Mae gwneuthurwyr caws o Ynys Môn sydd wedi ennill nifer o wobrau yn bwriadu arallgyfeirio’u busnes gyda menter newydd.
Mae cais i godi ‘peiriant gwerthu caws’ ar fferm laeth Rhyd y Delyn rhwng Penmynydd a Rhoscefnhir ger Pentraeth wedi’i gymeradwyo gan y Cyngor.
Mi fydd y peiriant yn cael ei gadw mewn caban ar yr heol sy’n arwain at y fferm, ac mae gobaith y bydd yn weithredol erbyn yr haf.
Mae’r datblygiad yn rhan o “gynllun amrywioli amaeth” y cwmni llaeth, sy’n cynhyrchu’u caws eu hunain ar y fferm “o naill ben y broses i’r llall”.
Mae Cyngor Sir Fôn wedi cymeradwyo cais y fferm i godi’r caban fydd yn gartref i’r peiriant, yn ogystal â maes parcio gerllaw.
Dywed Menai Jones, rheolwr y cwmni, ei bod hi’n hynod falch o gael derbyn caniatâd.
Esbonia y bydd y peiriant, pan fydd yn weithredol, yn cynnig ystod o gawsiau gwahanol fydd yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei gynhyrchu ar y pryd.
Mae gobaith y bydd y peiriant yn golygu y bydd cynnyrch y cwmni’n fwy hygyrch i bobol leol ac i ymwelwyr.
Clod i’r caws
Mae cawsiau Rhyd y Delyn wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys y Wobr Oruchaf yn y Sioe Frenhinol ar gyfer eu caws glas, Môn Las.
Caiff gwartheg ffrisia Holstein eu bridio ar y fferm, ac maen nhw’n cael pori ar dir gwyrdd yr ynys yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf.
Wedi’r godro, caiff y llaeth ei drosglwyddo 30 metr i laethdy modern y fferm, lle caiff y caws ei gynhyrchu.
Mae’r cawsiau’n cael eu paratoi gyda chynhwysion naturiol, gan gynnwys Halen Môn, sy’n cael ei ddefnyddio yng nghaws Môn Las, sef enillydd gwobr Cwpan y Llywydd.
Fe enillodd eu Caws Ffermdy wobr Aur a’u Camembert wobr Cynnyrch Gorau’r Flwyddyn yng Ngwobrwyon Twristiaeth Ynys Môn.
Mae pob un o gawsiau Rhyd y Delyn wedi’u cynhyrchu gan ddefnyddio ceuled llysieuol, sy’n golygu eu bod yn addas i lysieuwyr.
‘Hyfywedd’
Mae’r caniatâd cynllunio’n datgan bod y cwmni’n “wneuthurwyr caws mawr eu clod ac yn fusnes teuluol”, ac y byddai’r datblygiad arfaethedig yn “ffordd o amrywioli fydd yn galluogi hyfywedd hirdymor a chynaliadwyedd y fferm, ac yn caniatáu iddyn nhw werthu eu cynnyrch i’r cyhoedd yn uniongyrchol ar eu safle mewn modd cyfleus”.
“Mae’r safle’n rhan o’r fferm laeth wledig yn Rhyd y Delyn, sy’n cynnwys sawl cae amaethyddol lle mae’r gwartheg yn pori, yn ogystal â’r llaethdy modern bychan lle caiff y caws ei gynhyrchu.
“Bydd y datblygiad arfaethedig yn ychwanegu at gymeriad y safle ac yn gweddu’r dirwedd wledig a’r fferm gyfagos.
“Mae’r fferm yn Rhyd y Delyn eisoes yn gwerthu eu cawsiau mewn sioeau a ffeiriau yn yr ardal leol, ynghyd â chyflenwi siopau caws, megis The Welsh Cheese Company.
“Bydd y datblygiad arfaethedig yn cynnig cyfrwng newydd i’r cwmni gael mynediad at y farchnad ac at werthu’u cynnyrch eu hunain, yn ogystal â ffrwd refeniw newydd i gefnogi’r fferm.
“Mi fydd yr incwm ychwanegol y bydd y datblygiad yn ei gynhyrchu yn gymorth cadarnhaol i’r busnes lleol, ac felly’n fudd sylweddol i economi lleol yr ardal wledig, fydd yn helpu i sicrhau hyfywedd hirdymor y busnes.”
‘Awydd’ i gefnogi cynnyrch lleol
Ychwanega Menai Jones, oedd yn athrawes hanes ond sydd bellach wedi ymddeol, fod “pobol yn awyddus i gefnogi busnesau lleol, ac yn awyddus i brynu rhagor o gynnyrch lleol”, a bod “pobol yn dod i ymweld â’r fferm yn rheolaidd”.
“Felly rydyn ni’n gobeithio y bydd y peiriant yn helpu i’w gwneud hi’n haws i brynu’n lleol, ac y bydd pobol yn dod i’w gefnogi,” meddai.
“Rydyn ni’n perthyn i grŵp o bobol sy’n angerddol am hyrwyddo cynnyrch a wnaed ar Ynys Môn, ac mae hyn yn rhan o’n hymdrechion i amrywioli’r fferm laeth, ond hefyd i gynnal y diwydiant caws ar yr ynys.”