Mae’r bwrdd arholi cenedlaethol CBAC wedi comisiynu dau o feirdd mwyaf blaenllaw Cymru i greu dwy gerdd newydd ar gyfer y cwrs TGAU Cymraeg Craidd, fydd yn disodli’r hen dystysgrif Cymraeg Ail Iaith.
Bydd pwyslais yn y cwricwlwm newydd hwn ar destunau ac awduron sy’n adlewyrchu amrywiaeth y Gymru sydd ohoni.
Ynghlwm â’r paratoadau mae Nia Morais, Bardd Plant Cymru, ac Aneirin Karadog, enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 2016.
‘Potensial’
Mae’r bwrdd arholi wrthi’n dylunio’r cymhwyster TGAU Cymraeg Craidd at fis Medi nesaf.
Bydd yn cynnig blas ar lenyddiaeth Gymraeg i ddisgyblion mewn ysgolion Saesneg eu hiaith.
Mae CBAC yn gobeithio y bydd yn “galluogi dysgwyr i ddefnyddio’r iaith yn hyderus mewn amrywiaeth o ffyrdd, ac i ddod i werthfawrogi amrywiaeth eang o lenyddiaeth Gymraeg”, medden nhw.
Yn ôl Aneirin Karadog, bydd y newid hwn yn manteisio ar y “potensial i gynyddu’r gynulleidfa ar gyfer barddoniaeth” – rhywbeth sydd, o bosib, heb ei brofi o’r blaen.
“Am y tro cyntaf, bydd disgyblion sy’n brinnach eu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i gyd yn cael cyfle i astudio cerddi a rhyddiaith yn Gymraeg,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n wyrth, rywsut, bod y diddordeb mewn barddoniaeth Gymraeg wedi para hyd heddiw, nid yn unig o ran y rheiny sy’n cael eu denu i geisio barddoni yn Gymraeg – ac yna, rhai ohonyn nhw i ddysgu cynganeddu – ond hefyd o ran mwynhad a gwerthfawrogiad ymysg y boblogaeth sy’n medru’r iaith o farddoniaeth.”
Ond mae lle gan y gynulleidfa eang hon i ehangu o hyd ac, yn ôl Aneirin Karadog, “mae ceisio dal dychymyg disgyblion ysgol yn rhan allweddol o hynny”.
‘Gwerth’
Bydd cael gwared ar y cysyniad fod angen i ddisgyblion TGAU ddysgu Cymraeg Ail Iaith – hynny yw, Cymraeg fel iaith dramor – yn “gam cyffrous” ym marn Aneirin Karadog.
“Gobeithio y bydd yr astudio yn arwain at fwynhau llenyddiaeth Gymraeg, ac y gall hynny, yn ei dro, arwain at weld bod gwerth i’r iaith tu hwnt i ddysgu gramadeg neu frawddegau ar gyfer pasio arholiad, a bod yna fyd o bosibiliadau a drysau i’w hagor yn aros i’r sawl sydd eisiau gallu ymwneud â’r iaith mewn ffordd ddyfnach,” meddai.
Mae’r cymhwyster newydd yn ymateb i’r safbwynt nad oes gwerth i ddisgyblion fod yn dysgu Cymraeg yn hytrach nag iaith dramor sydd â nifer uwch o siaradwyr.
Awgrym Aneirin Karadog, sy’n ategu CBAC, ydy pwysleisio gwerth ddiwylliannol unigryw’r iaith, gaiff ei chrisialu gan y traddodiad barddol.
“Rhaid i ni, rywsut, gyfleu nad dim ond iaith ysgolion yw’r Gymraeg, a hefyd, taw nage dim ond rhywbeth sydd rhwng cloriau llyfrau mewn ysgolion yw barddoniaeth,” meddai.
“Mae gyda ni air unigryw yn Gymraeg na ellir ei gyfieithu yn hawdd, sef ‘barddoni’.
“Yn Saesneg, y cyfieithiad yw ‘to poeticise‘.
“Does neb yn poetiseisio yn Saesneg, ond rydyn ni yn barddoni yn Gymraeg.
“Mae’n golygu creu barddoniaeth, gwerthfawrogi a thrafod barddoniaeth, byw barddoniaeth…
“Mae’n air cyfoethog sy’n allwedd i mewn i un o draddodiadau llenyddol cyfoethocaf y byd o ran crefft, themâu, sylwedd a difyrrwch, sef y traddodiad barddol Cymraeg.”
‘Braint’
Mae’r gerdd ‘Gweld y Gorwel’, gafodd ei chyhoeddi yng nghyfrol gyntaf Aneirin, O Annwn i Geltia, yn 2012, wedi bod yn rhan o brif gwrs TGAU Llenyddiaeth Gymraeg CBAC ers sawl blwyddyn bellach.
