A hithau’n ddechrau blwyddyn newydd ac ail gyfnod arlywyddol Trump ar y gorwel, wnes i ystyried yn wreiddiol edrych ar nifer o ffactorau allai ddylanwadu ar y sefyllfa yn Mhalesteina a’r Dwyrain Canol yn gyffredinol. Ond buan iawn y sylweddolais i y byddai hynny’n bwnc llawer rhy eang. Felly, dw i wedi penderfynu cyfyngu fy sylwadau i un pwnc penodol, sef Meseianiaeth neu eschatoleg Iddewig a Christnogol, a’r ffordd mae’r ddwy gredo hon yn gyrru’r agenda Seionyddol i sefydlu’r hyn sy’n cael ei alw’n Israel Ehangach.
Wna i ddechrau gyda Meseianiaeth Iddewig sy’n seiliedig ar y syniad bod Duw, ganrifoedd yn ôl, wedi rhoi darn eang iawn o dir i’r Iddewon oedd yn ymestyn o’r afon Nîl draw mor bell â’r Afon Ewffrates. Y darn hwn o dir, meddir, ydy gwlad yr addewid wreiddiol. Mae’r ardal hon heddiw yn cynnwys rhannau helaeth, os nad y cyfan, o’r gwledydd sy’n ffinio â gwladwriaeth bresennol Israel, sef Libanus, yr Iorddonen, Syria, Irac, Iran, yr Aifft a Saudi Arabia. Dyma, fwy neu lai, yr ardal roedd Theodor Hertzl, sylfaenydd y mudiad Seionaidd, wedi deisyfu ei chael i fod yn wladwriaeth Iddewig. Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, fodd bynnag, penderfynodd y cynghreiriaid buddugol wrthod hynny, gan gytuno ar ffiniau llawer mwy cyfyng ar gyfer yr Israel newydd arfaethedig.
Er gwaethaf amharodrwydd y cynghreiriaid i gydsynio i ddyheadau’r Seionyddion, mae ymestyn ffiniau Israel wedi parhau i fod yn rhan ganolog o’r agenda Seionaidd hyd heddiw, er bod arweinwyr Israel wedi ceisio celu hynny yn rhyngwladol. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’r bwriad yn cael ei gydnabod yn gyhoeddus gan lawer o wleidyddion yn Israel, yn fwyaf arbennig arweinwyr y pleidiau crefyddol Iddewig eithafol yn y Knesset, megis Itamar Ben Gvir a Bezalel Smotrich. Ac mae Daniella Weiss, un o arweinwyr amlycaf y mudiad ymsefydlwyr, yn credu bod dileu Palesteina ac ehangu ffiniau Israel i gynnwys rhannu o’r gwledydd sy’n ei hamgylchynu, bellach nid yn unig yn ddyletswydd ddwyfol ond yn bosibilrwydd real yn y tymor byr. Ym meddyliau’r Iddewon Meseianaidd hyn, unwaith y bydd Israel wedi ehangu ei ffiniau trwy gyfuniad o ymgyrchoedd milwrol a phlannu trefedigaethau, bydd y Meseia Iddewig, o linach Dafydd, yn ymddangos, caiff y deml ei hail godi yn Jerwsalem, a bydd y Meseia yn teyrnasu dros y wlad ar ran Yahweh. Mae llawer o Seionyddion seciwlar yn cefnogi’r agenda imperialaidd hon yn wleidyddol ac yn strategol ond yn anwybyddu’r dimensiwn crefyddol.
