Dyma eitem sy’n edrych ar rai o hoff lefydd darllenwyr Golwg360. Mae’r eitemau wedi cael eu sgwennu gan ddysgwyr Cymraeg. Y tro yma, Lesley Idoine sy’n dweud pam ei bod yn hoffi Cei Newydd yng Ngheredigion.

Mae Lesley yn dod o Lerpwl yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Swydd Amwythig.


Cei Newydd ydy fy hoff le yng Nghymru. Yn yr haf, mae’n lle prysur iawn, ond mae’r dre yn dlws iawn, efo’r tai lliwgar ar hyd y strydoedd.

Y tai lliwgar yng Nghei Newydd

Mae’n bosib gweld dolffiniaid, hyd yn oed morfilod, o’r cei ei hun, ond weithiau dach chi angen ysbienddrych i’w gweld nhw’n dda. Mae’n gyffrous iawn i weld dolffin ifanc efo’i fam yn agos at y cei.

Dolffin ifanc gyda’i fam yng Nghei Newydd

Yn ddiweddar, dan ni wedi bod yn mynd yno bob haf, efo fy ngŵr neu fy nheulu cyfan. Yn ffodus, mae gynnon ni garafán fach, felly dan ni’n medru mynd unrhyw bryd.

Dach chi’n medru gwrando ar gerddoriaeth organ yng Nghapel y Tabernacl ddydd Iau a ddydd Sadwrn am 11 o’r gloch. Mae’n wych!