Dyledion Dolig? Be ydi hynny, ’dwch? Mae’n flwyddyn newydd, a’r meddwl eisoes yn troi at wyliau eleni. Y llynedd, mwynheais sawl penwythnos hir ar y cyfandir, rhwng Malmö ac Ystad adeg y gwanwyn brafiaf ers tro byd yn Sweden, cofleidio hanes Prâg a Berlin ddechrau’r hydref, a gwibio ar gledrau’r Eurostar i Ffrainc a Fflandrys toc cyn ’Dolig – y cyfan am bris rhesymol os nad rhatach na bil trenau a gwestai cyffelyb ynys Brexit.

Mae’r beibl teithio Lonely Planet wedi cyhoeddi rhestr o hoff gyrchfannau 2025, gyda digon i dynnu dŵr o’r dannedd. Neu’r pres o’ch pocedi. Mae rhestr y gwledydd anhepgor yn amrywio o Baragwai yn ne America i Ffiji ym mharadwys y Cefnfor Tawel. Yn Ewrop, maen nhw’n argymell Slofacia, Armenia a Lithwania – yn ogystal â Kazakhstan, sy’n newydd da i ddilynwyr y tîm pêl-droed cenedlaethol. Bydd bechgyn Bellamy (rhif 29 ar restr detholion y byd FIFA) yn mynd i’r wlad honno (rhif 110 yn y byd) ym mis Medi, fel rhan o gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026. Yn ôl Lonely Planet:

Mae Kazakhstan yn gyrchfan i deithwyr sy’n chwilio am antur mewn gwlad llawn harddwch naturiol, hanes a diwylliant. Bydd cerddwyr wrth eu boddau â’r llwybrau niferus ym mharc cenedlaethol Sairam-Ugam, prin ei ymwelwyr. Ewch i Shymkent, sy’n enwog am rai o fwydydd gorau’r genedl, neu anelwch am Almaty yr hen brifddinas am flas o dreftadaeth Sofietaidd Kazakhstan.

O safbwynt y rhanbarthau gorau i ymweld â nhw yn 2025, mae Lonely Planet yn tynnu sylw at lwybr cerdded 420km yng Ngwlad yr Iorddonen, Mount Hood a cheunant afon Columbia yn Oregon yn yr Unol Daleithiau… a’r unig ymgeisydd Prydeinig? Dwyrain Anglia. Ac mae’r ardal honno’n apelio i mi’n bersonol fel darllenydd brwd cyfres o nofelau dirgelwch Ellie Griffiths am yr archaeolegydd Dr Ruth Galloway, wedi’u gosod ar wastadeddau Norfolk.

O ran Cymru, mae’r gogledd yn cael mensh arbennig gan y cyhoeddiad teithio Americanaidd Afar fel un o’r ’25 Lle Gorau’ i fynd yn 2025, law yn llaw â Freiburg yn yr Almaen, Rifiera Denmarc ac ynys Chíos Gwlad Groeg. Mae’r cylchgrawn yn annog y teithwyr talog “i groesi’r gweundiroedd a’r mynyddoedd a galw heibio eglwysi hynafol a chaffis hanesyddol ar lwybr pererindod 1,500 mlwydd oed” o Dreffynnon i Aberdaron am Enlli. Dyma’r “Welsh Camino” sydd 300 mlynedd yn hŷn na’r un enwocach i Galisia, meddai’r awdur. Mewn geiriau eraill, dilynwch ôl troed Aled Hughes fel rhan o ymgyrch codi arian ‘Plant mewn Angen’ y BBC yn ddiweddar.

Mae’r siwrnai honno’n apelio’n fawr i mi hefyd, a hynny reit handi cyn i ormod o Yanks uchel eu cloch mewn capiau MAGA ddod i dramwyo via maes awyr Manceinion. Hefyd, llwybr Pennant Melangell yn unigeddau’r Berwyn a rhan ddieithr o lwybr yr arfordir tua Thywyn a Dyffryn Dysynni. Diolch i gyfresi S4C fel Cynefin ac Am Dro! am godi’r awydd, ac i’r ddrama Ar y Ffin am gosi’r chwilfrydedd am ddinas Casnewydd a’i glannau lleidiog am bontydd Hafren.

Mae Croeso Cymru/Visit Wales eisoes wedi cyhoeddi taw ‘Croeso’ fydd thema’u hymgyrch gyhoeddusrwydd eleni, gan hyrwyddo’r gair Cymraeg mewn hysbysebion Prydeinig hefyd. Tipyn o newid byd i gorff a diwydiant Seisnig ar y naw! Nid bod y wasg Dorïaidd wedi’i darbwyllo’n llwyr chwaith, gyda’r Telegraph yn sgrechian WALES COULD BE ON THE BRINK OF A TOURISM NIGHTMARE mewn erthygl cyn ’Dolig â llun o ddefaid ac arwydd ‘No Tourists’. Does dim pall ar wreiddioldeb hacs Llundain weithiau! Asgwrn y gynnen oedd y ffaith fod llywodraeth Bae Caerdydd ar fin cyflwyno “European-style tourist tax” yng Nghymru yn 2027, er gwaetha’r rhybuddion y gallai wneud drwg ac atal ymwelwyr rhag dod yma. Wn i ddim beth sydd wedi gwylltio’r rhacsyn fwyaf – y ffaith y gallem ychwanegu £1.25 y noson at fil y fisitors, neu ein bod ni’n dilyn ôl troed yr hen bethau Ewrop yna.

Beth bynnag yw’ch cynlluniau ar gyfer 2025, yma a thraw, bachwch eich pasbort neu’ch sgidiau cerdded, a mwynhewch!