Wrth i 2024 dynnu tua’i therfyn, mae golygyddion a gohebwyr golwg360 a Golwg yn rhannu p’un oedd eu hoff albwm eleni. Ac mae’n ymddangos bod yna un albwm yn benodol yn eu plith oedd wedi plesio sawl un o’r criw…
Efa Ceiri
O edrych yn ôl ar 2024, yr albwm sy’n sefyll allan i mi ydi Mynd â’r tŷ am dro gan Cowbois Rhos Botwnnog. Dw i wastad wedi bod yn ffan o’u gwaith nhw, a gellir dadlau mai dyma’r albwm gorau eto. Pan ddôth ‘Clawdd Eithin’ ac ‘Adenydd’ allan fel senglau yn gyntaf yn 2023, mi o’n i’n gwybod y bysai’n werth aros am yr albwm.
Dw i’n teimlo bod yna ryw elfen gref o hiraeth yn llifo drwyddi, boed hynny’n hiraethu am rywle neu rywun arall neu’n hiraethu am y person oeddat ti’n arfer bod; rhywbeth dw i’n meddwl sy’n taro pawb o bryd i’w gilydd. Mae cynildeb wastad ynghlwm â gwaith Cowbois, bron fel dy fod di’n gwrando ar rywun yn canu cerdd. Mae hynny’n wir gyda’r gân ‘Magl’ ac mae’r fideo yn hollol, hollol lyfli. Mae’n anodd peidio dal dy hun yn myfyrio ar amser neu berson penodol wrth wrando ar yr albwm.
Efan Owen
Band gothig, electronig o Leeds ydy Tristwch y Fenywod, a does dim un o’r tair sy’n aelodau wedi’u magu yng Nghymru’n wreiddiol. Mae’u halbwm cyntaf dan yr un enw, sydd wedi’i sgwennu’n Gymraeg i gyd, yn weledigaeth go estron, felly, o’n hiaith a’n diwylliant.
Mae meddiannu diwylliannol yn bwnc cyfarwydd yma yng Nghymru wedi helynt y Fedal Ddrama, a hawdd iawn fyddai dadlau bod yr albwm yn enghraifft o feddiant gan artistiaid y tu hwnt i’r gymdeithas Gymreig gyfarwydd o rym barddonol yr iaith. Yn bendant, dyma’r argraff gaiff gwrandawyr Cymreig wrth gyfrif yr holl wallau gramadegol a chyfieithiadau lletchwith. Ond pechu ar yr union beth sydd fwyaf diddorol am waith y band fyddai hynny, yn fy marn i.
Mae The Quietus yn nodi yn eu hadolygiad nhw fod y band wedi dewis chwarae offerynnau nad oedden nhw’n eu medru’n iawn er mwyn cynhyrchu sain gyntefig, arallfydol, ac mae’r iaith Gymraeg bron â bod yn gweithredu yma’n yr un modd. Mae natur anghyfarwydd y geiriau a’r synau, i ran helaeth y gynulleidfa a’r band eu hunain, yn ategu’n wych at naws estron, cyfareddol yr albwm.
Mae’n amlwg, hefyd, fod gan y band ymwybyddiaeth rywsut o’r traddodiad pop Cymraeg. Yn ogystal â’r bandiau gothig ac electronig Saesnig adnabyddus, megis Coil, Cabaret Voltaire, a Throbbing Gristle, mae Heather Jones, Datblygu, a’r grŵp arbrofol Plant Bach Ofnus ymhlith yr artistiaid maen nhw’n cydnabod sydd wedi dylanwadu arnyn nhw.
Fe fu’r Athro Simon Brooks yn dadlau’n ddiweddar o blaid cydnabod treftadaeth Gymraeg-ei-hiaith Lloegr. Mae’r dreftadaeth honno’n dyddio’n ôl i ganu Aneirin a Taliesin, ac i’w chanfod eto yn hanes y mudiad cenedlaetholgar cynnar Cymru Fydd ac yn Eisteddfodau Cilgwri. Da fyddai dychmygu bod atgyfodiad newydd ar gychwyn yma.
Elin Owen
O’r gân gyntaf gafodd ei rhyddhau oddi ar Cool Head gan Georgia Ruth, ro’n i’n gwybod mai dyma fyddai fy hoff albwm yn 2024. Dw i’n siŵr ‘mod i wedi gwrando ar ‘Driving Dreams’ gannoedd o weithiau heb laru – o lais hyfryd Georgia, i groove y drymiau, a’r llinynnau syfrdanol, mae ‘Driving Dreams’ yn hudolus. Roedd gweddill yr albwm a ddilynodd yr un mor wych, a dw i wir yn edmygu pa mor agored oedd Georgia wrth sgrifennu am bynciau sydd mor agos i’w chalon. Mae hi’n gampwaith o albwm.
Alun Rhys Chivers
I fi, mae’r profiad o wrando ar albwm yn golygu llawer mwy nag agor y clustiau. Mae’n ymwneud ag emosiwn a’n hymateb i’r emosiwn, a gall y gerddoriaeth fwyaf pwerus eich cludo i fyd arall neu ddod ag atgofion byw iawn i’r synhwyrau. Dyna pam mai Caneuon Tyn yr Hendy gan Meinir Gwilym oedd fy hoff albwm yn 2024.
