Mae Catrin Williams o Gaernarfon wedi bod yn hwylio er pan oedd hi’n ddeg oed, ac mae hi bellach yn rhan o Dîm Hwylio Prydain.

Yn ddiweddar, fe fu’r fyfyrwraig o Brifysgol Caerwysg yn treulio dros bythefnos ym Mrasil er mwyn cael hyfforddiant mewn barcud-syrffio [kitesurfing] ac i nodi cychwyn ei her o geisio cyrraedd Gemau Olympaidd 2032 yn Awstralia.

Dyddiau cynnar

Daeth y diddordeb mewn bordhwylio [windsurfing] wedi i Catrin gymryd rhan mewn sesiwn ragflas yng Nghanolfan Awyr Agored Plas Menai ger Caernarfon.

Er gwaethaf yr ychydig wybodaeth oedd ganddi am fordhwylio ar y cychwyn, fe ddaliodd hi’r grefft yn ddigon cyflym.

“Doedd gen i ddim syniad beth oedd [bordhwylio] ond mi wnes i joio gymaint, mi wnes i gario ymlaen a dechrau mynd i glwb lleol i’w wneud o bob wythnos,” meddai wrth golwg360.

“Ac erbyn hyn, tu allan i addysg, dw i’n ymarfer llawn amser.

“Mewn wythnos lle mae yna ddigon o wynt, mi fyddwn i’n gwneud tua phymtheg awr ar y dŵr, ryw chwe awr yn seiclo a rhyw dair awr yn y gym.

“Dw i’n rhan o Glwb Hwylio’r Felinheli, felly pan fydda i adra, yn fan’no fydda i’n ymarfer, neu yng Nghlwb Hwylio Pwllheli; mae’n dibynnu ar y gwynt a beth dw i eisiau allan o’r training.

Catrin ar y dŵr yn Weymouth

Tîm Hwylio Prydain

O fewn blwyddyn ar ôl ennill ei ras gyntaf yn ddeuddeg oed, aeth Catrin Williams yn ei blaen i gymryd rhan ym Mhencampwriaeth Bordhwylio Genedlaethol Prydain.

Arweiniodd hyn at ymuno â Thîm Hyfforddi Iau Cenedlaethol Prydain.

Wedi iddi droi’n 16 oed, dechreuodd hi ganolbwyntio ar fath newydd o fordhwylio, sef barcud-syrffio.

“O fan yna, mi es i’n syth i’r [tîm] seniors a chael go ar y cystadlaethau Ewropeaidd,” meddai.

“Dw i wastad wedi bod yn gwneud windsurfing yn wreiddiol, ond ers mis Hydref eleni dw i wedi newid i kitesurfing.

“Doeddwn i erioed wedi cyffwrdd mewn kite, erioed wedi gwneud dim byd [gyda’r gamp].”

“Felly dysgu sport cwbl newydd o’r newydd.”

Anelu at Gemau’r Olympaidd 2032

Roedd gweld ei chyd-syrffiwr Ellie Aldridge yn sicrhau’r fedal aur gyntaf i dîm Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Paris eleni yn dipyn o ysbrydoliaeth i Catrin Williams.

Mae hithau hefyd yn gobeithio cael y cyfle i gynrychioli Prydain yng Ngemau Olympaidd 2032 yn Awstralia.

Er mwyn mynd ati i ddatblygu ei dawn barcud-syrffio, treuliodd hi gyfnod o 16 diwrnod yn ymarfer draw ym Mrasil ddiwedd mis Tachwedd.

Catrin yn barcud-syrffio ym Mrasil

“Roedd gweld Ellie yn ennill wedi gwneud i mi sylweddoli ‘waw, dyma beth dw i eisiau ei wneud, dw i eisiau bod yn rhan o’r legacy yna’,” meddai.

“Mi ges i gyswllt ysgol Easy-Riders sydd yn gwneud kitesurfing a chysylltu â rhywun o’r enw Andy Gratwick a dweud, ‘Helo, fi ydi Catrin Williams, dw i’n rhan o dîm hwylio Prydain ac eisiau dechrau kitesurfio. Sut ydw i’n dysgu sut i wneud mewn cyn lleied o amser? Achos mewn ychydig o flynyddoedd, dw i eisiau mynd i’r Olympics’.”

“Dau ddiwrnod wedyn, mi wnaeth o ffonio fi yn ôl a dweud, ‘Ti angen dod allan i Frasil i ddysgu; gei di ddŵr cynnes, gwynt bob dydd [a’r cyfle] i ddatblygu.

“Felly, beth wnes i oedd bwcio’r flights allan i Frasil y noson yna, heb unrhyw wybodaeth arall.

“Mi aeth hi’n eithaf da, ond mi o’n i’n gofyn i fi fy hun pam fy mod i wedi dechrau rhywbeth fel yma yn hollol newydd o scratch.

“Os oeddwn i’n gwneud rhywbeth yn anghywir, roeddwn i’n gwybod hynny, mi roeddwn i’n cael fy nhaflu i mewn i’r dŵr.

“Ond pan oedd pethau’n mynd yn dda, mae’n mynd yn rili da.

“Mae o’r peth mwyaf frustrating ond satisfying dw i wedi’i wneud ers dw i’n gallu cofio.

“Dw i eisiau medal aur yn 2032.

“Mae yna rywbeth am roi dy hun allan yna, gosod gôl enfawr a jyst rhoi pob dim i fewn ynddo fo.

“I fi, mae’n gyfle i gynrychioli lot mwy na chael mynd yno i hwylio, mae’n cynrychioli pawb sydd wedi credu yn fy mreuddwyd i.

“Os ydw i’n gallu gwneud o, pam nad oes neb arall o ogledd Cymru neu o Gaernarfon yn gallu gwneud o?

“Mae o jyst yn dangos, os wyt ti’n rili rhoi bob dim sydd gen ti i fewn iddo fo, yna pam ddim?”