Mae’r newidiadau a fu yng ngwleidyddiaeth Cymru yn 2024 “yn dangos pa mor gyflym mae’r olwyn wleidyddol yn troi”, meddai Carwyn Jones wrth edrych yn ôl dros y flwyddyn a fu.

Does dim dwywaith y bu’n flwyddyn hynod ddiddorol yn y Senedd ym Mae Caerdydd, a ninnau wedi cael tri Phrif Weinidog, gyda Mark Drakeford yn gadael ym mis Mawrth i ddechrau.

Wedyn daeth amser anesmwyth i Lafur a Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Vaughan Gething, gafodd ei orfodi i ymddiswyddo yn y pen draw.

Ryw bedwar mis ers ethol Gething, daeth Eluned Morgan i’r brig yn ail ras arweinyddol y flwyddyn, ar ôl i’w rhagflaenydd ymddiswyddo o ganlyniad i bwysau gwleidyddol yn dilyn ei benderfyniad i dderbyn rhoddion ariannol gan droseddwr amgylcheddol.

“Mae’n dangos pa mor gyflym mae’r olwyn wleidyddol yn troi,” meddai Carwyn Jones, cyn-Brif Weinidog Cymru wrth golwg360.

Uno’r blaid

Un o dasgau cyntaf Eluned Morgan yn Brif Weinidog ddechrau mis Awst oedd uno’r blaid unwaith eto.

Daeth y newyddion am benodiad Huw Irranca-Davies yn Ddirprwy Brif Weinidog, ac ailbenodi rhai o aelodau cabinet Vaughan Gething oedd wedi ymddiswyddo gynt, megis Jeremy Miles.

Dywed Carwyn Jones ei fod yn synnu ar pa mor gyflym lwyddodd Eluned Morgan i ddod â’r blaid yn ôl at ei gilydd.

“Tasai rhywun wedi dweud wrtha i fod Eluned yn gallu uno’r Grŵp Lafur mor gyflym ag y gwnaeth hi, wel, fyddwn i ddim wedi credu hwnna ganol y flwyddyn,” meddai.

“Ond mae hi wedi gwneud hynny, ac mae hynny’n dangos y sgiliau gwleidyddol sydd gyda hi.”

Her etholiad 2026

Yn ôl Carwyn Jones, yr her rŵan yw perswadio pleidleiswyr mai Llafur Cymru yw’r blaid orau i arwain y wlad, a hynny ar ôl chwarter canrif mewn grym.

“Mae’n mynd yn anoddach ac yn anoddach i ennill etholiad y mwyaf o amser mae Llafur mewn grym,” meddai.

“Mae’n rhaid i’r blaid ymladd yn gryfach eto, a dangos bod y Grŵp yn parhau i fod yn ffres.”

Dywed fod yr her bresennol yn debyg i’r un wynebodd o pan oedd yn Brif Weinidog yn etholiadau 2011 a 2016.

“Roedd rhaid i ni ddangos bo ni ddim allan o stêm, a bod gennym ni syniadau ffres,” meddai.

Ond ychwanega ei fod yn “hyderus” y gall Eluned Morgan wneud yr wnaeth o ddwywaith yn ystod ei gyfnod yn Brif Weinidog, sef ennill y nifer fwyaf o seddi yn etholiad Senedd 2026.