Dywed y bardd ei bod hi’n “fraint enfawr” cael ei gynnwys ar hwnnw, “yn enwedig o wybod am y beirdd gwych eraill sy’n rhan o’r cwricwlwm”.
“Bu’n fraint bellach wedyn bod CBAC wedi dod ar fy ngofyn gyda chomisiwn am gerdd,” meddai.
Yn wahanol i ‘Gweld y Gorwel,’ gafodd ei chodi o’r gyfrol wreiddiol gan CBAC, cafodd y gerdd newydd ‘Y Daith’ ei chomisiynu yn arbennig ar gyfer y cwrs TGAU Craidd newydd.
“Fe fu modd i fi a swyddogion CBAC a chynllunwyr papurau arholiad a’r cwricwlwm gyd-drafod y math o elfennau sydd eu hangen ar y gerdd, o’r math o nodweddion iaith i’r mathau o themâu fydd yn cynnig digon o gyfle i athrawon a’u dysgwyr drafod y gerdd mewn dyfnder.
“Fe gododd sylwedd y gerdd o’r trafodaethau gyda CBAC, a dw i’n hynod o ddiolchgar am y cyfle i gael cyfrannu at y maes llafur newydd, arloesol a chyffrous sydd ar waith.
“Mae yma nodweddion crefft a themâu y cytunon ni i’w cynnwys, ac fe ges i hefyd benrhyddid i siapio cyfeiriad y gerdd, gan ei weld yn gyfle da i adrodd stori.
“Rwy’n gwybod pa mor ffodus ydyn ni yng Nghymru i dystio i waith dwsinau o feirdd eraill sydd mor ddawnus ac sy’n cyfrannu at ddiwylliant ein hiaith yn gyson.
“Rwy’n edmygwr mawr o waith cymaint o fy nghyd-feirdd, a gallai pob un ohonyn nhw hefyd fod wedi creu cerddi gwych ar gyfer y cwrs TGAU newydd.
“Gobeithio y bydd modd ehangu ar y maes llafur i gynnwys gweithiau newydd gan feirdd cyffrous eraill ein cenedl hefyd.”
‘Codi drych’
Mae ‘Y Daith’ yn adlewyrchu themâu fydd yn berthnasol i ddarllenwyr ifainc mewn ardaloedd di-Gymraeg.
Yn ôl Aneirin Karadog, mae’n bwysig ystyried bywyd a phrofiadau’r gynulleidfa wrth farddoni, er mwyn sicrhau y byddan nhw’n uniaethu â’r gerdd.
“Y gobaith yw y bydd y disgyblion sy’n astudio’r gerdd yn gweld llawer o’u hunain yn stori’r gerdd,” meddai.
“Rwy’n gobeithio ei bod hi’n berthnasol, gan hefyd gario themâu oesol.”
Mae’r gerdd yn “archwilio iaith, hunaniaeth a diwylliant, ochr yn ochr â stori garu LHDTC+”, meddai, gan ychwanegu iddo feddwl am ei gefndir ym Mhontypridd, “lle’r oedd llawer o ffrindiau o gartrefi di-Gymraeg oedd yn llawn ewyllys da at yr iaith, ond nad oedden nhw efallai’n teimlo’n hyderus yn ei meddiannu hi y tu hwnt i gyd-destun addysgiadol”.
“Mae digwyddiadau’r gerdd wedi’u lleoli mewn cyfnod diweddar iawn, sef Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.
“Gobeithiaf fod yno fodd o godi drych i wahanol ardaloedd yng Nghymru wrth astudio’r gerdd; bod yna hefyd sylweddoliad bod yr iaith yn gallu bodoli mewn sawl gofod, mewn cyd-destun modern, a’i bod hi’n gallu cael ei hawlio gan sawl cenhedlaeth.”
‘Eiddo i ni gyd’
Amcanion go bwysig sydd gan gerdd Aneirin Karadog a’r cwricwlwm newydd ehangach, felly.
“Mae’r iaith yn eiddo i ni gyd, boed yn ei medru hi yn rhugl neu beidio,” meddai.
“Fy ngobaith yw y bydd pawb sy’n darllen y gerdd yn deall hynny, o leiaf, ac yn gallu ymfalchïo yn eu cysylltiad nhw â’r iaith drwy’r ffaith eu bod nhw’n byw yng Nghymru.
“Os bydd canran wedyn yn mynd ymlaen i fod eisiau meistroli’r iaith i raddau pellach, a chanran arall yn cael awydd i greu llenyddiaeth trwy gyfrwng yr iaith, yna bydd yn wych gweld pobol yn pasio’r cerrig milltir hynny.”