Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd oren am eira a rhew ar gyfer y rhan fwyaf o Geredigion, rhwng 6 o’r gloch a chanol nos ar nos Sadwrn.

Oherwydd amodau teithio peryglus posib, mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynghori trigolion ac ymwelwyr i osgoi teithio oni bai bod rhaid yn ystod y cyfnod hwn.

Mae rhybudd melyn am eira a rhew hefyd mewn grym dros y sir gyfan, rhwng hanner dydd ar ddydd Sadwrn tan ganol nos ar nos Sul.

Paratoi o flaen llaw

Mae disgwyl y gallai rhwng 3-7cm a mwy o eira ddisgyn mewn ardaloedd eang, a hyd at 15-30cm ar dir uchel yn y canolbarth.

Mae perygl i law rewi, gan arwain at rew ar y priffyrdd, ac mae disgwyl y bydd oedi wrth deithio, gyda’r posibilrwydd y gallai trafnidiaeth gyhoeddus gael ei gohirio neu ei chanslo.

Gallai rhai pobol golli pŵer yn sgil y tywydd garw, gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin yn annog y cyhoedd i baratoi drwy wifrio storfeydd pŵer a fflach-lampau.

Dywed y Cyngor eu bod yn paratoi ar gyfer amodau rhewllyd, ac yn trin y rhwydwaith â halen ymlaen llaw.