Enw Llawn: Leanne Wood
Dyddiad Geni: 13/12/1971
Man Geni: Ysbyty Llwynypia, Cwm Rhondda
Leanne: merch, mam, gwleidydd, arweinydd, gweriniaethwr a sosialydd.
Fe wyddom am Leanne Wood y gwleidydd, ond dyma gyfle arbennig i dyrchu dan yr wyneb ac i ddeall mwy amdani fel yr unigolyn unigryw ydi hi, sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at wleidyddiaeth yng Nghymru. Does dim gwell ganddi na threulio amser ym myd natur, gan ei fod yn ei helpu i “ddal ymlaen at y gobaith y gallwn ni fod yn well fel cymdeithas nag yr ydyn ni ar hyn o bryd”, ac mae hynny yn ei hysgogi i weithio tuag at y diben hwnnw.
Pe bai’n disgrifio’i hun mewn tri gair? Optimydd, gweithredwr ac empath fyddai’r geiriau hynny.
Un o’i hatgofion arwyddocaol cynharaf yn blentyn oedd cyfarfod darpar Frenin Lloegr yn 1987, yn ferch ysgol 15 oed, pan ddaeth i agor eu clwb ieuenctid newydd, Valleys Kids, ym Mhenygraig.
“Roedd e fel petai e wedi dod o blaned arall! Y profiad hwnnw oedd man cychwyn fy safbwyntiau gweriniaethol,” meddai.
“Ro’n i yn fy arddegau yn ystod yr 1980au, ac felly fe wnes i dyfu lan a dechrau dod yn ymwybodol yn wleidyddol yn ystod Streic y Glowyr, yr ymgyrch wrth-apartheid a chyfnod Comin Greenham. Yn y clwb ieuenctid, roedden ni’n trafod hawliau pobol hoyw a merched, yn ogystal â hawliau plant. Yn yr ysgol, roeddwn i’n ffodus i gael athrawon da. Dysgodd Mr Gammon, yr athro Hanes, lawer i ni am yr Ymerodraeth Brydeinig a thwf ffasgiaeth, a gwnaeth i ni feddwl yn ddwfn. Cafodd y rhain i gyd effaith ar fy natblygiad yn wleidyddol.”
Dywed ei bod yn cael ei hegni o fod gyda’r rhai mae’n agos atyn nhw, ac o fod ym myd natur.
“Rwy’ wrth fy modd yn cerdded, garddio, gwylio adar, bod mewn dŵr oer – a phaentio, fel mynegiant o hynny,” meddai.
Ond nid bod yn wleidydd oedd ei bwriad gwreiddiol yn ferch fach; yn hytrach, darllen y newyddion a “helpu’r rhai oedd heb lot o bŵer mewn cymdeithas” oedd hwnnw.
“Roedd [darllen y newyddion] yn ymddangos yn swydd ddiddorol fyddai’n bwydo fy nealltwriaeth o wleidyddiaeth a beth sy’n gwneud i’r byd droi. Yr yrfa ddewisais i cyn gwleidyddiaeth oedd gweithio fel swyddog prawf a gweithiwr cymorth i fenywod. Ers i fi fod yn ifanc, roeddwn i’n mo’yn helpu’r rhai oedd heb lot o bŵer ac oedd wedi wynebu anghyfiawnder, neu’r rhai oedd wedi gwneud camgymeriadau y gallen nhw ddysgu ohonyn nhw a’u goresgyn gyda chymorth.”
Sarhad a gwreig-gasineb
Un o’r brwydrau anoddaf mae hi wedi’u hwynebu yn fenyw mewn gwleidyddiaeth yw colli arweinyddiaeth Plaid Cymru, ac i hynny ddigwydd trwy her gan rywun oedd wedi bod yn “ffrind agos ac yn gynghreiriad gwleidyddol”.
“A doedd y Blaid ddim chwaith wedi profi colledion etholiadol neu’n wynebu sgandal. Fe gollais i ‘ngyrfa wleidyddol wedyn, a hynny wrth i’r menopos daro, ac fel roedd fy merch ar fin hedfan y nyth. Roedd e’n beth anodd iawn. Felly hefyd yr abuse ar sail dosbarth cymdeithasol a rhywedd rwy’ wastad wedi’i brofi ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond gwaeth na hynny, hyd yn oed, oedd trïo mynd i’r afael â misogyny, ymddygiad annerbyniol, bwlio a diffyg disgyblaeth, dim ond i gael fy mhortreadu fel yr un oedd yn hau ’dinistr’ a ‘rhaniadau’ – am i fi wneud hynny.
“Rwy’ wedi gwylio hyn yn digwydd i fenywod eraill hefyd. Yn anffodus, dyw cael ein beio fel menywod am alw ma’s ymddygiad gwael, gwahaniaethol neu niweidiol yn ddim byd newydd. Dyma, heb os, yw’r elfen fwya’ poenus o fywyd gwleidyddol i fi, oherwydd bod pethau yn gallu mynd yn bersonol ac yn hyll.
