Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r Farwnes Jenny Randerson, y gwleidydd Rhyddfrydol, sydd wedi marw’n 76 oed.
Ar ôl graddio mewn Hanes o Brifysgol Llundain ac ennill cymhwyster dysgu, aeth hi’n athrawes ysgol uwchradd ac yna’n ddarlithydd yng Ngholeg Glan Hafren yng Nghaerdydd.
Bu’n gynghorydd yn y brifddinas rhwng 1983 a 2000, ac yn arweinydd yr wrthblaid yno am bedair blynedd.
Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n Ynad Heddwch rhwng 1982 a 1999, cyn cael ei hethol yn un o Aelodau cynta’r Cynulliad pan gafodd ei sefydlu.
Bu’n cynrychioli Canol Caerdydd, a chafodd ei phenodi’n Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg rhwng 2000 a 2003 ac yn Ddirprwy Brif Weinidog dros dro rhwng 2001 a 2002 yn absenoldeb Mike German.
Roedd hi’n allweddol yn y broses o gyflwyno strategaeth ddiwylliannol Dyfodol Creadigol, ac Iaith Pawb, strategaeth sy’n hybu’r Gymraeg.
Ar ôl gadael y Cynulliad yn 2011, aeth i Dŷ’r Arglwyddi gan barhau â’i gwasanaeth cyhoeddus.
Bu’n Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 2012 a 2015, a hi oedd y Democrat Rhyddfrydol benywaidd cyntaf o Gymru i fod yn weinidog yn San Steffan, a’r Rhyddfrydwr Cymreig cyntaf i fod yn weinidog ers Gwilym Lloyd-George yn 1945.
Bu’n hybu addysg a chymunedau ar hyd ei hoes, a bu’n Ganghellor ar Brifysgol Caerdydd ers 2019, yn ogystal â chefnogi elusennau ar gyfer pobol fyddar, band chwyth a mamau Affricanaidd.
‘Gwasanaethu pobol Caerdydd a Chymru’
“Dw i’n drist iawn o glywed am golli Jenny Randerson,” meddai Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
“Ymroddodd Jenny ar hyd ei hoes i wasanaethu pobol Caerdydd a Chymru.
“O fynediad am ddim i amgueddfeydd cenedlaethol Cymru i’r penderfyniad i adeiladu Canolfan Mileniwm Cymru, gadawodd ei gwaith yn weinidog farc annileadwy ar ein gwleidyddiaeth a’n cymdeithas.
“Bydd colled fawr ar ei hôl ymhlith ei theulu, ei ffrindiau, ei chydweithwyr, a’r unigolion niferus y gwnaeth hi gyffwrdd eu bywydau drwy ei gwasanaeth cyhoeddus.”
Ategodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, ei hymroddiad i wasanaeth cyhoeddus, gan ddweud ei bod hi’n “ymroddedig i wasanaeth cyhoeddus, ac i Gymru a datganoli”.
“Chwaraeodd ran hanfodol yn y Senedd a Thŷ’r Arglwyddi,” meddai.
“Rwy’n meddwl am ei theulu a’i ffrindiau heddiw.”
Dywed Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, ei bod hi “wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd cyhoeddus yng Nghymru”.
“Er iddi ddod yn Weinidog yn Swyddfa Cymru’n ddiweddarach, rwy’n cofio’n enwedig ei chyfraniad ym mlynyddoedd cynnar datganoli,” meddai.
“Fy nghydymdeimlad â’i theulu a’i hanwyliaid.”
Yn ôl Darren Millar, arweinydd y Grŵp Ceidwadol yn y Senedd, roedd Jenny Randerson “yn Aelod ymroddedig o’r Senedd cyn cael ei phenodi i Dŷ’r Arglwyddi”.
“Gwasanaethodd Gymru a’r Deyrnas Unedig ag angerdd mawr,” meddai.
Mae’n gadael gŵr, Peter, dau o blant a thri o wyrion.