Dyma eitem sy’n edrych ar rai o hoff lefydd darllenwyr Golwg360. Mae’r eitemau wedi cael eu sgwennu gan ddysgwyr Cymraeg. Y tro yma, Pawlie Bryant sy’n dweud pam ei fod yn hoffi Castell Carreg Cennen yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd Pawlie ei eni yn Efrog Newydd, ond ei fagu yn Swyddi Bucks a Hertford yn Lloegr. Nawr, mae’n byw yn Santa Barbara, Califfornia. Mae’n ymweld â Chymru am fis bob blwyddyn, sy’n gadael digon o amser iddo deithio o amgylch y wlad. Mae Pawlie wedi bod yn dysgu Cymraeg drwy Brifysgol Caerdydd ers 2022.
Hyd yn hyn, fy hoff le yng Nghymru yw Castell Carreg Cennen yn Sir Gâr. Cafodd y castell ei adeiladu gan Rhys ap Gruffydd yn y 12fed ganrif a’i ail-adeiladu yn y 13eg ganrif o dan Edward I, cyn i Owain Glyndŵr ymosod arno yn 1403. Er bod y castell wedi bod mewn perchnogaeth breifat ers y 1960au, heddiw mae’n cael ei gyd-reoli gan Cadw.
Mae Castell Carreg Cennen yn cael ei adnabod fel “y castell mwyaf rhamantus yng Nghymru” – ac mae’n hawdd deall pam ar ôl i chi ymweld â’r lle. Mae’n sefyll 300 troedfedd uwchben Afon Cennen ar ben pellaf Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gyda golygfeydd ar draws Sir Gâr.
Pan gyrhaeddais i ben y bryn am y tro cyntaf, gwelais dirlun harddwych gyda bryniau tonnog a chaeau gwyrdd yn ymestyn i’r gorwel ym mhob cyfeiriad – mor, mor wyrdd! Sefais yno yn y gwynt gyda gwên fawr ar fy wyneb. Cwympais i mewn cariad â’r castell a Sir Gâr yn syth bin. Roedd rhywbeth am y tirlun, y lliwiau, a’r ffordd o fyw araf. Baswn i wrth fy modd yn byw yn Sir Gâr rhyw ddydd. Cawn ni weld!
Ymwelais â Charreg Cennen yn 2023 a 2024, a dw i’n bwriadu dychwelyd yn 2025. Er mwyn profi cymaint â phosib yng Nghymru, dw i’n trio osgoi ail-ymweld â lleoedd yn rhy aml, ond bydda i wastad yn gwneud eithriad i Gastell Carreg Cennen! Mae’r teimlad yno yn… wel, eithriadol! Fel canodd Gildas yn ei gân Carreg Cennen (o’i albwm anhygoel Sgwennu Stori): “Mor gadarn, mor brydferth – y cerrig ar y bryn…”
Yn ystod fy ymweliad cyntaf, wnes i ddarganfod twnnel oedd yn arwain at risiau… oedd yn arwain at ogof… oedd yn arwain at… unman. Roedd jyst yn stopio o dan y ddaear! Dyw haneswyr ddim yn siŵr beth yn union oedd pwrpas y twnnel. Ar gyfer cuddio rhag gelynion? Neu ddianc heb i unrhyw un weld? Efallai bod y twnnel wedi cael ei gychwyn gan Rhys ap Gruffydd amser maith yn ôl, ond erioed wedi ei orffen? Am wn i fyddwn ni byth yn gwybod.
Sy’n gwneud i mi ddwlu ar y castell hyd yn oed yn fwy!
Oes gynnoch chi hoff le yng Nghymru? Beth am ysgrifennu at bethanlloyd@golwg.cymru