Enw: Anthony Caradog Evans

Dyddiad Geni: Mawrth 1988

Man Geni: Wrecsam


Adolygydd llyfrau ar gyfer Nation.Cymru yw Anthony Caradog Evans, fyddai’n disgrifio’i hun fel person gonest, annibynnol ond ystyfnig. Er gwaethaf byw gyda sawl anabledd corfforol, mae Anthony yn benderfynol o fyw ei fywyd gorau a chanolbwyntio ar y cadarnhaol a’r hyn y mae’n ei garu mewn bywyd.

Mae’n byw gyda nam ar y golwg, gwendid i lawr ochr dde ei gorff, a hydroseffalws (pan does dim modd i’r ymennydd reoli ei lefelau hylif yn naturiol). Y peth pwysicaf un i Anthony yn ei fywyd yw ei annibyniaeth, meddai, oherwydd nad yw’n gallu ei gymryd yn ganiataol.

Un o’i atgofion cyntaf yw pan ddaru ei fam ei dynnu allan o’r ysgol un prynhawn ar gyfer apwyntiad doctor.

“Dyma fi’n cyrraedd y car ac agor y drws i weld fy modryb Sioned yng nghefn y car hefo ci bach, Labrador lliw siocled. Yr anrheg pen-blwydd gorau erioed!”

Atgof arall ganddo yw pan wnaeth ei fam ei gadw o’r ysgol oherwydd ‘annwyd’ tua dwy flynedd wedyn.

“Y gwir, wrth gwrs, oedd fy mod i wrthi yn cofnodi amseroedd geni, pwysau ac ati, cŵn bach newydd anedig Fudge (y Labrador roeddwn wedi’i derbyn yn anrheg ddwy flynedd ynghynt) y diwrnod hwnnw. Fe ddysgais i ychwaneg o bethau adra y diwrnod hwnnw na fyswn i wedi dysgu yn yr ysgol!

“Fudge oedd fy ffrind gorau yn tyfu fyny, a finna hefo cyn lleied o hyder. Ar wahân i Mam, dw i’n meddwl wnes i siarad efo Fudge fwy na neb arall! Fe wnaeth ein cyfeillgarwch bara o’i chyfarfod gyntaf yn 1998 hyd ei marwolaeth o gancr yn 2011.”

Graddio

Er gwaethaf ei anableddau, un o’r cyflawniadau mae’n fwyaf prowd ohonyn nhw yw graddio o’r coleg.

“Ddim yn ddrwg o gwbwl o ystyried y farn gyffredinol ers talwm ei bod hi’n wast o amser i mi fynd i’r ysgol, heb sôn am coleg, a finnau’n anabl!” meddai.

Roedd Anthony yn gwybod fod ganddo nam ar y golwg ers yn ifanc iawn, ac mae’n cofio peidio bod eisiau gwisgo sbectol yn dair oed. Wrth iddo dyfu’n hŷn, mae barnu pellter (e.e. traffig os oes angen croesi’r ffordd) wedi bod yn heriol, a chanfod dyfnder (staer yn enwedig). Ond mae ei ffon wen yn ei helpu i daclo’r heriau hyn wrth iddo fynd ati i fyw ei fywyd o ddydd i ddydd. Un her arall, meddai, yw methu gyrru car ac, o ganlyniad, methu dod o hyd i waith.

“Mae cael nam fel hyn ar fy ngolwg yn cau ychwaneg o ddrysau na mae lot o bobol yn sylweddoli,” meddai.

Mae’r ymateb mae’n ei gael gan y cyhoedd yn amrywio, meddai.

“Mae rhai pobol ar yr un llaw sy’n meddwl fy mod i’n cogio bach bod hefo nam golwg (does gen i ddim clem pam!), ac eraill sydd yn rhy awyddus i helpu os rhywbeth, heb ofyn i mi cynt.”

Un o’r pethau sy’n cythruddo Anthony yw annhegwch.

“Unwaith mae rhywun yn ei brofi, mae’n amlwg fwyfwy o dy gwmpas. Fysa’n braf tasa’r byd yma’n decach i bob un ohonom,” meddai, cyn mynd yn ei flaen i sôn am gyfnod pan fu iddo ei brofi’n bersonol.

“Dw i’n cofio colli allan ar swydd yn dilyn cyfweliad oherwydd bod y panel wedi mynnu bod gyrru’n hanfodol, er fyswn i byth wedi trio amdani yn y lle cynta’ tasa hynny’n wir (roeddwn i wedi sbïo ar holl waith papur yr hysbyseb, a doedd yna ddim sôn am geir na gyrru yn unlle!). Yn y diwedd, yn syml iawn, doedd pwdu ddim yn mynd i dalu’r biliau, felly es i ati i drio am ychwaneg o swyddi yn syth ar ôl cyrraedd adra.”

Er bod Anthony wedi colli ei fam bellach, mae ganddo lawer o atgofion annwyl ohoni yn ei helpu a’i gefnogi gydag apwyntiadau ysbyty a llawdriniaethau, a hithau “yno bob cam o’r ffordd” wrth ei ymyl. Ers colli ei fam, mae wir yn gwerthfawrogi ei berthynas gyda’i berthnasau yn Harlech, meddai.

“Mae’n braf fy mod i yn gwybod eu bod nhw yno bob tro os dw i angen sgwrs neu air o gyngor.”

Tasa Anthony yn cael treulio diwrnod yng nghwmni unrhyw un – yn fyw neu’n farw – yng nghwmni ei fam fyddai hynny, meddai.

“Mi faswn i’n manteisio ar y cyfle i drafod popeth sydd wedi digwydd ers i ni weld ein gilydd ddiwethaf,” meddai. “O ran bwyd, dw i ddim yn siŵr be’ fasen ni’n fwyta. Mi faswn i’n gadael i mam wneud y dewis hwnnw, ar yr amod ei bod hi’n gadael i mi dalu’r bil!”