Draw yn yr Unol Daleithiau wedyn, mae llawer iawn o Gristnogion Efengylaidd Ffwndamentalaidd, asgell dde yn frwd iawn eu cefnogaeth i’r agenda Seionaidd o greu Israel ehangach. Y rheswm am hynny ydy eu bod yn arddel diwinyddiaeth eschatolegol, apocalyptaidd o’r enw Premilennial Dispensationalism. Mae’r Seionyddion Cristnogol hyn, fel maen nhw’n cael eu galw, yn credu bod sefydlu gwladwriaeth fodern Israel wedi’i broffwydo yn y Beibl, ac maen nhw’n cytuno gyda rhan fwyaf yr hyn mae Meseianiaid Iddewig yn ei gredu – gydag un gwahaniaeth amlwg, sef mai Iesu Grist ac nid y Meseia Iddewig fydd yn dychwelyd ar ôl i Israel lwyddo i glirio’r Palestiniaid o’r wlad, ehangu ei ffiniau ac esgor ar ryfel apocalyptaidd fydd yn para am saith mlynedd. Does gan yr Iesu hwn fawr ddim yn gyffredin gydag Iesu Tirion ein hemynau Cymraeg ni, fodd bynnag. Iesu’r rhyfelwr fydd hwn, Iesu’r cadfridog neu’r teyrn arfog, yn dychwelyd i ddifa’r annuwiol.
Fydd yr etholedig rai, sef y Seionyddion Cristnogol, ddim yn dioddef oherwydd yr apocalyps achos byddan nhw wedi cael eu sgubo i fyny i’r nefoedd yn yr hyn maen nhw’n ei alw’n ‘the rapture’, ond bydd y gweddill ohonon ni, gan gynnwys y mwyafrif o Iddewon, yn trengi. Yr unig Iddewon gaiff eu hachub fydd y lleiafrif fydd yn fodlon derbyn Crist fel y Meseia.
Gellid dadlau fod Seioniaeth Gristnogol yn barhad o dueddiad hanesyddol yn yr Unol Daleithiau o weld y genedl fel un etholedig, wedi’i dewis gan Dduw i fod yn ddinas ddisglair ar y bryn. Dyna oedd wrth wraidd yr hyn gafodd ei fedyddio gan arweinwyr y wlad yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Manifest Destiny, sef y gred fod Duw wedi rhoi’r wlad i’r mewnfudwyr gwynion ac mai eu dyletswydd a’u tynged ddwyfol fel Cristnogion oedd difa neu ddisodli’r brodorion a dwyn eu tiroedd. Gellid dadlau ymhellach fod yr hyn sy’n digwydd yn Israel rŵan yn estyniad rhesymegol o Manifest Destiny America, serch bod Israel bellach yn cael ei gweld fel rhan annatod o’r genedl Americanaidd, nid fel gwlad dramor.
Dylid pwysleisio yn fan hyn nad yw pob Cristion, na hyd yn oed pob Efengylwr yn America, yn cefnogi syniadau’r Seionyddion Cristnogol. Os ewch chi ar y we, er enghraifft, a mynd i’r wefan https://www.christianzionism.org/, yr hyn sydd yno ydy gwefan wedi’i chreu gan Gristnogion Americanaidd, rhai ohonyn nhw’n efengylwyr sy’n wrthwynebus iawn i Seioniaeth Gristnogol o safbwynt dyngarol a hefyd o safbwynt diwinyddol. Gellid cyfeirio hefyd at ddaliadau gwrth-Seionaidd y diweddar gyn-Arlywydd Jimmy Carter, Cristion dyngarol o argyhoeddiad.
Yn ystod arlywyddiaeth gyntaf Donald Trump, roedd gan Seionyddion Cristnogol ddylanwad anferth ar bolisïau’r Unol Daleithiau tuag at Israel. Roedd Mike Pence, y Dirprwy Arlywydd, a Mike Pompeo, yr Ysgrifennydd Gwladol, ill dau yn Seionyddion Cristnogol brwd. Buodd gweinidogion efengylaidd carismataidd megis John Hagee, sylfaenydd CUFI (Christians United for Israel) a Robert Jeffress yn lobïo Trump yn gryf o blaid Israel ac yn codi arian ar gyfer sefydlu trefedigaethau Israelaidd ar y Lan Orllewinol, a hyd yn oed brynu deunyddiau adeiladu er mwyn ailgodi’r deml yn Jerwsalem. Er mwyn plesio’r garfan hon, penderfynodd Donald Trump symud llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Israel o Tel Aviv i Jerwsalem, dinas sydd i fod wedi’i rhannu rhwng y Palestiniaid a’r Israeliaid.
