Dyma eitem sy’n edrych ar rai o hoff lefydd darllenwyr Golwg360. Mae’r eitemau wedi cael eu sgwennu gan ddysgwyr Cymraeg. Y tro yma, Sheila Verity sy’n dweud pam ei bod yn hoffi Llwybr Arfordir Cymru. Mae Sheila yn dod o Sheffield yn wreiddiol ac yn dal i fyw yno.
Dw i erioed wedi byw yng Nghymru, ond aethon ni i ogledd Cymru ar wyliau pan o’n i’n blentyn, felly mae atgofion hapus gyda fi.
Yn 2019 symudodd fy mab hynaf i Gaerdydd – mae e’n gerddor gydag Opera Cenedlaethol Cymru, a’i wraig hefyd. Roedden nhw wedi dechrau dysgu Cymraeg yn y cyfnod clo achos roedd bywyd yn ddiflas iawn. Penderfynais i ddysgu hefyd. Wnes i wersi ar Zoom gyda Phrifysgol Abertawe a Chaerdydd – a nawr dw i ddim yn gallu stopio dysgu!
Llwybr Arfordir Cymru yw fy hoff le. Dw i’n byw yn bell o’r môr ond dw i’n caru’r môr, a dw i hefyd yn hoff iawn o gerdded. Dw i wedi cerdded o Gas-gwent i Aberystwyth yn barod – 470 milltir. Dw i dal angen cerdded 400 milltir – cyn i fi fynd yn rhy hen!
Dw i’n cerdded ar hyd y Llwybr ddwywaith y flwyddyn. Ar ôl ymweld â fy mab yng Nghaerdydd, dw i’n dal trên ac yn cerdded rhan arall o’r Llwybr ar fy mhen fy hun, tua 60-70 milltir dros 5-7 diwrnod bob tro.
Does dim llawer o Gymraeg yn Sheffield, wrth gwrs, felly dw i’n gwylio Pobol y Cwm tair gwaith yr wythnos – dw i’n adict! Ond dw i angen isdeitlau achos maen nhw’n siarad mor gyflym.
Yn ddiweddar wnes i ymuno â grŵp U3A yma yn Sheffield, sy’n cwrdd i siarad Cymraeg. Dyn ni’n sgwrsio, a darllen erthyglau yn Lingo Newydd.
Mae fy mab a’i wraig wedi cael babi, felly dw i’n edrych ymlaen at siarad Cymraeg gyda fy wyres yn y dyfodol.