Cafodd darlledu Cymraeg glec arall efo’r cyhoeddiad bod gorsafoedd radio Capital Cymru i ddŵad a’u rhaglenni yn yr iaith i ben ar Chwefror 24. Ond tybed os mai codi pais ar ôl piso ydy’r holl gwyno fu am benderfyniad arall am Gymru gafodd ei wneud yn Lloegr?

Mae’n wir dweud mai ein darlledwyr bellach sy’n gosod y safon am be’ sy’n dderbyniol o ran yr iaith. Ers stalwm, pregethwyr ac, i raddau llai, pobol papurau newydd ac awduron oedd yn gosod rhyw nod o beth oedd yn cael ei ystyried yn Gymraeg safonol. Nid fod pawb ar y stryd ac yn y caeau yn cyrraedd y nod, o bell ffordd, ond roedd ganddyn nhw syniad o beth i anelu amdano pan oedd rhaid. Mae pobol hyd heddiw yn gallu siarad rhywfaint yn gywirach os cân nhw feicroffôn wedi’i wthio o dan eu trwynau.

Daeth dyddiau pregethwyr, papurau newydd ac awduron fel ffon fesur i ben, gan adael ein darlledwyr yn y bwlch. Duw â helpo’r iaith. Oes, wrth gwrs fod yna ddarlledwyr gwych ar Radio Cymru ac S4C sy’n defnyddio Cymraeg cywir, ond hawdd ei ddeall y byddai’r enwog Mrs Jôs Llanrug yn gyffyrddus ag o. Ond am bob un o’r rheiny, mae gynnoch chi un arall sy’n siarad sgrwtsh, yn llawn geiriau ac ymadroddion Saesneg. Dadl arall, ond un berthnasol, ydy gofyn a oes raid iddyn nhw, ac S4C yn arbennig, gynnwys talpiau helaeth o Saesneg ym mron iawn pob rhaglen pan maen nhw’n derbyn miliynau o bwrs y wladwriaeth i greu rhaglenni Cymraeg.

Ond i droi’n ôl at yr iaith rwtsh. Mae’n amhosib troi at raglen heb glywed rhyw gyfeiriad at exciting, buckle up, as if, really, tunes, amazing, slide-io, drift-io, I don’t believe it, wrap it up, shut it. Do, dw i wedi clywed y rheina i gyd yn ddiweddar. “Ond fel’na mae pobol yn siarad ar y stryd” ydy dadl y darlledwyr sy’n siarad sgrwtsh ac, yn waeth byth, eu cynhyrchwyr. Lol. Os na fedr darlledwr proffesiynol, sy’n cael cyflog digon hael am wneud hynny, siarad yn glir a safonol, yna mi ddylen nhw chwilio am swydd arall.

Ni fydd y rhan fwyaf o’r bobol wrth y bar neu’n y siop, wrth reswm, yn siarad mor gywir â’r rheiny sy’n gosod y safon mewn unrhyw iaith na gwlad. Nid dyna’r ddadl: Does neb am glywed iaith fel un William Morgan yn adrodd ei bader ar ein rhaglenni. Ond os daw llond ceg o sgrwtsh yn frith o Saesneg i gael ei dderbyn fel Cymraeg safonol, yna be’ ar y ddaear fyddwn ni’n ei glywed ar y stryd? Ac a fyddai’r ffasiwn beth werth ei achub? Pwy fysa’n rhoi taten am filiwn o siaradwyr sgrwtsh?

Pan aeth Edward Llwyd i Gernyw yn 1700 i asesu sefyllfa’r iaith yno, nododd bod nifer fawr o eiriau brodorol wedi colli eu lle i rai Saesneg. Roedd convedhes wedi troi yn understandya, perthi kov yn remembra, gorfenna yn fynyshya, crena yn shakya, golusek yn rych.

Ond dewch o ’na, dewch ’laen, come on, ydy hi’n wirioneddol bwysig bod pobol yn excite-io yn hytrach na gwirioni neu ddwlu? Wel, ydi. Yn fuan iawn wedi ymweliad Edward Llwyd, roedd y Gernyweg i bob pwrpas wedi marw. Dyna sy’n digwydd i iaith lle daw pobol i gredu nad ydy hi’n bosib ei siarad heb ddefnyddio iaith arall fel bagl.

Bellach, mae bron y cyfan o ddarlledu proffesiynol Cymraeg yn cael ei ariannu gan y BBC drwy bres y drwydded. Os daw’r dde eithafol o dan arweiniad Farage neu Badenoch fyth yn ôl i rym, ni fydd llawer o obaith i’r BBC nac unrhyw ddarlledwr cyhoeddus arall ddal ei dir. Gan mai unffurfiaeth Seisnig fysa’r nod, gallwch fentro na fasai yna lawer o golli dagrau ymysg y Torïaid/Reform at farwolaeth y byd darlledu Cymraeg. Ac mae hwnnw’n prysur dyllu ei fedd ei hun drwy gynnwys mwy a mwy o Saesneg ac iaith rwtsh yn ei raglenni.