Dyma gyfres sy’n agor y drws ar rai o gaffis Cymru sydd, yn aml, yn ganolbwynt y gymuned. Byddwn ni’n siarad efo’r perchnogion am y bwyd, y coffi, y cwsmeriaid, yr heriau a’r troeon trwstan – bydd digon ar y fwydlen i gnoi cil drosto. Yr wythnos hon, Catrin Parry Jones, cydberchennog caffi Crwst yn Aberteifi gydag Osian Wyn Jones, sy’n cael sgwrs dros baned efo golwg360…


Naethon ni agor Crwst yn 2018. Roedd Osian yn gogydd ac wedi bod yn y diwydiant am rai blynyddoedd cyn i ni ddechrau’r fenter. Roedd hefyd yn bobydd cartref angerddol yn perffeithio ei rysáit surdoes o gartref. Roedd bach o brofiad gyda fi ar ôl gweithio yn y diwydiant rhan amser yn fy arddegau.

Osian Wyn Jones, cydberchennog caffi Crwst yn Aberteifi, yn y gegin

Rydyn ni’n gwneud prydau brunch oherwydd ry’n ni’n caru bwyd brecwast! A hefyd yn teimlo bod cwsmeriaid yn caru hyn hefyd. Mae wedi helpu i gael ychydig o niche fel bod cwsmeriaid yn gwybod beth maen nhw’n gael pan ma nhw’n dod mewn.

Y donyts enwog yn Crwst – y pethau mwya’ poblogaidd ar y fwydlen ydy’r donyts a’r Cinnamon Swirls

Y pethau mwya’ poblogaidd ydy’r donyts. Ges i sioc un diwrnod i weld Dawn French yn ordro Lemon Meringue doughnut wrth y cownter! Mae’r cinnamon swirls hefyd yn boblogaidd y dyddie ma. O ran y prydau brunch, mae’r clasur ‘Brecwast Cymreig Llawn’ yn boblogaidd iawn, a hefyd mae’r pancake stacks yn hedfan mas i bobl sydd gyda bach mwy o ddant melys. Mae’n cwsmeriaid ni’n bobl o bob oedran. Ni’n lwcus iawn bod pawb yn hoffi dod i joio brunch yn Crwst.

Gaethon ni mention mewn erthygl gan La Liste [sy’n rhestru’r bwytai gorau yn y byd] fel un o’r bakeries gorau yn y byd – crazy! – gyda’r cinnamon swirl yn cael ei enwi fel un o’r rhai gorau yn y byd hefyd.

Mae Crwst yn pobi’r bara sy’n cael ei ddefnyddio ar y fwydlen

Mae Osian yn angerddol iawn am wneud popeth o scratch gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau posibl. Fel enghraifft, ni’n pobi’r bara i gyd sy’n cael ei ddefnyddio ar y fwydlen. Rydyn ni hefyd yn hoffi cefnogi cyflenwyr lleol lle bynnag ni’n gallu gan ein bod yn ffodus iawn i gael dewis gwych o gynnyrch yma yng Nghymru.

Mae Osian wrth ei fodd yn gweithio gyda’r cyflenwyr lleol i gael y cynhwysion gorau posib. O gig Dewi James i fwyd môr Câr-y-Môr, i micro herbs Green Up Farm a llysiau Glebelands. Mae Osian yn hoffi gwneud yn siŵr bod y cynnyrch i gyd yn dymhorol hefyd, fel riwbob lleol. Mae hyn yn gwella safon y bwyd ac ry’n ni’n teimlo bod cwsmeriaid yn gwerthfawrogi hynny hefyd.

Caffi Crwst yn Aberteifi

Ni weithiau yn neud nosweithiau sbeshal fel Steak Nights a hefyd nosweithiau mwy refined fel bwydlen chwe chwrs. Mae hyn yn rhoi cyfle i Osian goginio pethau bach mwy cymhleth a defnyddio cynhwysion falle bydde fe ddim yn cael y siawns i’w defnyddio ar y fwydlen brunch.

Y tim yn paratoi’r bwyd yn y y gegin

Un o’r pethau mwya’ heriol o redeg caffi ar hyn o bryd ydy’r cynnydd mewn costau. Ry’n ni eisoes yn ddrytach na chaffis eraill gan fod y tîm yn gwneud popeth o scratch. Mae ein costau cyflog yn uchel iawn gan ein bod yn sicrhau bod pawb yn cael eu talu dros yr isafswm cyflog. A hefyd achos ein bod yn defnyddio cynhwysion o safon dda neu gynnyrch lleol, mae popeth yn ddrytach fel mae hi. Felly pan mae costau cynhwysion yn codi, mae’n anodd cael cydbwysedd o sicrhau ein bod yn cyfro ein costau a hefyd yn rhoi pris da i gwsmeriaid. Mae’n heriol iawn ar hyn o bryd ac yn rhywbeth rydyn ni’n gweithio drwyddo o wythnos i wythnos. Er enghraifft, roedd bag o siocled yn arfer costio £60 tua thair neu bedair blynedd yn ôl a nawr mae’n costio dros £200. Felly mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol iawn o gostau cynyddol yn gyffredinol.

Osian a Catrin, cyd-berchnogion Crwst