Y Barri fydd lleoliad yr orymdaith nesaf dros annibyniaeth i Gymru.

Bydd yn cael ei chynnal am 1 o’r gloch ddydd Sadwrn, Ebrill 26 yn y dref oedd yn ganolog i ddatblygiad Cymru Fydd yn yr 1890au.

Cafodd y gangen gyntaf ei sefydlu yng Nghapel Bethel, Llangatwg yn 1892, ac yn y Barri ddwy flynedd yn ddiweddarach yr enillon nhw eu seddi cyntaf ar Gyngor.

Nod Cymru Fydd oedd ymateb i’r dyhead ymhlith y Cymru am ymreolaeth, gan rymuso cymunedau drwy alw am bwerau i wneud penderfyniadau ar faterion megis addysg, masnach ac isadeiledd.

“Mae arwyddocâd hanesyddol Cymru Fydd yn y 1890au yn atgof pwerus o’n llais torfol,” meddai’r Cynghorydd Mark Hooper, sy’n un o drefnwyr yr orymdaith.

“Wrth inni wynebu heriau cyfoes, mae’r syched am hunan-benderfyniad yn parhau mor gryf ag erioed.

“Mae’n hanfodol ein bod yn anrhydeddu ein gorffennol tra’n eiriol dros ddyfodol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd a’n blaenoriaethau.”

Yr orymdaith

Ers 2019, mae miloedd o bobol wedi gorymdeithio dros annibyniaeth ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys Caernarfon, Merthyr, Wrecsam, Bangor, Abertawe, Caerfyrddin a Chaerdydd.

Denodd yr orymdaith yn y brifddinas yn 2022 dros 10,000 o bobol.

YesCymru ac AUOB Cymru sydd wedi cyd-drefnu’r orymdaith.

“Mae YesCymru wedi ymrwymo i’r nod o Gymru annibynnol, Cymru sy’n dathlu yr amrywiaeth o bobol sydd wedi ymgartrefu yma,” meddai Phyl Griffiths, cadeirydd YesCymru.

“Ymunwch â ni yn y Barri ar Ebrill 26, 2025, i leisio’ch barn a sefyll gyda miloedd o bobol eraill sy’n credu mewn dyfodol mwy disglair ac annibynnol i Gymru.”