Fe fu cynnydd o 223% yn nifer y bobol sy’n chwilota am wersi Cymraeg ar-lein ers i’r gyfres deledu The Traitors ddechrau eleni.

Daw hyn ar ôl i Elen Wyn, y Gymraes sydd ymhlith y cystadleuwyr, ddatgan yn Gymraeg ar y rhaglen ei bod hi’n un o’r Ffyddloniaid.

Mae un arall o’r cystadleuwyr, Charlotte, yn esgus bod yn Gymraes, gan siarad ag acen Gymreig er mwyn i bobol ymddiried ynddi’n well, ac mae hi wedi cael ei dangos ar y sgrîn yn darllen llyfr i’w helpu i ddysgu Cymraeg.

Yn ôl rhai sy’n gwylio’r gyfres, mae ymgais Charlotte i fod yn Gymraes ymhlith eiliadau mwyaf doniol y gyfres hyd yma, wrth iddi barhau i dwyllo’i chyd-chwaraewyr.

Ond mae Elen eisoes wedi gadael y gyfres ar ôl i’r cystadleuwyr eraill bleidleisio yn ei herbyn o amgylch y bwrdd crwn, a’i chyhuddo o fod yn ‘Fradwr’.

Maen nhw ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan yn y drydedd gyfres, ddechreuodd ar Ddydd Calan (Ionawr 1).

Dysgu Cymraeg

Yn ôl ymchwil, mae’n debyg fod tactegau Charlotte wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobol sy’n trafod y Gymraeg ar-lein ac sy’n mynd ati i geisio dysgu’r iaith.

Mae dysgu iaith newydd ymhlith addunedau Blwyddyn Newydd pobol eleni, yn ôl ymchwil gan QR Code Generator.

Mae mwy o bobol erbyn hyn yn chwilota’r geiriau ‘dysgu iaith’ a ‘Duolingo’ ar y we.

“Mae’r Traitors yn sicr wedi dod yn un o’r rhaglenni teledu realaeth mae mawr edrych ymlaen ati yn ystod y flwyddyn, ac mae’n wych gweld bod y sioe yn parhau i esgor ar gymaint o drafodaeth ar-lein,” meddai Marc Porcar, Prif Weithredwr QR Code Generator.

“Ers i dair pennod gynta’r sioe gael eu rhyddhau’r wythnos ddiwethaf, un o bynciau trafod mwya’r sioe yw acen Gymreig ffug Charlotte, yn enwedig gan fod y cystadleuydd wedi honni bod modd ymddiried mwy yn yr acen.

“Mae gwylwyr hefyd wedi tynnu sylw at eironi’r ffaith fod y cyfieithydd Cymraeg, Elen, wedi methu adnabod acen ffug Charlotte.

“Yn ystod ei hamser ar y sioe, fe wnaeth Elen ddatgan yn rheolaidd ei dyhead i roi Cymru ar y map ac i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg.

“Fel sydd wedi’i weld yn cynnydd yn nifer y rhai sy’n chwilota, mae’n glir fod y Traitors wedi tanio diddordeb mewn dysgu Cymraeg – er, nid yn y ffordd roedd Elen wedi’i disgwyl.

“Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Deyrnas Unedig wedi gostwng dros y degawd diwethaf, felly mae’n wych gweld sut mae sioe deledu realaeth wedi tanio diddordeb pobol mewn dysgu’r iaith.”