Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cyhoeddi cynigion diwygiedig ar gyfer etholaethau Senedd newydd Cymru.

Daw hyn yn sgil cyfnod o ailgraffu, wedi i’r cynigion gwreiddiol ddod i’r amlwg ym mis Medi.

Roedd pryderon bryd hynny fod rhai o’r etholaethau arfaethedig yn rhy fawr neu’n rhy annhebyg, gan gynnwys un etholaeth fyddai’n uno Morfa Nefyn a’r Trallwng.

Ond ar wahân i newidiadau i’r ddwy etholaeth yng Nghaerdydd, dim ond enwau newydd sydd gan y cynigion diwygiedig, yn hytrach na ffiniau newydd.

System newydd

Bydd yr etholaethau newydd yn dod i rym yn awtomatig yn etholiadau’r Senedd yn 2026, a hynny yn rhan o gynllun hirfaith y Llywodraeth i gynyddu nifer Aelodau’r Senedd a diwygio’r system etholiadol, fel bod cyfran uwch o bleidleisiau’n cael eu cynrychioli.

Bydd yr 16 etholaeth newydd yn disodli’r 40 etholaeth a’r pum rhanbarth sydd gan y Senedd ar hyn o bryd.

Bydd chwe Aelod o’r Senedd yn cael eu hethol o bob un, gan ddefnyddio cynrychiolaeth gyfrannol, gaiff ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer rhestrau rhanbarthol y Senedd.

Dyma’r etholaethau arfaethedig:

  • Bangor Conwy Môn
  • Clwyd
  • Fflint Wrecsam
  • Gwynedd Maldwyn
  • Ceredigion Penfro
  • Sir Gâr
  • Gorllewin Abertawe Gŵyr
  • De Powys Tawe Nedd
  • Afan Ogwr Rhondda
  • Merthyr Cynon Taf
  • Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
  • Mynwy Torfaen
  • Casnewydd Islwyn
  • De-ddwyrain Caerdydd Penarth
  • Gogledd-orllewin Caerdydd
  • Pen-y-bont Bro Morgannwg

3,700 a mwy o ymatebion

Derbyniodd y Comisiwn dros 3,700 o ymatebion yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Cychwynnol.

Yn ôl y Comisiwn, roedd llawer o’r ymatebion ddaeth i law yn mynegi anghytundeb cyffredinol neu gytundeb â’r Cynigion Cychwynnol, a bu llawer yn trafod materion y tu allan i gwmpas yr arolwg.

Wrth geisio cyfiawnhau pam ddewison nhw’r ffiniau penodol hyn ar gyfer yr etholaethau newydd, dywed y Comisiwn Democratiaeth y bu’n rhaid iddyn nhw baru pob un o 32 etholaeth seneddol San Steffan yng Nghymru, gan sicrhau bod pob etholaeth yn ffinio â’r un etholaeth ag y mae wedi’i pharu â hi yno.

Maen nhw’n dweud ymhellach y caiff etholaethau eu diffinio fel rhai “cyffiniol” neu gymdogol os oes modd teithio drwyddi draw heb orfod gadael yr etholaeth.

Dyna pam nad oedd y Comisiwn yn ystyried Ynys Môn a Dwyfor Meirionnydd yn gynnig hyfyw, gan nad oes modd teithio o un i’r llall yn uniongyrchol heb orfod mynd i mewn i Fangor Aberconwy.

Bu’r Comisiwn hefyd yn ystyried cysylltiadau lleol, megis rhannu hanes, y Gymraeg, ac ystyriaethau economaidd-gymdeithasol mewn ymgais i gynnig etholaethau sy’n teimlo mor naturiol â phosibl i bobol ledled Cymru.

Maen nhw’n dweud y bu nifer o awgrymiadau’r cyhoedd yn gymorth wrth gyflawni’r dasg honno.

Cyfnod Ymgynghori Diwygiedig

Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi agor ymgynghoriad pedair wythnos i geisio barn pobol ledled Cymru ar y cynigion diwygiedig hyn.

Dywed y Comisiwn eu bod nhw’n awyddus i ddeall a oes cefnogaeth gyhoeddus i’r cynigion, neu a yw pobol yn teimlo y dylai eu hetholaeth seneddol gael ei pharu ag etholaeth wahanol i’r un sy’n cael ei chynnig.

Daw’r Cyfnod Ymgynghori Diwygiedig hwn i ben ar Ionawr 13, a bydd y Comisiwn yn cyhoeddi eu Hadroddiad ar Benderfyniadau Terfynol ddiwedd mis Mawrth.