Mae cynghorwyr gwrthbleidiau Powys yn ymbil ar Jane Dodds, un o Aelodau rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru o’r Senedd, i beidio â chefnogi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru oni bai bod mwy o gyllid yn cael ei ddyrannu i gyngor Powys.

Mae’r Cynghorwyr Beverley Baynham ac Ange Williams, cyd-arweinwyr Grŵp Annibynnol Powys, wedi ysgrifennu at arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a James Gibson-Watt, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar y Cyngor Sir, er mwyn mynegi eu dicter am y cynnig cyllido.

‘Annerbyniol’

Ddydd Mercher diwethaf (Rhagfyr 11), fe ddarganfu Cyngor Sir Powys eu bod nhw am dderbyn codiad o 2.3% yn unig mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025-2026, sy’n cyfateb i £7.7m yn unig.

Mae hyn yn is na chymedr y codiadau mewn awdurdodau lleol eraill, sef 3.2%, ac mae’n golygu mai Powys sy’n rhif 21 o ran cyfradd y codiadau o blith 22 awdurdod lleol Cymru.

“Mae’n siŵr eich bod chi’n teimlo’n rhwystredig, yn siomedig ac yn grac, fel yr ydym ninnau, wedi cyhoeddi’r setliad gan Lywodraeth Cymru’r wythnos hon,” meddai’r cynghorwyr.

“Unwaith yn rhagor, mae trigolion Powys ar waelod y domen, ac yn derbyn cynnydd o 3.2% yn unig, yr ail isaf yng Nghymru.

“Mae hynny’n annerbyniol i’n grŵp ni ac i bobol Powys.”

‘Gwneud y peth cywir’

Mae’r ddwy yn cydnabod fod angen un bleidlais yn ychwanegol ar weinyddiaeth Lafur Bae Caerdydd er mwyn medru cael cymeradwyaeth i’w Cyllideb gan y Senedd.

Mae hyn yn golygu bod pleidlais Jane Dodds, yr unig Aelod sy’n cynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn hollbwysig.

Mae hi’n cydweithio â’r Llywodraeth Lafur yn gyson.

Mae’r ddwy wedi dweud wrth Jane Dodds fod ganddi “gyfle i wneud y peth cywir a sefyll o blaid y bobol wledig” mae hi’n eu cynrychioli, a “gwrthod y setliad annerbyniol hwn”.

Maen nhw’n awyddus iddi addo y bydd hi’n pleidleisio yn erbyn Cyllideb arfaethedig y Llywodraeth.

‘Lobïo’n benodol’

Fe ofynnon nhw hefyd am ymatebion i sawl pwynt gwahanol gan y Cynghorydd James Gibson-Watt, gan gynnwys a oedd cabinet y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Lafur ym Mhowys wedi cyfarfod â Llywodraeth Cymru er mwyn “lobïo’n benodol” o blaid setliad tecach i Bowys.

Maen nhw’n gofyn fod y Cynghorydd James Gibson-Watt yn “rhoi pwysau” ar Jane Dodds i beidio â chymeradwyo’r Gyllideb, a defnyddio’r “cyfle” hwn er mwyn cael rhagor o gyllid ym Mhowys.

Maen nhw hefyd yn gofyn fod y Cynghorydd James Gibson-Watt yn collfarnu’r setliadau uchaf yng Nghymru, sydd wedi gwobrwyo rhagor o gyllid i Gaerdydd a Chasnewydd.

“Fyddech chi’n cytuno fod setliadau 5.6% a 5.3% Casnewydd a Chaerdydd yn adlewyrchu unwaith yn rhagor diffyg dealltwriaeth o gefn gwlad Cymru gan y Llywodraeth Lafur?” gofynnodd y ddwy.

‘Penderfyniadau anodd’

Mae briff cyllid Cyngor Powys yn nwylo’r Blaid Lafur, partner lleiafrifol y weinyddiaeth sydd wedi’i harwain gan y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Er ein bod ni wedi gweld cynnydd yn setliadau’r awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru, y gwir ydy bod diffyg yn ein cyllid o hyd sydd angen ei ddatrys er mwyn sicrhau’n bod ni’n cynnig cyllideb gytbwys,” meddai’r Cynghorydd David Thomas, sydd â chyfrifoldeb dros Gyllid, wrth ymateb i’r Gyllideb Ddrafft.

“Mae’r Cyngor yn wynebu penderfyniadau anodd wrth i ni geisio cyflenwi cyllideb gytbwys, fydd o bosib yn golygu newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau’r Cyngor yn ogystal â chynnydd y dreth gyngor.”

Mae cais wedi’i anfon at y Cynghorydd James Gibson-Watt a Jane Dodds am ymateb.