Mae Clwb Criced Morgannwg wedi diswyddo’u prif hyfforddwr Grant Bradburn yn sgil camymddwyn.
Cafodd y gŵr o Seland Newydd ei gyhuddo gan y Rheoleiddiwr Criced annibynnol yn ddiweddar.
Fe wnaeth y clwb ei gyfeirio at y rheoleiddiwr annibynnol yn dilyn cwynion o ymddygiad amhriodol, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n “hyderus fod proses deg a thryloyw wedi cael ei dilyn”.
Dywed y clwb nad ydyn nhw’n goddef ymddygiad sy’n gwahaniaethu mewn unrhyw ffordd, nad oedd modd i Grant Bradburn barhau yn ei swydd, a’u bod nhw’n cynnig cefnogaeth i’r sawl gafodd eu heffeithio.
Daw’r penderfyniad ar ôl iddyn nhw gynnal eu hymchwiliad eu hunain.
Cafodd ei benodi’n brif hyfforddwr fis Ionawr eleni, wrth lofnodi cytundeb tair blynedd.
Enillodd y tîm y gystadleuaeth 50 pelawd eleni, ar ôl i Bradburn olynu Matthew Maynard a Mark Alleyne.
Yn y gorffennol, bu’n brif hyfforddwr ar dîm yr Alban ac yn hyfforddwr maesu gyda Phacistan.
‘Parch’
“Yng Nghlwb Criced Morgannwg, rydym yn rhoi lles ein pobol yn gyntaf, ac rydym yn darparu cefnogaeth i’r sawl gafodd eu heffeithio,” meddai’r cadeirydd Mark Rhydderch-Roberts.
“Rydym yn eithriadol o falch o’n record yn nhermau sicrhau bod pawb sydd ynghlwm wrth y clwb yn teimlo’u bod nhw’n cael eu parchu, yn perthyn ac yn cael eu trin yn deg.”