Mae’n anodd credu i ugain mlynedd a mwy fynd heibio ers i’r gantores o Fôn ryddhau Smôcs, Coffi a Fodca Rhad, ei EP gyntaf, ac yna’i halbwm cyntaf Dim Ond Clwydda. Ddau ddegawd yn ddiweddarach, roedd ei gig yn Nhŷ Tawe eleni’n un o uchafbwyntiau cerddorol y flwyddyn i fi, a finnau’n cael fy nhywys yn ôl i’r dyddiau cynnar hynny yn gwrando arni mewn gigs a gwyliau ledled Cymru.
Ac mae hi’r un mor hawdd adnabod y llais unigryw heddiw ag yr oedd hi bryd hynny. O’r nodyn cyntaf i’r nodyn olaf, cefais fy hun ar daith nad oeddwn i am iddi ddod i ben. Taith gerddorol, ie, ond taith i bellafoedd fy ieuenctid hefyd – gyda chyffyrddiad bach o sŵn Pedair yn ‘Rew Di Ranno’ gyda Gwenan Gibbard. O dynerwch ‘Yr Enfys a’r Frân’ i synau roc ysgafn ‘Chwarter i Hanner’, mae’n deg dweud mai hon, Caneuon Tyn yr Hendy, oedd “fy mharadwys i” eleni.
Hanna Morgans Bowen
Un sydd wedi sefyll mas i fi eleni yw Heddiw gan girl group gorau Cymru – Eden.
O’n i’n ffan mawr o’r band Tair Eden gynt, felly pan glywais i bod albwm newydd gyda nhw’n dod allan eleni, o’n i mor gyffrous. Ond rhaid dweud taw Heddiw yw fy hoff albwm ganddyn nhw, gan ei fod yn gasgliad o ganeuon sy’n crynhoi eu hangerdd mewn caredigrwydd, cynwysoldeb a hunanofal.
Mae Heddiw yn nodi dychweliad y band 25 mlynedd ers rhyddhau eu halbwm diwethaf, gan ddangos eu statws fel eiconau pop yn y Gymraeg. Wedi’i gysylltu â’r fenter iechyd meddwl PABO a meddwl.org, sy’n hyrwyddo caredigrwydd a chysylltiad, mae Heddiw yn adlewyrchu twf Eden wrth bontio eu hetifeddiaeth gyda sain ffres a modern ar gyfer cenhedlaeth newydd.
O’n i’n ffodus iawn o allu gweld Eden yn rocio llwyfan Tafwyl, a rhaid dweud taw dyna oedd un o uchafbwyntiau fy mhenwythnos. Roedd y naws yno mor bositif ac yn bendant yn un o fy hoff gigs dw i wedi bod iddyn nhw.
Mae’r caneuon ar yr albwm yn pelydru egni bywiog ac ysbrydoledig, gan gyfuno harmonïau cyfoethog â chynhyrchiad pop modern. Mae’r gerddoriaeth yn teimlo’n hiraethus ac yn ffres, gyda rhythmau heintus a geiriau dwys sy’n creu ymdeimlad o lawenydd. Fy hoff ganeuon i oddi arno yw ‘Siwgr’ a ‘Fi’ oherwydd eu bod nhw’n fachog ag iddyn nhw negeseuon da.
Mae Heddiw yn gyfuniad o hiraeth a modernedd, tra’n aros yn driw i’w gwreiddiau. Gyda’i egni bywiog, themâu dwys a chynhyrchiad soffistigedig, mae’r albwm yn teimlo fel dathliad o’r band. Mae’n ailddatgan eu statws fel eiconau pop yn y Gymraeg, gan gynnig casgliad o ganeuon sy’n ysgogi llawenydd, myfyrdod a chysylltiad.
Cadi Dafydd
Wnes i ddim gorfod meddwl llawer. Albwm diweddaraf Cowbois Rhos Botwnnog ydy’r ateb. Dw i’n teimlo fel ychydig o diwn gron, achos llynedd fe wnes i sôn am eu halbym o’u gig i ddathlu deng mlwyddiant Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn yn y darn yma. Ond dw i am sôn am Mynd â’r tŷ am dro y tro yma, y casgliad enillodd deitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod eleni.
Cefais i fy nal y tro cyntaf glywais i ‘Clawdd Eithin’, un o senglau’r albym, ar y radio a wnaeth gweddill y traciau ddim siomi unwaith gyrhaeddon nhw. I fi, mae ‘Halltu’r Dydd’ yn uchafbwynt yn gerddorol ac o ran ei geiriau. Mae gwreiddioldeb y cysyniad o halltu diwrnod da, fel darn o fochyn, fel ei fod yn para yn arbennig. Ychydig flynyddoedd ’nôl fe wnes i ddisgyn mewn cariad efo ‘Blodau Haearn Blodau Dur’ gan Bob Delyn a’r Ebillion, ac mae Cowbois yn gwneud cyfiawnder â’r gân a llais Iwan Huws yn ei gweddu’n hyfryd.
Barry Thomas
O ran danteithion i’r glust, mae un casgliad o ganeuon eleni ben-ag-ysgwydd uwchlaw popeth arall.
Aeth wyth mlynedd heibio ers albym ddiwetha’ Cowbois Rhos Botwnnog o ganeuon gwreiddiol, ac eleni cafwyd y cymbac mwya’ melys ers Rocky Balboa yn erbyn Ivan Drago (Rocky IV).
Mae Mynd â’r tŷ am dro yn gampwaith ac arni ganeuon hyfryd o dyner megis ‘Magl’ a sdwff mwy tripi megis ‘Halltu’r Dydd’.
Hon enillodd wobr Albwm Gymraeg y Flwyddyn yn y Steddfod fis Awst, a difyr fydd gwrando arni eto dros yr ŵyl yng nghwmni mins pei a White Russian.