Mae cynghorwyr Plaid Cymru’n galw am roi “bywydau uwchlaw toriadau”, yn sgil bygythiad i wasanaethau strôc yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gynlluniau allai olygu troi Uned Strôc yr ysbyty yn Uned ‘Trin a Throsglwyddo’, gyda chleifion strôc yn cael eu symud i ysbyty arall.

Mae’r cynghorwyr Elwyn Vaughan (Glantwymyn), Alwyn Evans (Machynlleth) a Gary Mitchell (Llanbrynmair a Threfeglwys) wedi cyhoeddi datganiad yn mynegi “pryder mawr” am y cynlluniau, gan ddweud y bydd “yn anochel yn cael effaith enfawr ar drigolion” ym mro Ddyfi a Llanidloes.

‘Safon aur’

Ar hyn o bryd, medden nhw, mae’r gwasanaethau strôc yn Ysbyty Bronglais “o safon aur”.

“Pe bai rhywun yn cael strôc, mae’r parafeddygon yn dod o hyd i’r llwybr ar unwaith,” medden nhw.

“Gallan nhw fynd yn syth i’r sganiwr, lle mae’r arbenigwyr yn cyfarfod â nhw, sy’n eu galluogi nhw i dderbyn y triniaethau priodol ar ôl gweld y sgan.

“Mewn ysbytai eraill, mae’n rhaid iddyn nhw fynd i’r uned damweiniau ac achosion brys, sy’n achosi oedi o ran y driniaeth.

“Nid yn unig mae hynny’n bryder, ond byddai’n golygu gorfod teithio i ysbytai Caerfyrddin, Telford neu Fangor, gan arwain at ambiwlansys ymhell i ffwrdd o’r cymunedau maen nhw i fod i’w gwasanaethu ar yr union adeg pan fod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi tynnu sylw at y pwysau aruthrol maen nhw’n ei wynebu.

“Pe na bai hynny’n ddigon, rhwng 2yb ac 8yb, dim ond un ambiwlans sydd ar gael fel ag y mae ym Machynlleth, y Drenewydd, y Trallwng a Dolgellau, gyda Thywyn, Llanidloes, Llanfyllin a Threfyclo wedi mynd adref.

“Bydd y cynnig hwn yn llesteirio’r sefyllfa ymhellach.”

Perygl i iechyd cleifion

Yn ôl y cynghorwyr, byddai hefyd yn achosi problemau iechyd pellach i gleifion.

Maen nhw’n dweud mai pedair awr yn unig sydd ar gael i gleifion gael sgan CT ar ôl strôc, a bod modd rhoi cyffur i drin ceulad gwaed o fewn yr amser hwnnw.

Fel arall, ni fyddai modd rhoi’r cyffur, ac maen nhw’n rhybuddio y gallai gymryd dwy awr o leiaf i deithio i Gaerfyrddin, Telford neu Fangor.

Maen nhw hefyd yn dweud bod “pryderon enfawr eisoes” am gynlluniau i newid gwasanaethau’r ambiwlans awyr yn y canolbarth yn sgil cau canolfan y Trallwng.

“Ar hyn o bryd, mae’n teimlo fel ein bod ni’n colli ein gwasanaethau gwerthfawr gyda phopeth yn cael ei ganoli,” medden nhw.

“O ganlyniad i bwysigrwydd Bronglais, nid yn unig i Geredigion ond i ran helaeth o Bowys a de Gwynedd, galwn ar yr Ysgrifennydd Iechyd i gydweithio â ni a’r byrddau iechyd lleol wrth gael dull integredig tuag at wasanaethau iechyd yn yr ardal hon.”