Mae Llywodraeth Cymru’n annog gweithwyr i graffu o’r newydd ar eu gyrfaoedd, gyda chymorth ymgyrch Cymru’n Gweithio.
Mae GyrfaCymru, corff sydd dan berchnogaeth y Llywodraeth, yn cynnig adolygiadau gyrfa am ddim i holl weithwyr Cymru, law yn llaw â chynghorydd gyrfaoedd profiadol.
Mae’r gwasanaeth ar gael i bobol o bob oed sydd am archwilio ac ystyried posibiliadau gyrfa newydd, am unrhyw reswm.
‘Byd newydd’
Mae Cymru’n Gweithio wedi rhoi cymorth i filoedd o bobol yng Nghymru ers ei sefydlu yn 2019.
Manteisiodd Ian Powell, 55, o Gaerdydd ar y gwasanaeth ddwywaith yn ystod ei yrfa.
Pan oedd yn nyrs hyfforddedig, fe ddefnyddiodd y gwasanaeth am y tro cyntaf pan oedd angen newid gyrfa ar ôl i’w amgylchiadau newid.
Yn fwy diweddar, wedi ugain mlynedd yn gweithio i gwmni cyfleustodau trydan a nwy, cafodd ei ddiswyddo ac fe drodd at Cymru’n Gweithio am yr eildro.
“Roeddwn ychydig ar goll…” meddai.
“Mae’n fyd newydd, y farchnad swyddi – mae’n hollol wahanol.
“Fe wnaeth y gwasanaeth fy helpu i feddwl ac i fod yn hollol onest gyda rhywun.
“Dydych chi ddim yn sylweddoli beth allwch chi ei wneud nes bod rhywun yn eich holi a gofyn, ‘Wyt ti wedi meddwl am hyn?’
“Roedd y rhestr o swyddi y gallwn i eu gwneud pan wnaethon nhw’r adolygiad yn anhygoel.
“Ond fyddwn i ddim wedi cyrraedd y fan honno, hyd yn oed, pe na bawn i wedi dod a gofyn am help.”
Mae bellach yn gweithio mewn tîm sy’n helpu pobol i reoli eu budd-daliadau a’u biliau.
‘Byth yn rhy hwyr’
“Mae stori ysbrydoledig Ian yn dangos nad yw hi byth yn rhy hwyr i newid cyfeiriad,” meddai Jack Sargeant, Gweinidog Sgiliau Cymru.
“Mae cynnig adolygu gyrfa Cymru’n Gweithio yn helpu gweithwyr hŷn i feddwl am iechyd a lles, cyllid a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a datblygu gyrfa a sgiliau.
“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n wynebu colli swydd, neu sy’n ystyried newid cyfeiriad yn ystod 2025, i drefnu adolygiad.”