Mae rhai o’r enwebiadau ar gyfer swyddi allweddol iawn yng ngweinyddiaeth newydd Trump yn awgrymu y gallai ei ail gyfnod yn y Tŷ Gwyn fod yn fwy pleidiol i Israel hyd yn oed na’r un cyntaf. Dw i am ganolbwyntio ar ddau ohonyn nhw, sef Mike Huckabee a Pete Hesketh, ond mae rhai o’i enwebiadau eraill hefyd yn rhai go eithafol o safbwynt eu Cristnogaeth adweithiol.
Mae Mike Huckabee, yr enwebai ar gyfer swydd Llysgennad yr Unol Daleithiau i Israel, nid yn unig yn Gristion ffwndamentalaidd ceidwadol sy’n gefnogwr pybyr i Seionyddion Israel a’u polisi o blannu trefedigaethau Israelaidd yn Nhiroedd Y Meddiant, ond mae hefyd wedi datgan ar goedd sawl gwaith nad yw’r Palestiniaid fel pobol yn bodoli ac yn mynnu defnyddio’r enwau Israelaidd ar gyfer y Lan Orllewinol, sef Samaria a Jwdea.
Byddai’n anghywir i ddweud bod Pete Hesketh, yr enw ar gyfer swydd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, yn gwisgo ei galon ar ei lawes. Yn lle hynny, mae symbolau ei ddaliadau Cristnogol militaraidd eithafol wedi’u tatŵio dros rannau helaeth o’i gorff. Mae’r tatŵs hyn yn cynnwys y geiriau ‘Deus Vult’, sef rhyfelgri’r croesgadwyr Cristnogol yn ystod y cyfnod canoloesol, a symbol o’r groes gyda chleddyf arni sy’n cyfeirio at bennod 10 adnod 34 o efengyl Sant Mathew: “Na thybiwch fy nyfod i ddanfon tangnefedd ar y ddaear: ni ddeuthum i ddanfon tangnefedd, ond cleddyf.” Mae gynno fo hefyd datŵ enfawr o groes Jerwsalem ar ei frest a thatŵ o faner yr Unol Daleithiau gyda dryllau arni. Ddechrau Rhagfyr, roedd ei enwebiad mewn trafferthion oherwydd ei broblem gydag alcohol a’i driniaeth o fenywod, ond mae’n debyg bod Trump a J.D. Vance wedi bod yn rhoi pwysau ar aelodau Gweriniaethol etholedig i gefnogi’r enwebiad.
Yr unig lygedyn bach iawn o obaith yn y darlun tywyll uchod, o bosib – a dw i’n cydnabod ei fod yn llygedyn bach iawn – ydy egotistiaeth Trump a’r ffaith ei fod o yn bersonol, er gwaetha’r ffaith ei fod o’n gwerthu Beiblau, yn addoli Mamon yn fwy na Jehova. Byddai Trump wir yn hoffi cael ei gofio fel y dyn wnaeth drefnu rhyw fath o gytundeb heddwch ar gyfer y Dwyrain Canol ac ennill Gwobr Nobel. Yn ogystal â hynny, mae o wir eisiau cytundeb gyda Saudi Arabia er mwyn gwneud pres i America a’i deulu estynedig a’i gyfeillion, ond mae Saudi Arabia wedi dweud fod symud tuag at greu gwladwriaeth Balesteinaidd yn amod creiddiol i unrhyw gytundeb. Petai Trump yn teimlo bod Netanyahu yn ei danseilio, efallai, efallai, y byddai, yn wahanol i Joe Biden, yn digio digon i roi ei droed i lawr, fel y gwnaeth Ronald Reagan adeg rhyfel cyntaf Israel yn erbyn Libanus. Ond efallai mai breuddwyd gwrach ydy hynny, yn anffodus, ac y bydd rhaid i ni barhau i ymgyrchu am flynyddoedd eto am gyfiawnder i’r Palestiniaid.