Mae Grant Bradburn, cyn-brif hyfforddwr Clwb Criced Morgannwg, yn dweud ei fod yn ceisio cyngor cyfreithiol ar ôl cael ei ddiswyddo.

Daeth y cyhoeddiad ddechrau’r wythnos fod y gŵr o Seland Newydd wedi cael ei ddiswyddo yn sgil ymddygiad amhriodol.

Mewn datganiad i BBC Cymru, mae’n gwadu gwahaniaethu a thrin unrhyw un yn annheg.

‘Hynod siomedig’

“Ar ôl blwyddyn gyntaf bositif a llwyddiannus iawn gyda Chlwb Criced Morgannwg, dw i’n hynod siomedig gyda’r broses dw i wedi’i hwynebu dros yr wythnosau diwethaf, a dw i bellach yn ceisio cyngor cyfreithiol,” meddai.

“Mae’n bwysig i mi nodi na fyddwn i fyth yn cymeradwyo unrhyw fath o wahaniaethu nac yn trin unrhyw un yn annheg.

“Alla i ddim gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.”

Prif hyfforddwr Clwb Criced Morgannwg wedi’i ddiswyddo

Mae Grant Bradburn wedi’i ddiswyddo yn sgil camymddwyn