Mae Cylch yr Iaith yn galw ar Gyngor Gwynedd ac awdurdodau lleol eraill i fabwysiadu polisi ‘Dim Rhagor’ mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd cynllunio ar gyfer tai gwyliau.

Daw hyn yn dilyn cais diweddar gan ddatblygwyr o Loegr i droi pum uned breswyl yn llety gwyliau yn Compton House yn Llanberis.

Mae’r Cylch wedi gwrthwynebu, gan dynnu sylw at ystadegau iaith Llanberis o gyfrifiadau 1991 i 2021.

“Er nad yw canrannau ail gartrefi a lletyau gwyliau Llanberis yn gyfuwch, ar hyn o bryd, â rhai ardaloedd eraill yng Ngwynedd, mae’n ardal sy’n dod tan bwysau cynyddol o du gordwristiaeth, ac mae hynny’n cyfrannu at ddirywiad cymunedol,” meddai Howard Huws, llefarydd ar ran Cylch yr Iaith.

Dirywiad y Gymraeg

Caiff hynny ei adlewyrchu yng ngostyngiad parhaus y canran siaradwyr Cymraeg rhwng 2001 a 2021, medd y grŵp.

“Rhwng 2001 a 2021 gostyngodd canran y siaradwyr Cymraeg o 80.8% i 69.5%,” meddai wedyn.

“Bu’r diboblogi mewn niferoedd siaradwyr Cymraeg dros unarddeg gwaith maint y gostyngiad yn y boblogaeth gyfan yn ystod y cyfnod hwn, gyda’r rhan fwyaf o’r newid hwn i’w weld yn y degawd diweddaraf.

“Petai’r gostyngiadau niferoedd a welwyd rhwng 2011 a 2021 yn cael eu hailadrodd yn y cyfnod rhwng 2021 a 2031, byddai nifer siaradwyr Cymraeg Llanberis fel canran o’r boblogaeth gyfan yn gostwng i oddeutu 45%. Llai na hanner.

“Mae rhai yn dal i feddwl nad yw dim wedi newid yno ers y 70au, a bod y Gymraeg yn ddiogel yn “hen bentref bach Llanbêr”.

“Mae’n bryd deffro i’r ffaith fod y lle yn gwegian tan bwysau gordwristiaeth, a bod cynnydd ail gatrefi a lletyau gwyliau yn gyrru pobol leol allan o’u cynefin yno fel yn ardaloedd twristaidd eraill.

“Mae Cyngor Gwynedd yn chwarae â’r syniad o osod trothwy o 15% o’r stoc dai ar dai gwyliau ac ail gartrefi yng nghymunedau’r sir: un o bob saith annedd.

“Ni fyddai hynny ond yn gyrru datblygwyr a phrynwyr i feddiannu tai yn y cymunedau cyfagos sydd heb gyrraedd y trothwy hwnnw eto, ac felly o gymuned i gymuned.

“Mae darpar-ddatblygwyr Compton House yn crybwyll y trothwy hwnnw’n benodol yn eu cais.

“Pe caniateid hyn, buan iawn y dilynid nhw yn Llanberis a phob cymuned arall gan ddatblygwyr eraill.

“Nid trothwy sydd ei eisiau, ond atal y twf drwy’r sir ar sail gorddarpariaeth – “Dim rhagor yng Ngwynedd”.

“Galwn ar Gyngor Gwynedd i wrthod y cais hwn yn Llanberis, ac i fabwysiadu a gweithredu polisi o atal unrhyw gynnydd yn nhai gwyliau ac ail gartrefi ledled y sir, a gweithio tuag at ostwng y canrannau.

“Mae hyn yn anhepgor ar gyfer diogelu’r stoc dai ar gyfer pobol leol.

“Mae’n fater o fywyd neu farwolaeth cymunedau a’u treftadaeth.

“Hebddynt, nid oes nac iaith na diwylliant na chenedl.”

Ymateb Cyngor Gwynedd

“Gallwn gadarnhau fod cais i newid defnydd 5 fflat preswyl (C3) i 5 uned llety gwyliau tymor byr (C6) wedi ei gyflwyno ar eiddo yn Llanberis,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.

“Mae’r cais yn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus a bydd y mater yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Cynllunio ar ôl i’r cyfnod ymgynghori dod i ben.

“Mi fydd yr adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno gerbron y pwyllgor yn rhoi ystyriaeth i’r holl sylwadau cynllunio sydd wedi eu derbyn yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus, ac yn asesu’r holl ystyriaethau cynllunio perthnasol yng nghyd destun y polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol wrth ddod i argymhelliad ar y cais.”