Bydd ymgyrchwyr yn ymgynnull ym Merthyr Tudful fis nesaf i drafod yr heriau cynyddol sy’n wynebu democratiaeth o amgylch y byd.

Mae’r uwchgynhadledd ar Chwefror 8 wedi’i threfnu gan y grŵp polisi Melin Drafod er mwyn trin a thrafod pynciau megis y cynnydd mewn camwybodaeth a thwf yr adain dde eithafol.

Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad yn Theatr Soar fydd yr awdures Grace Blakeley; Mick Anontiw, Aelod Llafur o’r Senedd; yr awdur a gohebydd Will Hayward; Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd; a Beth Winter, cyn-Aelod Seneddol Llafur Cwm Cynon a cholofnydd golwg360.

‘Heriau digynsail’

“O gamwybodaeth gynyddol ar-lein i lygredd gwleidyddol a thwf yr adain dde eithafol, mae gwleidyddiaeth gynrychiadol yn wynebu heriau digynsail yn ein cenedl ni ynghyd â sawl cenedl arall o amgylch y byd,” meddai Talat Chaudhri, cadeirydd Melin Drafod.

“Bydd yr uwchgynhadledd yn gyfle i drafod ac i lunio atebion i’r heriau hynny ac i ailddychmygu democratiaeth ar gyfer y Gymru annibynnol i ddod.

“Mewn nifer o wledydd yn Ewrop a thu hwnt, nid oes amheuaeth bod democratiaeth fel yr ydym yn ei hadnabod hi dan fygythiad yn fwy nag ers cenedlaethau.

“Mae pob cam, boed yn fach neu’n fawr, yn gallu gwneud gwahanaeth.

“Mae angen i’n pleidiau gwleidyddol a’n cymdeithas sifil fod yn barod i wynebu’r bygythiad enfawr hwn.

“Dyma’r amser i ddyfnhau a chryfhau strwythurau democrataidd ein gwlad, rhai mewnol y pleidiau ynghyd â’n cyfundrefnau etholiadol.

“Ond, yn ogystal, mae’n gwbl hanfodol i fynd i’r afael â’r anghyfartaledd incwm difrifol yng Nghymru ac mewn llefydd eraill yn y byd.”