Mae Lee Waters, yr Aelod Llafur o’r Senedd dros Lanelli, yn dweud bod cychwyn podlediad newydd, Y Pumed Llawr – sy’n edrych ar weithrediadau mewnol Llywodraeth Cymru – wedi bod yn “hanner addysg a hanner therapi” iddo.
Bwriad y podlediad, meddai, ydi “tynnu’r gorchudd” oddi ar yr hyn sy’n digwydd ym Mharc Cathays, i roi mwy o syniad i bobol o ran sut mae sefydliad mwyaf pwerus y wlad yn cael ei weithredu.
Mae’n canolbwyntio ar chwe phrif beth sy’n wynebu gweinidogion sy’n gweithio i gyflwyno polisïau tra eu bod nhw’n rhan o’r Llywodraeth.
Llywodraeth Cymru; bocs du y cyfansoddiad
Dywed Lee Waters ei fod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru ei hun, a sut mae’n gweithredu, yn dipyn o “gyfrinach” i bawb, ac yn “focs du y cyfansoddiad”.
“Mae pobol yn ymwybodol ei fod e yna, ond heb syniad beth mae’n gwneud na sut mae e’n gwneud pethau,” meddai wrth golwg360.
Yn wreiddiol, y syniad ar gyfer y podlediad oedd y byddai Lee Waters yn cyfweld â gweinidogion, cyn-weinidogion, a chynghorwyr arbennig (SPADs), er mwyn creu cyfres o seminarau fel rhan o fodiwl yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru.
Y gobaith yw y bydd tanysgrifiadau yn cael eu cyhoeddi cyn y Nadolig.
Dywed nad oedd yna “ddim byd” i gyfeirio ato o ran deunyddiau darllen, ac felly ei fod e wedi dewis creu rhywbeth newydd sbon.
Yn ystod y gyfres, bydd dwsin o gyfranwyr, gan gynnwys y cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford ac Owain Lloyd, Cyfarwyddwr Addysg a’r Iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, sy’n awgrymu pa mor eang fydd y gyfres o bodlediadau.
“Paranoia” o fewn Llywodraeth Cymru
Dywed Lee Waters fod yna “baranoia” wedi bod o fewn rhai o adrannau Llywodraeth Cymru ynglŷn â pham ei fod yn bwriadu darlledu’r podlediad yn y lle cyntaf.
“Mae’n ddifyr pa mor gyfrinachol a faint o baranoia sydd yno, wir,” meddai.
“Felly, dw i’n ddiolchgar iawn i’r bobol wnaeth gymryd rhan, yn enwedig wrth ystyried y diwylliant yma o beidio siarad, sydd ychydig fel y mafia.”
Dywed ei fod wedi derbyn “arwyddion uniongyrchol” gan rai pobol o fewn Llywodraeth Cymru nad oedden nhw eisiau iddo gyhoeddi’r hyn sydd wedi’i recordio.
O ran y cyfranwyr, dywed Lee Waters fod ei wraig yn dweud bod gweinidogion wedi “swnio’n wahanol” yn ei bodlediad nag y maen nhw mewn darllediad ar deledu neu radio, ac mai “dyna’n union” roedd yn anelu ato.
“Oherwydd eu bod nhw’n siarad â chydweithiwr sydd wedi bod trwy’r un fath o beth, doedd yna ddim ymdeimlad ohonof fi’n trio’u dal nhw allan,” meddai.
‘Diffyg cefnogaeth i weinidogion’
Un o’r elfennau amlwg yn y bennod gyntaf yw’r pwysau a’r “trawma” sydd yn dod efo’r swydd.
Mae Lesley Griffiths, fu’n Weinidog Iechyd am 22 mis, yn sôn am golli pwysau corfforol o ganlyniad i’r swydd.
Bu’n rhaid i Lee Waters ei hun gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd y straen o fod yn Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
“O wneud y podlediad, mae e’n sicr yn 50% addysg, ac yn 50% therapi!” meddai Lee Waters.
“Oherwydd mae e i gyd yn ymwneud â cheisio gwneud synnwyr o bob dim dw i wedi byw drwyddo fe.
“Ac mae’r trawma, a’r trawma yma ar y cyd, yn un thema sydd yn dod drwodd yn glir drwy bob un o’r cyfweliadau yna.”
Ychwanega fod yna gwestiwn i’w ofyn nad oedd wedi’i gynnwys yn y podlediadau, sef faint o gefnogaeth mae gweinidogion yn ei chael tra eu bod nhw yn y swydd.
“Dw i ddim eisiau swnio’n hunanfodlon, ond yn y broses yma o therapi ac edrych yn ôl, a’r nifer o bethau roeddwn i’n gorfod ymladd drostyn nhw, mae e’n esbonio lot o’r rheswm pam wnes i ddiweddu i fyny yn teimlo’r ffordd roeddwn i.”
Ymddiswyddodd Lee Waters o fod yn Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gynharach eleni.
Dewisodd gael gwared ar ei gyfrif Twitter ar un y pryd, oherwydd nifer y “sylwadau maleisus” oedd yn cael eu gyrru ato yn dilyn cyhoeddi’r polisi 20m.y.a. – polisi roedd o’n gyfrifol am ei gyhoeddi.
‘Problemau diwylliannol’
Dywed Lee Waters mai ei fwriad efo’r podlediad yw “cychwyn sgwrs”, yn hytrach na dweud bod ganddo fo’r atebion i drwsio systemau llywodraethol Llywodraeth Cymru.
“Y gobaith yw y bydd e’n cychwyn ymwybyddiaeth ar y cyd fod yna broblem [o fewn Llywodraeth Cymru],” meddai.
“Oherwydd, mae gyda ni i gyd obsesiwn â chapasiti yn y Senedd, ond dydyn ni byth yn trafod yr un broblem o fewn Llywodraeth Cymru.”
Fel sydd am ddigwydd yn y Senedd cyn etholiadau 2026, mae diwygio’r Llywodraeth hefyd yn bosibilrwydd.
O 2026, bydd 96 Aelod o’r Senedd, i fyny o’r 60 presennol.
Daw hyn ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu, ac yn rhan o’r hen Gytundeb Cydweithio rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru.
Yn ôl Lee Waters, dydy hi ddim yn “gyfrinach” fod Llywodraeth Cymru’n fach.
Yn y podlediad, mae sôn fod gan Gyngor Caerdydd fwy o staff na Llywodraeth Cymru, er enghraifft.
“Rydyn ni i gyd yn gwybod pan ydych yn Gymro, ac ym mha bynnag sefydliad, fod rhaid i chi wneud mwy gyda llai o bobol gyfatebol yn gyffredinol ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai.
Dywed fod yna “broblem ddiwylliannol” hefyd o fewn Llywodraeth Cymru.
“Mae’r ffordd mae’r Gwasanaeth Sifil yn gweithio ac wedi ei drefnu yma yn ei gwneud hi’n anoddach i gyflawni pethau,” meddai.
Ychwanega fod “lefelau amhriodol o brosesau” a “diwylliant o osgoi risg”, sydd yn golygu bod “pobol yn defnyddio’u hegni yn ymladd yn erbyn eu system eu hunain”.
“Dydy e ddim mor du a gwyn â dweud ‘Mae angen mwy o bobol’,” meddai.
“Oherwydd os ydych yn rhoi mwy o bobol i mewn i system sydd ddim yn gweithio’n effeithiol, wel mae hynny’n wastraff adnoddau.”
Er nad cynnig atebion yw pwrpas y podlediad, dywed Lee Waters fod yna drafodaeth am y camau nesaf yn y bennod olynol.