Mae cynrychioli anghenion dysgu ychwanegol ar y sgrin fach yn “hollbwysig”, yn ôl athro fu’n siarad â golwg360 am raglen deledu newydd S4C.

Bythefnos yn ôl, dechreuodd S4C ddarlledu’r rhaglen newydd i blant, Help Llaw.

Mae’r rhaglen yn cynnwys pobol ifanc o bob rhan o Gymru sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.

Seren y gyfres ydy Leon Fletcher, bachgen deuddeg oed o Gaernarfon sy’n byw ag awtistiaeth ac sy’n defnyddio system gyfathrebu Makaton.

Mae Makaton yn system sydd wedi’i dylunio’n arbennig i hwyluso gallu pobol ag anghenion ychwanegol i gyfathrebu.

‘Cynnig ffordd gwbl wahanol’

Wrth siarad â golwg360, dywed Meilyr Wyn, athro’r celfyddydau mynegiannol yn Ysgol Hafod Lon ym Mhenrhyndeudraeth ers pymtheg mlynedd, fod y dulliau amgen hyn o gyfathrebu yn medru gwneud gwahaniaeth mawr i’r plant.

Dywed ei fod yn “defnyddio cerddoriaeth i ysgogi cyfathrebu yn ogystal ag er lles emosiynol y disgyblion”.

Dan ei arweiniad, mae Ysgol Hafod Lon wedi ennill y gystadleuaeth Grŵp Cerddoriaeth Greadigol yn Eisteddfod yr Urdd bum gwaith.

“Mae Makaton yn cynnig ffordd gwbl wahanol i gyfathrebu i’n disgyblion yn Hafod Lon,” meddai.

“Mae’n rhoi cefnogaeth ychwanegol i iaith lafar fel canllaw ar risiau ieithyddol.

“Mae’n rhoi dewis i unigolion i gyfathrebu mewn ffordd fwy gweledol os ydyn nhw yn dymuno, ac yn ffordd i ddatblygu iaith lafar drwy lenwi’r bylchau lle bo angen hynny.

“Ac yn bwysig iawn, mae dysgu’r arwyddion yn weithgaredd hwyliog sy’n gweddu’n berffaith efo cyfansoddi a chanu caneuon.”

‘Addysgu’

“Mae cynrychioli plant ac anghenion ychwanegol yn hollbwysig ym mhob ffordd,” meddai Meilyr Wyn wrth drafod pwysigrwydd rhaglenni teledu fel Help Llaw.

Mae targedu cynulleidfa ehangach na phlant ag anghenion ychwanegol yn unig yn cynnig budd sylweddol hefyd, meddai.

“Mae rhaglenni teledu sy’n addysgu’r cyhoedd am gyflyrau unigolion a sut i gynnig cymorth yn bwysig iawn hefyd, wrth reswm.

“Yr help mwyaf mae rhaglen o’r fath yn ei gynnig ydi i ddisodli unrhyw gamddealltwriaeth all fod ym meddwl y cyhoedd am blant ac oedolion ag anghenion ychwanegol.”

Mae cyfres 26 phennod Help Llaw yn cael ei darlledu ar Cyw, sef platfform plant S4C, am 7.45yb bob dydd Llun a dydd Gwener.

Mae hefyd ar gael ar S4C Clic, BBC iPlayer a llwyfannau ffrydio eraill.

Cyfathrebu drwy Makaton am y tro cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd

Bydd Ceri Bostock a Sian Willigton yn cyfieithu i’r Makaton yn ystod pob perfformiad yn y cystadlaethau Côr Cynradd Blynyddoedd 6 ac iau

Côr arwyddo o Wynedd yn mynd o nerth i nerth

Lowri Larsen

“Y weledigaeth ydy bod yna fwy a fwy yn defnyddio Makaton a bod o’n agor byd i bawb sy’n ei defnyddio,” medd un o arweinwyr côr Lleisiau Llawen