Fe fydd rhaglen ddogfen newydd ar S4C yn trafod llofruddiaeth Gerald Corrigan o Ynys Môn yn 2019, sy’n parhau i fod yn un o ddirgelion troseddol mwyaf dyrys Cymru.
Mewn rhaglen ddogfen dwy ran, Llofruddiaeth y Bwa Croes, sy’n cael ei darlledu ar Ionawr 2 a 3, cawn archwiliad manwl o’r hyn ddigwyddodd, sydd yn cynnwys cyfweliadau â newyddiadurwyr, patholegydd, cymdogion a ffrindiau Gerald Corrigan.
Mae’r gyfres yn ailymweld â’r digwyddiadau brawychus arweiniodd at ei farwolaeth, ac yn ceisio ateb yr un cwestiwn sydd wedi aros ers blynyddoedd: Pam gafodd Gerald Corrigan ei ladd?
Cefndir
Ar Ddydd Gwener y Groglith 2019, daethpwyd o hyd i’w gorff y tu allan i’w gartref anghysbell ym Mhorth Dafarch.
Roedd bollt bwa croes wedi ei daro, sy’n ddull anarferol a barbaraidd o ladd wnaeth godi braw ar yr ymchwilwyr.
Yr hyn wnaeth y drasiedi hon hyd yn oed yn fwy annifyr oedd diffyg unrhyw gymhelliad clir.
Roedd Gerald Corrigan yn ddyn oedd wedi ymddeol i’r Ynys, ac heb unrhyw elynion amlwg, gan arwain yr heddlu i ddyfalu y gallai hyn fod wedi bod yn ymosodiad ar hap.
Fodd bynnag, heb unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r ddamcaniaeth hon a neb dan amheuaeth amlwg, buan y datblygodd yr achos i fod yn un o ddirgelwch fyddai’n drysu ymchwilwyr am fisoedd i ddod.
Y rhaglen ddogfen
Mae pennod gyntaf y rhaglen ddogfen yn mynd â’r gwylwyr yn ôl i leoliad y drosedd, sef tŷ anghysbell gyda dysgl loeren wedi torri, a chorff dyn oedd yn ymddangos ei fod yn byw bywyd heddychlon a thawel, ond a gafodd ei lofruddio mewn ffordd anarferol a chreulon.
Cawn ein cyflwyno i ffilm fideo yn dangos yr ymdrechion cychwynnol i geisio darganfod beth yn union ddigwyddodd.
Ond roedd y diffyg tystiolaeth fforensig a datganiadau gan dystion ond yn dyfnhau’r dirgelwch.
Rydym yn cael clywed gan newyddiadurwyr fu’n gweithio ar y stori, gan rannu’r dryswch a’r rhwystredigaeth roedden nhw’n yn ei deimlo wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo heb lawer o ddatblygiadau.
Maen nhw’n manylu ar sut roedd y wasg yn cael eu llyncu gan y stori, gan geisio gwneud synnwyr o’r rheswm y byddai dyn fel Gerald Corrigan yn cael ei dargedu mewn ffordd mor dreisgar ac amhersonol.
Gydag ychydig iawn o wybodaeth, daeth yr achos yn destun dyfalu’n gyflym, ac roedd y cyfryngau a’r heddlu yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i esboniad am y llofruddiaeth ddisynnwyr.
Yn yr ail bennod, mae’r rhaglen ddogfen yn ymchwilio’n ddyfnach i’r achos, gan archwilio gwahanol ddamcaniaethau a thrio treiddio i fewn i we gymhleth yn cynnwys twyll, trosedd a chyffuriau – hyn i gyd yn agos at gartref Gerald Corrigan.
Cafodd therapydd chwaraeon o’r enw Terence Whall, oedd yn byw ym Mryngwran heb fod ymhell o gartref Gerald, ei gyhuddo o’i lofruddiaeth a’i ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug fis Chwefror 2020 i o leiaf 31 mlynedd o garchar.
Mae’r rhaglen yn datgelu sut cafodd Whall ei arestio a’i gyhuddo o’r llofruddiaeth.
Roedd ditectifs wedi siarad â Whall cyn iddyn nhw ei amau, gan ei fod yn un o 17 o bobol ar Ynys Môn i brynu bwa croes yn y deng mlynedd cynt oddi wrth gyflenwr bwa croes mwyaf y Deyrnas Unedig.
Whall oedd o dan brif amheuaeth yr heddlu wythnosau ar ôl cael ei gyfweld gyntaf, pan ddaethpwyd o hyd i Land Rover Discovery yn perthyn i’w bartner wedi’i losgi ger Bethesda – taith 25 munud mewn car o’i gartref.
Mae’r rhaglen yn dangos bod dadansoddiad o delemateg y Land Rover – cerdyn SIM yn olrhain lleoliad – wedi datgelu ei fod wedi parcio ar draeth Porth Dafarch, yn agos i gartref Gerald Corrigan ger llwybr arfordirol Ynys Môn adeg y llofruddiaeth.
Roedd Whall a’i gyfeillion wedi ceisio dinistrio’r cerbyd drwy ei losgi’n fwriadol, ond heb yn wybod iddyn nhw roedd y wybodaeth delematig wedi ei llwytho i’r cwmwl.
Datgelodd ôl troed digidol Whall hefyd ei fod wedi prynu union ben y saeth o’r bwa croes a’r bollt â’r un laddodd Gerald Corrigan, a hynny ar Amazon ychydig wythnosau cyn y llofruddiaeth.
Yn ôl erlynwyr, heb dechnoleg lleoliad y ‘blwch du’ yn y Land Rover, gallai Whall fod wedi osgoi cael ei ddal.
Ond does dim rheswm wedi’i roi o hyd i egluro pam gafodd Gerald Corrigan ei ladd.
Mae ei farwolaeth yn parhau’n ddirgelwch annifyr fydd yn parhau i boeni pobol Môn – a’r rhai sy’n cofio’i stori.