“Mae’n rhwystredig iawn pan fydd y ffin rhwng da a drwg yn cael ei gymylu gan sbin a gaslight-io, gyda hyn i gyd yn chwarae ma’s yn gyhoeddus yn aml iawn, sydd yn hau dryswch a diffyg ymddiriedaeth,” meddai.
Er mwyn cadw’n iach yn feddyliol yn wyneb heriau fel hyn, mae’n dweud ei bod yn ceisio ymgysylltu â phobol sy’n “egnïol, sy’n codi ysbryd, neu sy’n llawn positifrwydd”.
Pe gallai roi unrhyw gyngor i Leanne (y ferch fach), y cyngor hwnnw fyddai peidio â gadael i unrhyw un wneud i iddi deimlo bod ei dosbarth cymdeithasol neu gefndir rhywedd yn ei gwneud yn ‘llai’ mewn unrhyw ffordd, nac y dylai hynny ei dal yn ôl.
“Rydyn ni i gyd yn gyfartal, does neb yn israddol nac yn uwchraddol, a dyw’r crachach yn bendant ddim gwell na’r gweddill ohonom.”
Un freuddwyd a’r dyfodol
Pe bai’n cael gwireddu un freuddwyd, “dod â chyfalafiaeth i ben, a chael cydnabyddiaeth eang o’r angen am ewyllys a phenderfyniad i adeiladu system economaidd amgen sydd yn deg a chyfiawn” fyddai’r freuddwyd honno.
“System sy’n canolbwyntio ar anghenion pobol, ein lles ni a’r cymunedau rydyn ni’n byw ynddyn nhw, yn lle’r elwa, y trachwant a’r ecsbloetio a’r dinistr sy’n dod gyda’r ymdrechu parhaus am fwy fyth o elw a thwf.”
Un o’r pethau sy’n golygu popeth iddi mewn bywyd, meddai, yw bod yn fam.
“Rwy’n ffodus iawn i gael perthynas gref, glos gyda fy merch, Cerys. Rydyn ni’n debyg mewn sawl ffordd, ac yn agos iawn. Pan ddes i yn fam ugain mlynedd yn ôl, fe newidiodd hynny fy safbwynt ar fywyd yn llwyr, fel gyda cholli fy mam yn gynharach yn 2024. Rwy’n teimlo’n lwcus iawn o sylfaen y cysylltiadau cryf a dwfn oedd gen i gyda fy mam a fy mam-gu, sy’n golygu cymaint i fi nawr, gan nad yw’r ddwy gyda ni bellach.”
Er gwaethaf y cythrwfl iddi ei brofi ym myd gwleidyddiaeth, y peth anoddaf iddi ei oresgyn yn ei bywyd personol oedd marwolaeth ei chyn-bartner trwy hunanladdiad yn 2002.
“Sa i’n credu y bydda i byth yn dod dros hynny. Mae colli Ceri yn ein hatgoffa’n barhaus o freuder iechyd meddwl a pham mae’n rhaid i ni gymryd camau i ofalu amdano fe, ac am ein gilydd.”
Pe bai’n cael treulio un diwrnod gydag unrhyw un (yn fyw neu’n farw), gyda’r Athro ac awdur dylanwadol Raymond Williams o’r Pandy yn Sir Fynwy fyddai hynny.
“Byddwn wrth fy modd yn cael cyfarfod a thrafod gwleidyddiaeth, cymuned, bod yn Gymraes, sosialaeth, ecoleg a llawer o faterion eraill o ddiddordeb yng nghwmni Raymond Williams,” meddai.
“Byddwn i hefyd wrth fy modd yn cyfarfod ag Annie Powell, y cyn-gynghorydd comiwnyddol, a’r maer fu’n cynrychioli fy nhref enedigol, Penygraig. Ydw i’n cael cwrdd â dau? Hanner diwrnod yr un?! Neu gorau oll fyddai cael y tri ohonon ni rownd y ford yn ein tŷ ni yn bwyta cinio dydd Sul wedi’i goginio gan Ian, fy mhartner, gyda tharten o lus wedi’u casglu o’r mynydd i bwdin.”
Mae’n ddyneiddiwr ac yn credu y dylen ni i gyd “gymryd cyfrifoldeb ac asiantaeth dros ein gweithredoedd a thros y byd rydym yn byw ynddo”.
“Ein cyfrifoldeb ni yw e,” meddai. “Rwy’n ceisio byw fy mywyd yn ôl yr egwyddorion hyn, trwy gyfyngu fy ôl troed a chysylltu â natur; trwy fod yn ffrind da; yn gymydog ac yn aelod da o’r teulu, a thrwy gymryd camau a chyfrifoldeb am yr hyn sy’n mynd o’i le a’r hyn sy’n mynd yn iawn yn fy mywyd.
“Mae sosialaeth a dyneiddiaeth wedi’u cydblethu i fi.”