Mae ymateb cymysg wedi bod i’r cynlluniau i sefydlu fferm wynt newydd rhwng Cwmllinau a Dinas Mawddwy erbyn 2026.
Dyma fyddai’r ugeinfed fferm wynt ym Mhowys, ac fe fyddai Parc Egni Esgair Ddu, sy’n dwyn enw’r mynydd cyfagos, yn cael ei leoli i’r gogledd o fferm wynt Cemaes.
Caiff y safle ei ddefnyddio fel tir pori ar hyn o bryd.
Cynllun y cwmni
GALILEO Empower yw’r cwmni sy’n datblygu’r cynnig hwn, ac maen nhw wedi disgrifio’r ardal fel un “wledig” sydd â “phoblogaeth wasgaredig”.
Serch hynny, nid yw’n un o’r ardaloedd sydd wedi’u pennu ar gyfer ynni gwynt gan Lywodraeth Cymru.
Byddai’r Parc Ynni yn cynnwys 13 tyrbin gwynt 230 metr o uchder, a phaneli solar ar y tir.
Y gobaith yw y bydd yn pweru 75,000 o dai ac yn cynhyrchu hyd at 91 megawat o bŵer, ac y bydd hyn yn gwrthbwyso 100,000 tunnell o allyriadau carbon deuocsid yn flynyddol.
Mae’r cynnig yn nodi y byddai’n pweru aneddiadau lleol yn gyntaf, gyda’r trydan yn mynd i Grid Cenedlaethol y Deyrnas Unedig.
Elw i’r gymuned
Mae GALILEO yn cynnig £5,000 i’r gronfa gymunedol am bob megawat o ynni gaiff ei gynhyrchu bob blwyddyn, sef tua £455,000 y flwyddyn.
Mae awgrym y byddai’n cynnig swyddi ac yn meithrin sgiliau gwyrdd hefyd.
Fe fu dau ymgynghoriad ym mis Tachwedd, yng Nghwmllinau ac yn Ninas Mawddwy.
Yn ôl Elwyn Vaughan, Cynghorydd Plaid Cymru ym Mhowys fu yn y cyfarfod yng Nghwmllinau, mae GALILEO wedi talu £23m eisoes i Scottish Power i gael eu cysylltu i’r Grid Cenedlaethol.
Dywed fod pawb yn “eithaf bodlon”, gan eu bod nhw wedi “hen arfer cael fferm wynt yn yr ardal yma”, ond fod yna rai pryderon hefyd.
“Prif bryder pobol ydi eu maint nhw,” meddai wrth golwg360.
“Mae’r rhain yn sylweddol dalach nag unrhyw beth arall sydd wedi bod o’r blaen, ac ymysg y talaf ym Mhrydain i gyd, felly bydd modd eu gweld nhw o gryn bellter.
“Bechod o’r mwyaf fod cwmnïau mawr Ewropeaidd yn gwneud elw sylweddol iawn ar gynlluniau fel hyn.
“Byddai’n llawer iawn gwell petai cwmni Cymreig neu gwmni sy’n eiddo’r Senedd yn gallu codi buddsoddiadau yn yr un modd, er mwyn i’r elw aros yma a chael ei ailfuddsoddi yn y pen draw.
“Yn gyffredinol, dw i’n gyfforddus efo melinau gwynt, ond yr her i’r ardal yma ac i Sir Drefaldwyn ydi bod gymaint o wahanol gynlluniau a chynigion ar hyn o bryd.”
Teimla mai “breuddwyd gwrach” yw llawer iawn o’r cynlluniau hyn, meddai, a bod cwmnïau yn “baglu ar draws ei gilydd” o ganlyniad.
‘Ar y ffens’
Aeth Sarah Williams, un o’r trigolion lleol, i’r cyfarfod fis Tachwedd hefyd.
Dywed ei bod hi mewn cyfyng-gyngor ynglŷn â’r sefyllfa.
“Ar un llaw, dw i eisiau gweld mwy o ynni cynaliadwy yn cael ei ddefnyddio er budd y blaned, ond ar y llaw arall mae’r tyrbinau yn anferth, ac ydi hi’n bosib cysylltu â’r grid drwy gysylltiad tanddaearol?” meddai wrth golwg360.
“Oes ffordd o wneud ymdrech yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd heb newid ein cefn gwlad mewn ffordd eithaf syfrdanol?
“Does gen i ddim problem gyda’u gweld nhw ar ein tirlun, achos dw i wedi tyfu fyny gyda nhw o fy nghwmpas, ac maen nhw wedi bod o fudd i ’nheulu a’r bobol o fewn y gymuned leol.
“Hefyd, pam fod llefydd gwledig fel hyn yn gorfod gwneud gymaint o ymdrech yn y frwydr i fyw yn wyrdd, tra bod Tsieina, yr Unol Daleithiau a gwledydd mawr y byd yn pwmpio nwyon tŷ gwydr i’r atmosffer ac yn defnyddio trydan fel mae’n mynd allan o ffasiwn?”
Melinau gwynt yn “hanfodol”
Cyn-fyfyriwr yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth yw Liam Rickard.
Mae o’r farn ei bod hi’n “bwysig i ddatblygu ynni adnewyddadwy o gwmpas y byd, ac i leihau llosgi olew, glo a nwy cyn gynted a phosib”, meddai wrth golwg360.
“Mae melinau gwynt a phaneli solar yn rhan hanfodol o’r trawsnewidiad i ynni cynaliadwy.
“Rydan ni’n defnyddio llawer o ynni yng Nghymru, fel gweddill gorllewin Ewrop, ac mae’n rhaid i’r ynni yna ddod o rywle, mewn gwirionedd.”
Mae’n credu ei fod yn safle da ar gyfer y math yma o dechnoleg, oherwydd y “tir gwastad” a “pha mor bell yw’r safle oddi wrth bobol”, meddai.
Ond dywed y byddai’n well ganddo pe bai “help i gymunedau adeiladu melinau gwynt a phaneli solar ein hunain, drwy ddatblygu cwmniau bach cymunedol ar draws Prydain, gyda buddsoddiad gan y llywodraeth”.
Y camau nesaf
Does dim cais cynllunio wedi’i gyflwyno hyd yn hyn.
Ond mae disgwyl i’r cais hwnnw gael ei gyflwyno i adran Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) maes o law.
Bydd y penderfyniad terfynol yng ngofal Llywodraeth Cymru, yn hytrach na Chyngor Sir Powys.