Mae Sbaenwyr yn gyfrifol am “ymosodiadau parhaus i greu rwtsh” ar wefan Wicipedia Cymraeg, yn ôl un o’i gweinyddwyr gwirfoddol.
Fe fu Robin Owain yn siarad â golwg360 ar ôl i erthyglau mewn ieithoedd tramor mwyafrifol, gan gynnwys Sbaeneg, ymddangos ar y wefan yn ddiweddar.
Yn eu plith mae erthygl am ‘El Barón Contra los Demonios’, sydd bellach â thudalen wag ar y wefan heb wybodaeth arni am y testun dan sylw.
“Sbaenwr greodd yr erthygl hon. Pam?” meddai Wicipedia Cymraeg ar wefan X (Twitter gynt).
“Mae’n rhan o ymosodiadau parhaus o’r wlad honno i greu rwtsh ar y Wicipedia Cymraeg.
“Ceir fandaliaeth o’r math yma’n ddyddiol.
“Dilëwyd yr erthygl.
“Pwy a saif gyda ni i ddiogelu’r wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd yn y cosmos? Os nad chi, pwy?”
‘Fandaleiddio’
Wrth siarad â golwg360, dywed Robin Owain fod yna olygddion o wledydd eraill yn golygu Wicipedia Cymraeg, gyda rhai ohonyn nhw’n ychwanegu gwybodaeth, lluniau neu ddata “cywir a gwerthfawr”, ond fod “eraill yn fandaleiddio’r gwyddoniadur”.
“Mae’r fandaliaid yn amrywio o newidiadau amlwg, e.e. dileu tudalen neu ychwanegu rhegfeydd ac yn y blaen,” meddai.
“Mae eraill yn fwy dichellgar: yn newid dyddiad geni neu farw, er enghraifft.
“Ers i Google Translate ddod yn declyn pwerus, eitha’ cywir, rydan ni wedi gweld erthyglau newydd yn cael eu creu gan bobol nad ydynt yn rhugl yn y Gymraeg ac heb unrhyw gyd-destun Cymreig i’r erthyglau.”
Ond sut mae datrys y sefyllfa wrth i fwy a mwy o erthyglau mewn ieithoedd eraill ymddangos ar y wefan?
Dywed fod angen rhagor o bobol ar y wefan i’w golygu’n rheolaidd.
“Yr unig ffordd o adnabod fandaliaeth yw drwy ‘law a llygad’ person go iawn,” meddai Robin Owain.
“Ac er bod tua 115 ohonom ar cy-wici yn rheolaidd, mae angen rhagor!
“Ers o leiaf wyth mlynedd, mae’n eitha’ amlwg i ni mai o Sbaen y daw’r rhan fwyaf o’r fandaliaid proffesiynol hyn, sydd, o bosib, yn cael eu talu am roi gogwydd Sbaenig i erthyglau yn hytrach na Chatalwnaidd neu Fasgaidd.”
Ond mae’n broblem yn nes at adref hefyd, meddai.
“Mae yna lawer o olygu ‘Prydeinig’ (h.y. Seisnig) am Gymru’n cael ei wneud hefyd, yn enwedig ar en-wici (y Wici Saesneg).
“Rydan ni’n edrych ar atal defnyddwyr sydd heb gofrestru rhag golygu’r Wicipedia Cymraeg, ond yr hyn sydd ei angen fwyaf ydy rhagor o olygyddion!
“Wicipedia ydy’r wefan Gymraeg mwyaf poblogaidd yn y cosmos, diolch i ddisgyblion ysgol sy’n troi atom ni am wybodaeth. Yn fisol, mae yna tua 800,000 o dudalennau’n cael eu darllen!
“Does neb yn cael ei dalu am gadw llygad ar cy-wici, nac am olygu na chywiro – gwirfoddolwyr ydan ni i gyd.
“Mae ChatGTP a sawl teclyn AI arall yn defnyddio Wicipedia fel ffynhonnell gwybodaeth.
“O gadw’r Wicipedia Cymraeg yn niwtral ond eto’n cynnwys y cyd-destun Cymraeg a Chymreig, mae yna lygedyn o oleuni.
“O ganiatáu gwybodaeth gwrth-Gymreig, imperialaidd, unoliaethol wedi’i sgwennu gan ddynion gwyn canol oed o dde Lloegr a’r dde eithafol, yna mae’n amen arnom ni.
“Fel rydan ni’n gwybod ers 30 mlynedd, cyhoeddi digidol yw’r ffordd ymlaen, gan ddarparu’r wybodaeth honno am ddim i bawb.
“Hon yw brwydr bwysicaf y Gymraeg heddiw: cael gwybodaeth gywir yn Gymraeg gyda chyd-destun a gogwydd Cymreig i bobol Cymru.”