Mae’r goeden Nadolig a’r addurniadau disglair wedi dod a goleuni a llawenydd i nifer dros yr ŵyl.
Ond, yn ôl yr hen draddodiad, mae’n bryd i’w tynnu i lawr heddiw (Dydd Sul, Ionawr 5), sef yr Ystwyll – y ddeuddegfed diwrnod ar ôl Dydd Nadolig.
Mae llawer o bobol yn credu ei bod yn anlwcus i adael yr addurniadau Nadolig i fyny y tu hwnt i’r dyddiad yma.
Wrth i’r goleuadau, y tinsel a’r addurniadau gael eu rhoi mewn bocs tan y tro nesa, ydach chi’n gwybod sut i gael gwared ar eich coeden Nadolig?
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynghori ailgylchu coeden go iawn yn eich bin gwyrdd ar olwynion neu sachau gwyrdd. Dylech chi dorri’r goeden gyntaf i sicrhau ei bod yn ffitio’n iawn yn eich bin. Ac os nad ydach chi’n gallu ei ffitio yn eich bin, gallwch chi fynd â’r goeden i’r Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol i gael ei gwaredu’n gywir.
Y fantais o gael coeden artiffisial ydy y gallwch chi ei hailddefnyddio bob blwyddyn a’i rhoi yn ôl yn yr atig tan y Nadolig nesaf. Ond os ydy’r goeden wedi gweld dyddiau gwell a’ch bod yn penderfynu cael gwared ohoni, gallwch fynd â hi i’r Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol.
“Mae gosod ac addurno coed Nadolig yn aml iawn yn uchafbwynt cyfnod y Nadolig i lawer. Mae coed Nadolig, naill ai gwir neu ffug, yn rhan bwysig o gyfnod y Nadolig,” meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant gyda Chyngor Sir Ddinbych.
“Pan mae’n dod yn amser i gael gwared ar eich coeden, mae’n bwysig cael gwared ohonyn nhw yn gywir drwy’r sianeli cywir.”
Felly gwnewch yn siŵr bod y goeden Nadolig yn dod lawr heddiw a’ch bod yn ei hailgylchu yn y ffordd gywir. Tan y tro nesa…