Gemau? Cystal cydnabod fod yna elfen ychydig yn retro amdanaf: Scrabble, Snakes and Ladders a Monopoly. Wrth chwarae Monopoly gyda chwmni ddechrau’r wythnos, bues yn hel meddyliau gogyfer â’r golofn hon heddiw. Canlyniad yr hel meddyliau, yn naturiol ddigon, oedd colli’r gêm!

Dychmygwch chwarae Monopoly yn unol â rheolau gwahanol i’r arfer. Beth pe baech chi, er enghraifft, yn chwarae fel hyn: Mae un tîm – neu berson fel y mynnoch – yn cael £200 bob tro maen nhw croesi Go, ond mae’r tîm arall ond yn cael £20. Pan fo’r tîm sydd yn byw ar arian bach yn mynd i drafferth, mae disgwyl i’r tîm sydd yn ennill arian da eu cynorthwyo.

Neu, beth pe bai un tîm yn derbyn y rhan helaethaf o’r eiddo ar y dechrau, a’r tîm arall ond yn cael yr ychydig ddarnau sy’n weddill? Pan fo’r tîm â’r eiddo prin yn mynd yn fethdalwyr, mae’r gêm drosodd. Mae hyn yn siŵr o ddigwydd yn gyflym iawn, a’r gêm yn ddiflas eithriadol i bawb!

Beth pe bai’r holl eiddo yn cael ei rannu’n deg rhwng y ddau dîm? Gall y timoedd hel tai a gwestai, a chreu monopoli bach iddyn nhw eu hunain, ond bob chwarter awr mae’r eiddo’n dychwelyd i’r sawl oedd yn ei berchen yn wreiddiol, ynghyd â’r cyfan oll gafodd ei adeiladu arno.

Mae rhai yn dweud mai gêm yw bywyd, ac efallai bod elfen o wirionedd yn y gosodiad hwnnw. Ond i rai – ymhell ac agos – mae gêm bywyd yn ddiflastod pur a chyson oherwydd y ffordd mae’r gweddill ohonom yn mynnu chwarae’r gêm honno.