Mae angen i Lywodraeth Cymru gofio bod trefi’r ffin yn perthyn i Gymru hefyd, yn ôl y Cynghorydd Ange Williams, sy’n cynrychioli Trefyclo ar Gyngor Powys.
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y Cyngor fod gwaith adnewyddu ar atyniadau twristaidd Trefyclo, gafodd ei ariannu ganddyn nhw, bellach wedi’i gwblhau.
Mae Ange Williams yn ddiolchgar bod yr awdurdodau wedi dechrau cydnabod potensial y dref fel cyrchfan i dwristiaid, ond mae cryn dipyn i’w wneud o hyd er mwyn tynnu sylw at drefi’r ffin, meddai.
‘Ffynhonnell hunaniaeth’
“Tre’ farchnad fechan yw Trefyclo,” meddai wrth golwg360.
“Rydyn ni’n ddibynnol iawn ar dwristiaeth, nid yn unig yn ariannol ond fel testun balchder a ffynhonnell ein hunaniaeth.”
Olion Clawdd Offa ydy prif atyniad y dref.
Mae’r ffosydd hynafol, gafodd eu codi yn yr wythfed ganrif wrth lunio’r ffin rhwng teyrnasoedd Cymru a theyrnas Eingl-Sacsonaidd Mersia, ar eu hamlycaf yn Nhrefyclo.
Yn ogystal, mae Trefyclo yn gyrchfan ar hyd Llwybr Clawdd Offa, llwybr cerdded poblogaidd gafodd ei sefydlu yn 1971 sy’n cysylltu Prestatyn a Chas-gwent.
Dywed Ange Williams fod Clawdd Offa’n “hynod boblogaidd gyda cherddwyr a’r rheiny sydd â diddordeb mewn hanes”, a bod “bron pob un o’n hymwelwyr am wybod am y clawdd”.
Mae Canolfan Ymwelwyr Clawdd Offa a’r parc gerllaw yn “adnodd arbennig wrth geisio cadw’n hanes ni’n fyw”, meddai.
Mae’r ganolfan wedi croesawu teithiau ysgol a phrifysgol, ac mae darlithoedd i bobol ifanc yn y ganolfan yn cyflwyno’r hanes i genhedlaeth newydd.
‘Rydyn ni i gyd yn teimlo’n Gymreig yma’
Mae’r cynghorydd yn hynod falch fod Cyngor Powys, a Llywodraeth Cymru, wedi dechrau cydnabod gwerth hanesyddol a photensial twristaidd Trefyclo, fel yr awgryma’r buddsoddiadau diweddar i wella’r cynnig i ymwelwyr.
“Mae’r llwybr, y parc, a’r ganolfan yn rhan fawr o hanes y dre’, ond hefyd yn rhan o dreftadaeth Cymru,” meddai.
Mae modd olrhain hanes y ffin bresennol rhwng Cymru a Lloegr i’r seiliau gafodd eu gosod gan Glawdd Offa.
Ac, yn wahanol i ystrydebau am drefi’r ffin sy’n awgrymu bod hunaniaeth ddeuol neu Seisnig gan eu trigolion, dywed Ange Williams eu bod nhw “i gyd yn teimlo’n Gymreig yma”.
“Ond yn aml, weithiau, mae yna ryw argraff nad yw gweddill Cymru’n teimlo’r un fath amdanom ni.
“Mae pobol yr ardal yn aml yn teimlo fel bod Llywodraeth Cymru’n ein hesgeuluso ni.”
‘Nid ffin, ond porth’
Mae’n wir fod llawer o bobol leol yn treulio bron cymaint o amser yn Lloegr ag y maen nhw yng Nghymru, meddai, ac yn aml yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus Lloegr.
Ond problemau isadeiledd sy’n rhannol gyfrifol am hynny.
“Er mwyn cyrraedd Cymru, mae’n rhaid cymryd bws i Loegr yn gyntaf – does dim un bws yn mynd i Gymru’n uniongyrchol!
“Mae’r trên yn teithio i Gymru, wrth gwrs, ond yn anaml iawn fydd hwnnw’n rhedeg.”
Mae’n credu bod angen i’r Llywodraeth fanteisio ar drefi’r ffin.
“Nid ffin ond porth sydd gan Gymru bellach,” meddai wedyn.
“Ein trefi bychain ni ddylai fod yn croesawu ymwelwyr i’n cenedl.”
‘Her’
Ond mae’r gwariant newydd yn arwydd cadarnhaol, meddai Ange Williams.
“Yn syml iawn, mae cadwraeth yn annog ymwelwyr.
“Rydyn ni i gyd yn teimlo bod yr arian sydd wedi’i wario ar y parc yn wych.
“Mae asiantaeth barciau Powys, a’r swyddog hamdden awyr agored Steve Gealy, wir wedi ymdrechu i’n cynorthwyo ni ac i ddeall yr hyn sydd ei angen arnom ni.
“Mae pawb yn edrych ymlaen at y tymor twristiaeth eleni.”
Ond mae mwy i’w wneud o hyd.
“Mae pob blwyddyn yn her mewn trefi bychain fel Trefyclo.
“Yn y gaeaf, does dim llawer o waith ac mae cyflogau unrhyw swyddi sy’n bod yma’n isel.
“Yn ogystal, mae’r boblogaeth yn heneiddio.
“Fel nifer o lefydd gwledig eraill yng Nghymru, mae’n rhaid i bobol ifanc adael er mwyn medru fforddio prynu cartrefi.
“Felly, er ein bod ni wir yn gwerthfawrogi unrhyw gymorth, mae angen rhyw fath o gynllun pendant gan yr awdurdodau at y dyfodol.”
Mae potensial arbennig gan Drefyclo a holl drefi eraill y ffin, meddai, ond mae angen i’r awdurdodau weithredu er mwyn sicrhau eu hyfywedd hefyd.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.