Mae Liz Saville Roberts wedi dweud wrth Syr Keir Starmer, Prif Weinidog Llafur y Deyrnas Unedig, fod rhaid i’r ymdrechion i ailosod y berthynas â’r Undeb Ewropeaidd gynnwys ailymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau.
Dywed fod “cefnogaeth y cyhoedd i gysylltiadau agosach â’r Undeb Ewropeaidd” yn tyfu, gan feirniadu Llafur a’r Ceidwadwyr am fethu â gwarchod yr economi yn dilyn Brexit.
Mae disgwyl i Lywodraeth San Steffan fwrw ymlaen â’u hymdrechion i wella’u perthynas â’r Undeb Ewropeaidd eleni, a hynny ar ôl i’r berthynas suro yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd yn sgil refferendwm 2016.
‘Ailosod’
“Ar gyfartaledd, roedd trigolion y Deyrnas Unedig bron i £2,000 yn waeth eu byd yn 2023 o ganlyniad i Brexit,” meddai Liz Saville Roberts.
“Does fawr o syndod felly fod cefnogaeth y cyhoedd i gysylltiadau agosach gyda’r Undeb Ewropeaidd – bloc masnachu mwya’r byd – yn tyfu.
“Ers dod yn Brif Weinidog, mae Keir Starmer wedi dweud y bydd yn ‘ailosod’ y berthynas ôl-Brexit gyda’r Undeb Ewropeaidd.
“Roedd 42% o holl allforion y Deyrnas Unedig a 52% o holl fewnforion y Deyrnas Unedig yn 2023 gyda’r Undeb Ewropeaidd.
“Yn syml iawn, mae’n fater o synnwyr cyffredin ac economeg gadarn y dylai unrhyw ‘ailosod’ gynnwys aelodaeth o’r farchnad sengl a’r undeb tollau.
“Mae hyn er budd busnesau ac economi ehangach Cymru, y mae disgwyl iddyn nhw wynebu ergyd bellach o ganlyniad i newidiadau Llafur i gyfraniadau at Yswiriant Gwladol.
“Rŵan, mae’n rhaid i’r Prif Weinidog roi buddiannau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn gyntaf, neu fe fydd perygl o gyhuddiadau nad yw’r ‘ailosod’ hwn yn ddim byd ond slogan.”