadarnhau y bydd gan y blaid arweinydd yng Nghymru ar ôl yr etholiadau hynny, ond y bydd “mwy o ffocws” ar Nigel Farage fel arweinydd y blaid yn y cyfamser.