Mae S4C yn cynnig y cyfle i bump o bobol drawsnewid eu bywydau wrth fynd i mewn i’r Tŷ Ffit ar gyfer cyfres newydd sbon sy’n dechrau ar Ionawr 7.

Yn ystod y gyfres, sydd wedi’i chyflwyno gan Lisa Gwilym, bydd pum unigolyn (neu gleient) sydd â’r awch i drawsnewid eu bywydau ac i garu eu hunain eto yn aros ar arfordir Ynys Môn dros gyfnod o saith penwythnos.

Gyda chymorth gan fentoriaid ac arbenigwyr i’w harwain bob cam o’r ffordd, bydd y cleientiaid yn canolbwyntio ar wella eu lles corfforol, meddyliol ac emosiynol yn ystod eu cyfnod ar Tŷ Ffit.

Y pump fydd yn cymryd rhan yn y gyfres yw:

  • Arwel Cullen (34 oed) o Bontllyfni, sy’n beiriannydd i gwmni sy’n cynhyrchu stofiau llosgi coed

  • Becky Richards (41 oed) o Rydaman, sy’n athrawes Bioleg yn Ysgol Gyfun Gŵyr

  • Dylan Edwards (38 oed), dadansoddwr gemau fideo sy’n byw yng Nghaerdydd ac sy’n hanu o Bontnewydd ger Caernarfon

  • Gwawr Job-Davies (40 oed) o Hen Golwyn, sy’n ffisiotherapydd gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

  • Sharon Jones (58 oed) o Groeslon, sy’n gweithio fel cynorthwyydd gofal iechyd

Mentoriaid

Bydd pob un o’r cystadleuwyr yn cael eu paru â mentor.

Un o’r mentoriaid yw’r cyn-chwaraewr rygbi Shane Williams, sy’n enwog am ei gyfnod llwyddiannus fel asgellwr i’r Gweilch ac i dîm cenedlaethol Cymru.

Fe sydd wedi sgorio’r mwyaf o geisiadau erioed i Gymru (58).

Ymddeolodd ar ôl bron i ugain mlynedd ar frig y gamp, ac ers hynny mae wedi rhagori mewn chwaraeon dygnwch, yn enwedig triathlon ac Ironman.

Yn ei ras gyntaf yn Ninbych-y-pysgod yn 2016, gorffennodd yn drydydd yn ei grŵp oedran (dynion rhwng 45-49 oed), ac yn rhif 81 yn gyffredinol.

“Mae e wedi bod yn fraint bod yn rhan o Tŷ Ffit – rhaglen bwysig sydd wirioneddol yn newid bywydau,” meddai.

“Fel mentor, o’n i mo’yn sialens ond o’n i hefyd mo’yn gyrru’r person wnes i ddewis i ffeindio’r cryfder hynny sydd tu fewn i ni gyd.

“Mae e am ddyfalbarhau, gweithio fel tîm a peidio rhoi fyny.

“A fel rygbi, dyw’r daith yma ddim jest yn gorfforol – mae am ddod o hyd i’r cryfder meddyliol yna a dysgu i gredu yn eich hun.

“Oedd e’n bwysig i fi ddangos bod y buddugoliaethau gorau yn medru dod pan wyt ti’n wynebu heriau head-on.”

Mentor arall yw’r pencampwr Paralympaidd am daflu disgen a siot, Aled Siôn Davies o Ben-y-bont ar Ogwr.

Cafodd ei eni â hemimelia yn y goes dde.

O oedran ifanc, roedd yn mwynhau chwaraeon, ac yn 2005 fe benderfynodd ymrwymo i’r siot a’r ddisgen.

Fe dorrodd y record byd am y siot F42 yn 2012, ac yn y Gemau Paralympaidd y flwyddyn honno fe gipiodd y fedal efydd yng nghystadleuaeth y siot ac aur yn y ddisgen.

Yng Ngemau Paralympaidd Rio yn 2016, enillodd fedal aur yn y siot F42, gan dorri’r record Baralympaidd, ac yn 2020 fe enillodd fedal aur arall wrth daflu pwysau F63.

Yn y Gemau yn Paris eleni, enillodd fedal arian yn y siot F63 hefyd.

Y trydydd Mentor yw Naomi Allsworth, sy’n arbenigwr ar oroesi yn y gwyllt ac sydd yn cynghori Academi Bear Grylls.

Daw yn wreiddiol o Grymych, a newidiodd ei gyrfa o fod yn gynllunydd dillad i gynnal cyrsiau goroesi mewn natur gwyllt, ar ôl iddi fynychu cwrs Sgiliau Goroesi gan Academi Bear Grylls.

Daeth hi’n ail yn y gyfres Alone ar Channel 4, ar ôl wynebu arth ar ei phen ei hun yng Nghoetiroedd Alpaidd Canada, ac mae hi bellach yn rhedeg y sefydliad The Rambler’s Mistress, sy’n dod â menywod o’r un anian at ei gilydd a’u trochi mewn byd natur.

Siôn ‘Monty’ o Borthmadog yw mentor arall Tŷ Ffit.

Mae’n berchennog ar gampfa ac yn hyfforddwr ffitrwydd.

Aeth drwy ei daith trawsnewid ei hun, gan golli bron i bedair stôn ar ôl dod yn dad saith mlynedd yn ôl.

Roedd yn rhan o’r rhaglen ddogfen 30 Stôn: Brwydr Fawr Geth a Monty ar S4C eleni.

Y pumed mentor yw Caris Bowen, sy’n hyfforddwr nofio dŵr agored o Lanelli.

Concrodd ei ffobia o ddŵr dwfn ar ôl goroesi canser Hodgkins Lymphoma rai blynyddoedd yn ôl, a hithau ond yn 21 oed.

Erbyn hyn, mae ei hiechyd meddwl, ei hiechyd corfforol a’i hagwedd at fywyd yn well nag erioed.

Yn ogystal â’r mentoriaid, mae pedwar arbenigwr yn y maes iechyd hefyd yn rhan o dîm Tŷ Ffit:

  • Cadi Fôn o Ddyffryn Nantlle, sy’n hyfforddwr personol a pherchennog busnes
  • Angharad Griffiths, maethegydd sy’n hanu o Gaerfyrddin ond yn byw ym Methesda
  • Dr Sherif Khalifa, sy’n feddyg teulu yng Nghaerdydd
  • Sioned Lewis, sy’n gwnselydd

Erbyn diwedd y gyfres, bydd y gynulleidfa’n gweld i ba raddau mae mynd i’r afael ag iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles emosiynol yn arwain at drawsnewidiad ym mywydau’r cleientiaid.

Mae modd dilyn cynllun arbennig Tŷ Ffit ar wefan S4C.