Dyma gyfres sy’n agor y drws ar rai o gaffis Cymru sydd, yn aml, yn ganolbwynt y gymuned. Byddwn ni’n siarad efo’r perchnogion am y bwyd, y coffi, y cwsmeriaid, yr heriau a’r troeon trwstan – bydd digon ar y fwydlen i gnoi cil drosto. Yr wythnos hon, y gogyddes ac awdur Lisa Fearn, perchennog caffis Y Sied Goffi a Y Sied Lofft yng Nghaerfyrddin, sy’n cael sgwrs dros baned efo golwg360…


Wnes i agor Y Sied Goffi yng Nghanolfan Rhodfa Santes Catrin yn y dre yn 2020 jest ar ôl y cyfnod clo, ac ym mis Ebrill y llynedd [2024] wnes i agor Y Sied Lofft ym Mharc Pensarn tu allan i’r dref.

Y Sied Goffi yng Nghaerfyrddin Llun: Celf Calon

Wnes i ddysgu fy hun sut i goginio. Doedd Mam ddim yn mwynhau coginio a fi oedd yn coginio lot yn y cartref. Mae gen i bump o blant a dw i wastad wedi coginio efo nhw a dysgu nhw sut i helpu gyda’r gwahanol elfennau o’r pryd bwyd. Wnes i agor yr ysgol goginio [Pumpkin Patch] yn 2008er mwyn cael plant eraill i fwynhau coginio.

Tu mewn i siop Y Sied Goffi yng Nghaerfyrddin Llun: Celf Calon

O ran rhedeg caffi, wnes i ddysgu wrth fynd ymlaen. Mae Aimee, fy merch hynaf, yn rheoli’r siopau coffi o ddydd i ddydd, a dy’n ni’n gweithio gyda’n gilydd i greu bwydlen dymhorol sy’n gweithio i ni a’n cwsmeriaid.

Mae’n eitha’ sbort agor siop goffi – y steilio, prynu llestri newydd, y greindar coffi  ac ati. Ond dy’n ni ddim yn taflu lot o arian at y siopau, dy’n ni’n ei wneud mewn ffordd fforddiadwy, a gwneud be allwn ni efo be sy gynnon ni. Mae rhedeg busnes yn ein teulu ni – roedd fy Mam a Mam-gu yn rhedeg siopau trin gwallt. Fel ‘na roedden nhw’n rhedeg eu busnes – ehangu a gwella wrth ennill arian. Pam benthyg £200,000 i agor busnes os y’ch chi ddim yn gwybod os fydd yn llwyddiant?

Crempog yn Y Sied Goffi

Coffi da sy’n gwneud caffi llwyddiannus – dydy Nescafé ddim yn hitio’r sbot ddim mwy. Dy’n ni’n ffrindiau mawr efo’r rhostwyr coffi lleol. Mae staff da hefyd yn bwysig, a nabod y cwsmeriaid. Dy’n ni’n nabod ein pobl leol ni, ac yn gwerthfawrogi ein cwsmeriaid ac maen nhw’n gwerthfawrogi ni. Mae lot o bobl yn dod ’nôl yn gyson, felly rhaid cadw’r safon yn gyson hefyd.

Mae Y Sied yn defnyddio cawsiau a chynnyrch lleol

Dy’n ni’n cael pob math o gwsmeriaid yma – mae ambell chwaraewr rygbi yn dod mewn sy’n gofyn am ryw chwe ŵy wedi potsio ar dôst! Ond pobl o’r ardal ydyn nhw gan fwyaf – un ai yn famau ifanc neu rhai sydd wedi ymddeol. Maen nhw’n Gymry Cymraeg ar y cyfan, a gan ei bod yn ardal weddol dwristaidd dy’n ni’n cael dipyn o ymwelwyr hefyd – fel arfer, pobl yn dod i weld teulu yn yr ardal.

Mae’r brecwastau yn Y Sied yn boblogaidd iawn

Dy’n ni’n gwneud bwyd traddodiadol – y math o bethau ges i fel plentyn efo Mam-gu a dw i’n defnyddio ryseitiau o fy llyfr Blas – Dathlu Bwyd a Theulu yn y caffi. Mae cawl yn un o’r ffefrynnau, a dy’n ni’n ei weini gyda chaws lleol, ac yn gwneud mathau eraill o gawl mas o lysiau yn eu tymor. Mae’r brecwast yn boblogaidd hefyd a dy’n ni’n defnyddio dau gigydd lleol i gael y bacwn a’r selsig, ac yn defnyddio wyau buarth lleol, a gwneud bara ein hunain ar gyfer y tôst a’r byns. Mae pobl yn hoffi gwybod o le mae eu bwyd yn dod, ac maen nhw’n prynu mewn i’r stori a’r cefndir.

Dy’n ni ddim yn prynu llawer mewn o gwbl ac yn gwneud bron popeth ein hunain – o’r sawsiau i’r bara, a chacennau. Mae’n dipyn o waith ond unwaith chi’n dechrau prynu mewn does dim stop arni.

Mae Y Sied yn gwneud bron popeth eu hunain – o’r sawsiau i’r bara a chacennau

Mae Covid wedi cael effaith a fi’n credu bod y caffis wedi diodde’ mwy am fod pobl wedi mynd mas o’r arfer o fynd mas, a ddim yn gweld ishe mynd mas. Ond fi’n credu bod pobl yn meddwl os nag y’n nhw’n gallu fforddio pryd o fwyd, maen nhw’n gallu fforddio coffi a chacen fel trît bach. Maen nhw’n gwerthfawrogi pethau mwy cartrefol ar eu stepen drws.

Dy’n ni’n cynnal lot o weithdai yn Y Sied Lofft. Mae merch leol, Sarah, yn wniadwraig ac yn trwsio dillad, a dy’n ni’n cael gweithgareddau coginio lle mae pobl yn gallu dod i ymlacio a dod i nabod ei gilydd tu allan i’r gwaith. Mae Pwmpenni Bach yn rhoi gwersi coginio i rieni a’u plant – mae’r fam neu’r tad yn gallu dysgu rysáit ac wedyn gwneud y pryd adre a chael eu plant bach i helpu. Mae’n gyfle i rieni ddod at ei gilydd a chael coffi a rhannu problemau a chael cyngor.