Mae gwaith dur yng Nghaerdydd mae trigolion yn ei gyhuddo o orchuddio’u strydoedd mewn llwch eisiau rhagor o amser i ehangu un o’u hadeiladau a chodi simne newydd.

Yn 2020, fe dderbyniodd Celsa Manufacturing UK ganiatâd cynllunio gan Gyngor Caerdydd i ymestyn rhan o’u safle ar Heol Rover yn Nhremorfa.

Pan gaiff ceisiadau eu cymeradwyo, mae gan yr ymgeiswyr hyd at bum mlynedd fel arfer i gychwyn y gwaith.

Mae Celsa Manufacturing newydd gyflwyno cais arall o’r newydd fyddai’n ymestyn y cyfnod y byddai hawl ganddyn nhw i ddechrau eu datblygiadau arfaethedig am bum mlynedd arall.

‘Hunllef’

Y llynedd, fe soniodd nifer o drigolion sy’n byw yn Nhremorfa eu bod nhw wedi cael hen ddigon o’r llwch sy’n gorchuddio’u cartrefi o hyd ac o hyd – llwch maen nhw’n honni sy’n deillio o’r gwaith dur gerllaw.

Dywedodd Peter Ewers, un o drigolion Heol Mercia, fod byw yn ymyl y gweithdy’n medru bod yn “hunllef”.

“Fel arfer dydyn ni ddim yn medru agor ein ffenestri rhag ofn bod llwch yn dod i mewn i’n hystafelloedd gwely,” meddai’r dyn 56 oed.

“Mae’n dechrau mynd yn hurt, ac mae pethau’n gwaethygu.

“Fe fydd cymdogion yn sôn eu bod nhw’n gosod dillad i’w sychu ar y lein tu allan dros nos, ac yna bod rhaid iddyn nhw eu golchi nhw eto’r bore wedyn am eu bod nhw mor frwnt.”

Ychwanega iddo brofi’r gwaethaf o’r llwch wrth fynd â’r ci am dro fis Chwefror diwethaf.

“Roedden ni wedi bod yno tua 20 munud,” meddai.

“Yr unig beth roedden ni’n medru ei weld oedd storom lwch yn cyflymu tuag aton ni.”

‘Hynod effeithiol’

Dywedodd nifer o drigolion nad oedden nhw am i’r gwaith dur gau.

Fodd bynnag, roedden nhw hefyd yn dweud eu bod nhw’n dymuno gweld llai o lwch yn yr ardal, gan grybwyll fod eu ceir a’u ffenestri’n fudr yn rheolaidd.

Fe ganfu asesiad effaith gan Ymgynghorwyr Amgylcheddol y Ddaear a’r Môr (EAME), a wnaed ar ran Celsa Manufacturing, fod allyriadau llwch yn rhemp ar safle’r gwaith dur.

Ond fe ychwanegodd yr adroddiad, gafodd ei gyhoeddi yn 2022, fod “natur y prif ddeunydd (metel sgrap) wedi’i gydnabod yn ddeunydd nad yw’n cynhyrchu llawer o lwch oni bai ei fod yn cael ei brosesu”.

“Mae’r llarpiwr yn medru rheoli unrhyw allyriadau sy’n cael eu gollwng mewn modd hynod effeithiol,” meddai.

Estyniad

Nod ymestyn un o adeiladau’r cwmni ar Heol Rover ydy cael gofod i osod ffwrnais ailwresogi newydd, gweithdy trin dŵr, ac adeilad rheoli trydan.

Un o’r cyfyngiadau sydd ar y caniatâd gwreiddiol ydy bod gwaith datblygu’n cychwyn cyn Ionawr 16 eleni.

“Ac eithrio’r cynnydd presennol wrth geisio cyflawni’r holl ofynion cyn-gychwynnol, mae fy ngleient i’n disgwyl y bydd hi’n annhebygol y bydden nhw’n medru cychwyn y gwaith datblygu cyn y dyddiad hwnnw, ac felly’n gobeithio ymestyn y cyfnod gafodd ei gytuno,” meddai datganiad gan Boyer Planning, ar ran Celsa Manufacturing.

“Er mwyn cyflawni amcanion fy nghleient, rydyn ni’n credu mai’r cam symlaf fyddai darparu pum mlynedd yn rhagor i gychwyn y datblygiadau.

“Er bod galw yma am estyniad pellach, mae disgwyl y bydd y datblygu’n medru cychwyn yn 2025; mi fydd y pum mlynedd sy’n weddill yn yr estyniad yn sicrhau rhywfaint o hyblygrwydd.”